WILLIAMS, LUCY GWENDOLEN (1870 - 1955); cerflunydd

Enw: Lucy Gwendolen Williams
Dyddiad geni: 1870
Dyddiad marw: 1955
Rhiant: Caroline Sarah Williams (née Lee)
Rhiant: Henry Lewis Williams
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: cerflunydd
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth
Awdur: Peter Lord

Ganwyd yn 1870 yn New Ferry, ger Lerpwl, yn ferch i Henry Lewis Williams, offeiriad, a Caroline Sarah (ganwyd Lee) ei wraig. Yr oedd ei thad yn fab i John Williams, Highfield Hall, Llaneurgain (Northop), Fflint, ond prin y gellid dweud bod Gwendolen Williams yn Gymraes o safbwynt ei hymrwymiad proffesiynol. Astudiodd gelfyddyd o dan Alfred Drury yng ngholeg celf Wimbledon cyn symud ymlaen i ysgolion yr Academi Frenhinol lle gweithiodd o dan Lantèri. Arddangoswyd ei cherfluniau am y tro cyntaf yn arddangosfa'r Academi yn 1893, a gweithiodd yn llwyddiannus hyd ganol Rhyfel Byd I yn Rhufain, lle adeiladodd weithdai iddi ei hun ac i artistiaid eraill.

Dioddefodd o'i phlentyndod o afiechyd yn ei chefn a drodd yn arthritis, gan beri iddi roi'r gorau i'w gwaith. Wedi dychwelyd i Loegr, cafodd wellhad yng nghanol y dauddegau ac yn 1926 cwblhaodd ei gwaith pwysicaf o safbwynt Gymreig, sef y penddelw o Robert Owen (1771 - 1858) i amgueddfa'r Drenewydd. Ailgydiodd yn ei gyrfa ac ymwelodd â T.U.A., ond ni lwyddodd i'w hailsefydlu ei hun ymhlith cerflunwyr amlycaf ei chyfnod. Bu fyw yn Llundain weddill ei hoes. Arbenigai mewn cerfluniau efydd, ysgafn a rhamantaidd, ar raddfa fach. Yr oedd yn hoff o gerflunio plant a chyflawnodd hefyd nifer o gomisiynau portread. Cedwir casgliad da o'i gwaith yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lle ceir copi o un o'i gweithiau gorau, ' Chasing the butterfly ', ac y mae enghreifftiau hefyd yng nghasgliad Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Arddangoswyd ei cherfluniau a'i dyfrlliwiau yn yr Academi Frenhinol, arddangosfeydd blynyddol Lerpwl, yn y Salon ym Mharis, ac yn Rhufain. Bu farw 11 Chwefror 1955.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.