Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WILLIAMS , Syr IFOR ( 1881 - 1965 ), Athro prifysgol, ysgolhaig .

Ganwyd ym Mhendinas , Tregarth, Caern. , 16 Ebr. 1881 , yn fab i John Williams a Jane ei wraig. Chwarelwr oedd ei dad. Ei daid ar ochr ei fam oedd Hugh Derfel Hughes , ac ewythr iddo oedd H. Brython Hughes . Ar ôl cael addysg elfennol yn ysgolion y Gelli a Llandygái , aeth i Ysgol Friars , Bangor yn 1894 , ond ni fu yno ond ychydig dros flwyddyn, gan iddo gael damwain ac anafu ei gefn yn ddrwg . Bu'n orweiddiog am rai blynyddoedd. Ar ôl gwella aeth yn ddisgybl i Ysgol Clynnog yn 1901 , sef ysgol dan nawdd Cyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd i roi cychwyn i ymgeiswyr am y weinidogaeth. Y meistr ar y pryd oedd J. H. Lloyd Williams . Enillodd Ifor Williams ysgoloriaeth i Goleg y Brifysgol , Bangor , yn 1902 , graddiodd gydag anrhydedd mewn Groeg yn 1905 , ac anrhydedd mewn Cymraeg yn 1906 . Treuliodd y sesiwn 1906-07 fel cynorthwywr i John Morris-Jones yn yr Adran Gymraeg ac yn gweithio am radd M.A. , ac yna yn 1907 penodwyd ef yn ddarlithydd cynorthwyol . Yn 1920 crewyd cadair iddo dan y teitl Athro Llenyddiaeth Gymraeg , a phan fu farw J. Morris-Jones yn 1929 , diddymwyd y Gadair Lenyddiaeth , a gwneud Ifor Williams yn Athro Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg . Ymddeolodd yn 1947 .

Un o ddiddordebau ysgolheigaidd cyntaf Ifor Williams oedd Cymraeg Llafar. Enillodd am draethawd ar y pwnc yn Eist. Gen. Caernarfon yn 1906 , a thraddododd ddarlithiau i lu o gymdeithasau trwy'r blynyddoedd. Diddordeb arall oedd enwau lleoedd . Cyfrannodd erthyglau ar enwau lleoedd y cylch i bapur Bethesda , Y Gwyliwr , yn 1907 , a chasglodd gryn lawer o ddefnydd ar gyfer cyhoeddi onomasticon Cymreig . Er na chyflawnwyd y bwriad, parhaodd ei ddiddordeb yn hir, a chyhoeddodd lyfr defnyddiol dan y teitl Enwau lleoedd yn 1945 . Yn 1949 ar gais I. A. Richards ac O.G.S. Crawford , ysgrifennodd ar 118 o enwau lleoedd yn y gwaith a elwir ‘ Ravenna Cosmography ’ ( Archaeologia , 1949 ).

Gyda phwrpas hollol ymarferol y cyhoeddodd Syr Ifor ei lyfrau cynharaf — Breuddwyd Maxen ( 1908 ) a Cyfranc Lludd a Llevelys ( 1909 ) — sef er mwyn darparu testunau i'w hastudio yn yr ysgolion a'r colegau, ac yn gyffelyb yn ddiweddarach Chwedlau Odo ( 1926 ) a Pedeir keinc y Mabinogi ( 1930 ). Nid gyda'r un amcan y golygodd Casgliad o waith Ieuan Deulwyn ( 1909 ), gan mai argraffiad preifat o ddau gan copi yn unig oedd hwnnw. Ond dychwelodd at yr amcan cyntaf gyda Cywyddau Dafydd ap Gwilym a'i gyfoeswyr ( 1914 , arg. diwyg. 1935 ) ar y cyd gyda Thomas Roberts . Yr oedd wedi ymddiddori'n gynnar yn Nafydd ap Gwilym — bu'n trafod blynyddoedd ei einioes mewn dwy erthygl yn Y Traethodydd yn 1909 — a'r gyfrol yn 1914 oedd yr ymgais gyntaf i drin rhai o gerddi'r bardd mewn ffordd ysgolheigaidd, er bod rhai o'r cerddi'n annilys a rhai darlleniadau'n ansicr. O hyn aeth ymlaen i ddangos, mewn erthygl sylweddol yn Nhrafodion y Cymmrodorion 1913-14 , ddylanwad barddoniaeth y Cyfandir ar Ddafydd ap Gwilym trwy'r clerci vagantes . Ymchwiliodd hefyd i hanes câr a chyfoeswr y bardd , Syr Rhys ap Gruffudd , ac arweiniodd hyn at drafodaeth ar Einion Offeiriad , cyfaill Rhys ac awdur y gramadeg cyntaf yn Gymraeg ( Y Cymmrodor , 26). Yr oedd cyfraniad Syr Ifor i'r maes hwn yn newydd iawn ac yn dra gwerthfawr.

Yr un awydd i ddarparu testunau a barodd gyhoeddi Cywyddau Iolo Goch ac eraill yn 1925 gyda Thomas Roberts a Henry Lewis . Golygodd Syr Ifor gerddi dau fardd a gasglwyd gan ddau ysgolhaig arall, sef Dafydd Nanmor ( 1923 ), casgliad Thomas Roberts ( Borth-y-gest ), a Guto'r Glyn ( 1939 ) casgliad J. Llywelyn Williams . Cyhoeddodd amryw byd o destunau, yn rhyddiaith a barddoniaeth, ym Mwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd . Bu ganddo gryn ddiddordeb hefyd yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Ysgrifennodd ar orgraff a geirfa William Salesbury ( Y Traethodydd , 1946 , 1949 ), ac ar y llyfr argraffedig cyntaf yn Gymraeg , sef Yny lhyvyr hwnn , gan fynnu mai 1547 , nid 1546 , oedd blwyddyn ei gyhoeddi. (Ond camgymeriad oedd hynny, fel y profwyd yn B.B.C.S. , 23).

Pethau ar yr ymylon oedd y rhain i gyd, oherwydd pwnc canolog holl ymchwil Ifor Williams oedd yr Hengerdd, y farddoniaeth a gysylltir ag enwau Aneirin , Taliesin a Llywarch Hen , ac ar yr Hengerdd yn uniongyrchol, neu ar faterion oedd yn taflu goleuni arni, y bu'n gweithio ers pan oedd yn bump ar hugain oed hyd o fewn ychydig flynyddoedd i'w farw. Ar ôl graddio yn 1906 cymerodd ‘ Y Gododdin ’, sef gwaith Aneirin , fel testun ymchwil am radd M.A. , a chyhoeddodd nodiadau ar ystyron rhai geiriau yn y gerdd mor gynnar ag 1908 ( Y Geninen , 26) a hefyd erthyglau yn cynnwys llawer o wybodaeth a oedd yn newydd ar y pryd yn Y Beirniad yn 1911 ac 1912 .

Eithr yr oedd y maes yn dywyll iawn a dyrys, a chyn y gellid cyhoeddi'r hyn y gellid ei alw'n astudiaeth derfynol arno, rhaid oedd ystyried yn ofalus iawn hanes Cymru a gogledd Prydain , a hanes yr iaith Gymraeg hefyd yn y cyfnod rhwng y chweched ganrif a'r ddegfed. Dyna a benderfynodd batrwm ysgolheictod Syr Ifor ar hyd ei oes, patrwm cwbl daclus a rhesymegol. Astudiodd Historia Brittonum Nennius yn drwyadl, gan mai yno y ceir y crybwylliad cynharaf am y Cynfeirdd a hanes eu cyfnod, a gwnaeth awgrymiadau pwysig ynglyn â dehongli'r gwaith hwnnw ( B.B.C.S. , 6, 7, 9, 11). Dangosodd hefyd mewn darlith i'r Cymmrodorion fod rhai o ffynonellau Nennius mewn chwedlau llafar ( Trafodion , 1946-47 ). Cwbl hanfodol oedd deall nodweddion yr iaith yn oes y Cynfeirdd, a'r peth cyntaf i'w wneud oedd astudio'n ofalus iawn y dystiolaeth gyfoes wreiddiol, megis y glosau ar eiriau Lladin sydd i'w cael mewn rhai hen lawysgrifau. Trwy hyn fe helaethodd Syr Ifor lawer iawn ar ein gwybodaeth o'r Hen Gymraeg . Yr enghraifft orau o hynny yw ei ymdriniaeth â'r darn a elwir ‘ Computus ’ ( B.B.C.S. , 3), sef esboniad a ysgrifennwyd yng nghyfnod cynnar yr iaith ar sut i ddefnyddio dau dabl seryddol. I ddehongli'r darn hwn yr oedd raid, nid yn unig wrth wybodaeth ieithyddol helaeth, ond hefyd wrth graffter a deallusrwydd i amgyffred sylwedd y cefndir. Defnydd arall a gafodd sylw Ifor Williams oedd yr arysgrifau ar gerrig, tystiolaeth bwysig iawn eto am gyflwr yr iaith yn y canrifoedd cynnar. Fel canlyniad i'r astudiaethau hyn ac eraill cyffelyb enillodd Syr Ifor wybodaeth eang iawn am ystyron geiriau Cymraeg . Ysgrifennodd nodiadau ar ugeiniau o eiriau, gan esbonio ystyron llu mawr ohonynt am y tro cyntaf, yn Y Beirniad a'r Traethodydd i gychwyn ac yna ym Mwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd o 1921 , pan sefydlwyd y cylchgrawn hwnnw, am dros bymtheg mlynedd ar hugain.

Yr oedd y gweithgarwch enfawr hwn wedi rhoi i Ifor Williams y ddawn a'r hawl i lefaru am yr Hengerdd, a dechreuodd gyda chyhoeddi ei sylwadau ar yr hawsaf i'w dehongli o'r farddoniaeth, sef yr englynion hynny y tybid unwaith eu bod yn waith Cynfardd o'r enw Llywarch Hen . Yn 1933 traddododd ddarlith goffa Syr John Rhys i'r Academi Brydeinig , a gwneud yn hysbys ei ddamcaniaeth am yr englynion. Cyhoeddwyd y testun gyda rhagymadrodd a nodiadau llawn yn y gyfrol Canu Llywarch Hen ( 1935 ). Yn wyneb y dehongliad a roir ar yr englynion, anffodus oedd eu galw'n ganu Llywarch Hen , oherwydd nid yr awdur oedd Llywarch fel y mae'r teitl yn awgrymu, ond un o'r cymeriadau y sonnir amdanynt. A mwy na hynny, y mae nifer mawr o'r englynion nad oes a wnelont ddim â Llywarch , ond yn hytrach â Chynddylan ap Cyndrwyn a'i chwaer Heledd . Yn ôl Syr Ifor yr oedd yn arfer gynt wrth adrodd chwedl neu gyfarwyddyd gynnwys ynddi ar dro neu i amcanion arbennig farddoniaeth ar ffurf englynion, a'r englynion hynny wedi eu cadw ar wahân yw'r rhain. Trist a hiraethus yw eu hansawdd — Llywarch yn ei henaint wedi colli ei feibion oll a'i gyfeillion, a Heledd yn galaru uwchben llys difrodedig Chynddylan ei brawd. Amserwyd y ddwy chwedl tua'r flwyddyn 850 . (Dylid dweud fod rhai ysgolheigion diweddar yn anghytuno â'r ddamcaniaeth hon neu wedi diwygio lawer arni).

Gorchest fwyaf Ifor Williams oedd ei ddehongliad, yn y gyfrol Canu Aneirin ( 1938 ), o'r ‘ Gododdin ’ fel nifer o farwnadau byrion i aelodau'r fyddin fechan o drichant a anfonwyd gan Fynyddawg Mwynfawr , arglwydd Dineidyn , i geisio adennill Catraeth ( Catterick heddiw) a oedd wedi ei feddiannu gan y Saeson , ond a oedd unwaith yn ganolfan bwysig. Methiant llwyr fu'r ymgyrch. Dangosodd y golygydd fod iaith rhannau o'r gerdd yn profi ei bod i'w chael yn ysgrifenedig yn y nawfed neu'r ddegfed ganrif, a diamau ei bod yn cylchredeg ar lafar ymhell cyn hynny. Dangosodd hefyd fod y ffeithiau sydd ynddi yn gytûn â'r hyn a wyddom am hanes y wlad a elwir heddiw yn ogledd Lloegr a deheudir yr Alban yn y chweched ganrif, ac felly y mae'n rhesymol credu fod brwydr Catraeth wedi ei hymladd tua'r flwyddyn 600 , a bod cnewyllyn y ‘ Gododdin ’ yn coffáu'r frwydr honno.

Yr olaf o'r Cynfeirdd a drafodwyd gan Ifor Williams oedd Taliesin . Dangosodd fod bardd o'r enw wedi canu i frenhinoedd ym Mhowys ac yn yr hen Ogledd yn y chweched ganrif, a bod rhyw ddwsin o'i gerddi ar gael heddiw. Profodd hefyd fod chwedlau am Daliesin wedi tyfu yn gynnar ac wedi para ar lafar gwlad hyd yr unfed ganrif ar bymtheg o leiaf. Cyhoeddodd Canu Taliesin ( 1960 ), a helaethiad Saesneg dan olygyddiaeth J. E. Caerwyn Williams , The poems of Taliesin ( 1968 ), a thrafodaeth ar y cymeriad chwedlonol, Chwedl Taliesin ( 1957 ).

Yn ychwanegol at ei waith mawr ar y Cynfeirdd, eglurodd Syr Ifor rai cerddi sy'n perthyn i'r ‘bwlch’ rhwng y Cynfeirdd a'r Gogynfeirdd, fel marwnad Cynddylan , mawl i Gadwallon , moliant Dinbych Penfro , ‘ Armes Prydain ’, a'r englynion hynny sydd i'w cael yn llawysgrif Juvencus yng Nghaergrawnt .

Rhoes y radio gyfle i Ifor Williams i ddatblygu'r ddawn arbennig oedd ganddo i lunio sgyrsiau ar lun ysgrifau difyr i'w darllen, a'r rheini'n fynych yn cyflwyno pwnc ysgolheigaidd neu'n athronyddu'n ysgafn. Casglwyd hwy'n dri llyfr — Meddwn i ( 1946 ), I ddifyrru'r Amser ( 1959 ) a Meddai Syr Ifor ( 1968 ).

Fel ysgolhaig ymroddedig ni bu iddo erioed ddifyrrwch mewn gwaith cyhoeddus. Gwasanaethodd ar gyrff dysgedig, fel cadeirydd Bwrdd Gwybodau Celtaidd y Brifysgol 1941-58 , llywydd Cymdeithas Hanes Môn 1939-54 a Chymdeithas Hynafiaethau Cymru 1949 . Derbyniodd fedal y Cymmrodorion yn 1938 , ac etholwyd ef yn Gymrawd o'r Academi Brydeinig yr un flwyddyn. Gwnaed ef yn farchog yn 1947 . Yn 1949 dyfarnodd Prifysgol Cymru y radd LL.D. er anrhydedd iddo. Yr oedd yn gynnyrch nodweddiadol o Ymneilltuaeth Cymru; bu'n pregethu 'n gyson ar y Suliau am lawer o flynyddoedd. Bu'n darlithio ym mhob rhan o'r wlad, ac fel darlithydd , yn gyhoeddus yn ogystal ag i ddosbarthiadau coleg, yr oedd yn fedrus iawn ar ddifyrru ei wrandawyr. Fel Athro coleg , yr oedd ei ddysg eang a'i ddull diddorol o'i chyfrannu yn ysbrydoli ei ddisgyblion.

Pr. â Myfanwy Jones , Cae-glas , Pontlyfni , Arfon , yn 1913 , a bu iddynt ferch a mab. Bu f. 4 Tach. 1965 , a chladdwyd ef ym mynwent Brynaerau .

Ffynonellau:

  • Alun Eirug Davies , ‘Bibliography’, Studia Celtica , 4 ( 1969 );
  • I. Ll. Foster , ‘Sir Ifor Williams’, Proceedings of the British Academy , 53 ( 1969 );
  • Thomas Jones yn A. T. Davies (gol.), Gwyr Llên ysgrifau beirniadol ar weithiau deuddeg gŵr llên cyfoes , Llundain, 1948 ;
  • Y Traethodydd , 136 ( 1981 );
  • gwybodaeth bersonol.

Awdur:

Y Prifathro / Syr Thomas Parry, D.Litt., (1904-85), Bangor / Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1997