WILLIAMS, GWILYM IEUAN (1879 - 1968), gweinidog (MC)

Enw: Gwilym Ieuan Williams
Dyddiad geni: 1879
Dyddiad marw: 1968
Priod: Phyllis Williams (née Roberts)
Rhiant: John Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (MC)
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd yng Nghaerdydd 3 Hydref 1879, mab John Williams a'i briod, ill dau o Sir Feirionnydd. Ar ôl gadael yr ysgol bu'n gweithio mewn swyddfa longau, ond ymhen ychydig flynyddoedd dechreuodd bregethu yn eglwys Heol y Crwys. Addysgwyd ef yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd (lle graddiodd gydag anrhydedd mewn Saesneg), ac yng ngholegau diwinyddol ei enwad yn Nhrefeca ac Aberystwyth. Ordeiniwyd ef yn 1909 a bu'n gweinidogaethu yn y Tabernacl, Ceinewydd (1908-20). Yn ystod y tymor yma bu'n gaplan yn y fyddin, gan wasanaethu yn yr Aifft a Phalesteina. Yn 1920 fe'i galwyd i eglwys Tŵrgwyn, Bangor, ac yno y bu hyd 1966. Priododd, 1939, Phyllis Roberts o Fangor. Bu farw 1 Chwefror 1968. Aed â'i lwch o Amlosgfa Bae Colwyn i feddrod y teulu ym mynwent Cathays, Caerdydd.

Yr oedd yn ŵr eang ei ddiwylliant a'i ddiddordebau, a bu'n amlwg ym mywyd ei Gyfundeb. Bu'n llywydd y Gymanfa Gyffredinol (1948), ac yn llywydd Sasiwn y Gogledd (1956). Bu hefyd yn gadeirydd y Symudiad Ymosodol, ac yn gadeirydd Pwyllgor Mawl ei Gyfundeb. Ymddiddorodd yn fawr mewn emyn a thôn, a bu'n cydweithio ag Evan Thomas Davies yn cyfieithu a threfnu amryw o gantawdau J. S. Bach, megis Aros di gyda ni (1919), Amser Duw, goreu yw (1922), Iesu dyrchafedig (1922), a'r Short Passion (St. Matthew's Gospel) (1931, 1932 ac 1933). Bu Dyfed (Evan Rees,) yn lletya yng nghartref ei rieni, a dysgodd yntau'r cynganeddion ganddo, gan lunio aml englyn, &c. Ysgrifennai'n achlysurol i'r Drysorfa a'r Goleuad. Bu'n aelod blaenllaw o gymdeithas y Rotariaid; bu'n llywydd cylch Merswy a gogledd Cymru, gan gynrychioli'r gymdeithas mewn cynadleddau yn America (1936) a Nice (1937).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.