WILLIAMS, DANIEL (1878 - 1968), gweinidog (EF) ac awdur

Enw: Daniel Williams
Dyddiad geni: 1878
Dyddiad marw: 1968
Priod: Annie Bartley Williams (née Griffith)
Rhiant: Anne Williams
Rhiant: Richard Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (EF) ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Richard E. Huws

Ganwyd 17 Mehefin 1878 yn fab i Richard Williams, ' gweithiwr prin ei geiniogau yng nghreigiau'r Penmaen ', a'i wraig Anne, ym Modnant, Llanfairfechan, Sir Gaernarfon. Addysgwyd ef yn ysgol genedlaethol y pentre, a threuliodd ddwy flynedd yn ysgol Cynffig Davies, Porthaethwy, cyn iddo gael ei dderbyn yn ymgeisydd am y weinidogaeth Wesleaidd yn 1901. Gwasanaethodd am flwyddyn gyngolegol yn Llanbedr, Meirionnydd, cyn dechrau ar ei astudiaethau yng ngholeg ei enwad yn Headingley, Leeds. Ar ôl cwpláu gyrfa lwyddiannus yno anfonwyd ef i Benisa'r-waun, cylchdaith Caernarfon, lle'r arhosodd am gyfnod o dair blynedd. Ar wahân i ddwy flynedd, 1907-08, yng ngylchdaith Manceinion, treuliodd ei holl amser yn y weinidogaeth yn gwasanaethu ardaloedd yng ngogledd Cymru gan gynnwys Aberffraw, Corwen, Dolgellau, Llanfyllin, Llangollen, Penmachno, Rhyd-y-foel a'r Wyddgrug, lle'r arhosodd am saith mlynedd. Ymddeolodd o'r gwaith cyflawn a mynd yn uwchrif yn 1943, a gwneud ei gartref ym Mhrestatyn, ond dychwelodd i'r gwaith rheolaidd yn 1948, a bu'n arolygwr cylchdaith Llangollen am flwyddyn, gan ymddeol drachefn a byw yn y dref honno, nes iddo symud i Hen Golwyn yn 1952.

Yr oedd yn bregethwr dawnus a phoblogaidd a chyhoeddodd Gwerslyfr ar Efengyl Marc yn 1934. Ond yn ogystal â'i gyfraniad sylweddol i fywyd crefyddol Cymru, yr oedd Daniel Williams yn adnabyddus fel llenor a hanesydd safonol. Cyhoeddodd bump o lyfrau plant: Cario'r post a storïau eraill (1932), Dyrnaid o yd (1924), Llwyn y brain (1930), Pant y gloch (1932) a Plant y pentre (1925), a chyfrannodd yn gyson i gylchgronau hynafiaethol. Yr oedd yn eisteddfodwr brwd ac enillodd gadair am bryddest yn Eisteddfod y Sulgwyn, Pen-y-bont-fawr, Maldwyn, 1927, a'r wobr gyntaf ar y prif draethawd, 'Teithi meddwl Ann Griffiths', yn Eisteddfod Talaith a Chadair Powys, 1932. Cafodd lawer o lwyddiant llenyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol a rhwng 1939 ac 1947 enillodd saith gwobr am draethawd neu ysgrif ar destunau amrywiol iawn. Yn 1952 fe'i hanrhydeddwyd pan estynnwyd gwahoddiad iddo draddodi'r ddarlith flynyddol yng Nghymanfa'r Eglwys Fethodistaidd a gynhaliwyd yn Llandeilo.

Yn 1909 priododd ag Annie Bartley Griffith, wyres i'r Archdderwydd ' Clwydfardd ' (David Griffiths, 1800 - 1894) yng nghapel Ebeneser, Llandudno, a ganwyd iddynt bedwar o blant, tri mab ac un ferch. Bu farw 17 Mawrth 1968 yn ei gartref, Bron-y-garth, Wynn Avenue, Hen Golwyn, ac yn dilyn gwasanaeth preifat yng nghapel Bethesda, Hen Golwyn, llosgwyd ei weddillion yn Amlosgfa Bae Colwyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.