WILLIAMS, HUGH DOUGLAS ('Brithdir '; 1917 - 1969), athro ac arlunydd

Enw: Hugh Douglas Williams
Ffugenw: Brithdir
Dyddiad geni: 1917
Dyddiad marw: 1969
Priod: Mair Eiluned Williams (née Williams)
Rhiant: Mary Jane Williams (née Williams)
Rhiant: David Thomas Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: athro ac arlunydd
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Addysg
Awdur: Elis Gwyn Jones

Ganwyd 7 Mehefin 1917 yn 8 Albert Street, Bangor, Caernarfon, yn fab i David Thomas Williams a Mary Jane (ganwyd Williams) ei wraig, ond symudodd y teulu i 4 Regent Street yn yr un dref ac yno y magwyd ef. Enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Friars, Bangor, pan oedd yn ddeg oed, ac oddi yno aeth i Goleg Celf Manceinion yn 1936, lle y cafodd ddiploma athro celfyddyd yn 1941. Bu'n llywydd undeb myfyrwyr y coleg 1939-41. O'r coleg aeth yn athro dros dro i ysgol ramadeg Whitefield, ac wedyn i ysgol uwchradd Birkenhead yn 1944 ac Ysgol King George V, Southport, yn 1945. Fe'i penodwyd i swydd athro celfyddyd yng Ngholeg Normal Bangor yn Ebrill 1948, ac yna yn bennaeth a phrif ddarlithydd yn yr adran. Priododd Mair Eiluned Williams yn Nhreharris 21 Awst 1945, a bu iddynt ddau fab. Yn aelod o Orsedd y Beirdd, gwasanaethodd am flynyddoedd ar bwyllgor celfyddyd a chrefft Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol, ac efallai mai ei bennaf cyfraniad i'r Eisteddfod oedd cael gan bwyllgor lleol Llanrwst yn 1951 ddarparu pafiliwn pwrpasol ar gyfer yr arddangosfa flynyddol. Defnyddiwyd y pafiliwn hwnnw, gyda rhai eithriadau, ym mhob Eisteddfod Genedlaethol hyd 1975. Dyluniodd rai o brif dlysau'r Eisteddfod, ac arloesodd wrth argymell darlithoedd ar gelfyddyd a chrefft yn y Babell Lên. Darluniodd nifer o lyfrau plant (e.e. Teulu'r cwpwrdd cornel gan Alwyn Thomas) a siacedi llwch nifer o lyfrau eraill. Bu farw 5 Tachwedd 1969.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.