WILLIAMS, JOHN JAMES (1869 - 1954), gweinidog (A) a bardd

Enw: John James Williams
Dyddiad geni: 1869
Dyddiad marw: 1954
Priod: Abigail Williams (née Jenkins)
Priod: Claudia Williams (née Bevan)
Rhiant: Elizabeth Williams
Rhiant: William Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (A) a bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd 8 Hydref 1869 yn y Taigwynion ger Tal-y-bont, Ceredigion, yn fab hynaf o 12 plentyn William ac Elizabeth Williams. Yr oedd y tad yn aelod yn eglwys Bethel (A), Tal-y-bont, a'r fam yn eglwys Pen-y-garn (MC). Mynychai ysgol Sul Pwll-glas a John Oliver, ei athro, a nododd iddo'r amser a'r lle i glywed ' clychau Cantre'r Gwaelod '. Yn ysgol Rhydypennau y cafodd ei addysg elfennol. Oherwydd diffyg gwaith yn ardal y mwynfeydd plwm bu raid i'w dad droi tua'r meysydd glo ac yn Aberpennar y bu am fisoedd yn 1879-80. Yn 1882 aeth y teulu cyfan i fyw ym Mhenrhiwceibr ac ymaelodi yng nghapel Carmel. Symudasant drachefn i Ynys-y-bŵl, ac yno yn y Tabernacl y dechreuodd y mab bregethu. Bu'n gweithio mewn pwll glo cyn mynd i academi Pontypridd o dan E. Dunmore Edwards a'i dderbyn i'r Coleg Coffa yn Aberhonddu yn 1891 gan dreulio'r flwyddyn gyntaf yng Ngholeg y Brifysgol yng Nghaerdydd lle y daeth yn uchaf yn ei ddosbarth mewn llenyddiaeth ac iaith Gymraeg. Ordeiniwyd ef yn eglwys Bethania, Abercynon, 22 Gorffennaf 1895, gan symud i eglwys Moreia, Rhymni yn 1897. Derbyniodd alwad i eglwys Seilo, Pentre, Rhondda yn 1903 i ddilyn Lewis Probert (Bywg., 754). Yn 1915 dechreuodd ar gyfnod maith fel gweinidog y Tabernacl, Treforys, lle yr arhosodd nes ymddeol ym mis Gorffennaf 1944. Yr oedd yn un o bregethwyr mwyaf poblogaidd ei ddydd ac etholwyd ef yn gadeirydd Undeb yr Annibynwyr yn 1935.

Dechreuodd gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn gynnar yn y ganrif ac enillodd y gadair ddwywaith, yn 1906 yng Nghaernarfon am awdl ' Y Lloer ' (a ddaeth yn boblogaidd ar unwaith gyda'r rhediad esmwyth i'w llinellau), ac yn 1908 yn Llangollen am awdl ' Ceiriog '. Bu'n beirniadu'r awdl am tua chwarter canrif ac ef oedd yr Archdderwydd dros gyfnod 1936-39. Ysgrifennodd ddwy ddrama gerdd ysgrythurol, Ruth (1909) ac Esther (1911) a chyfansoddwyd y miwsig iddynt gan James Davies. Cyhoeddodd stori ' Cadair Tregaron ' (1929), a gynhwyswyd yn Straeon y Gilfach Ddu (1931), yn nhafodiaith Morgannwg yn portreadu bywyd y glowyr yno. Ei gyfrol olaf oedd Y lloer a cherddi eraill (1936). Daeth rhai o'i gerddi a roddwyd ar gân yn adnabyddus iawn, megis ' Clychau cantre'r gwaelod ' a ' Canu'r plant '.

Cyfansoddodd nifer o emynau ac yr oedd yn un o olygyddion yr emynau i'r Caniedydd Cynulleidfaol newydd (1921), a Caniedydd newydd yr Ysgol Sul (1930), a bu'n cynorthwyo paratoi'r Caniedydd (1960). Ef a olygodd gyfrol goffa Hedd Wyn, Cerddi'r Bugail (1918) a bu'n olygydd ' Congl y beirdd ' yn Y Tyst, 1924-37, a'r Dysgedydd, 1933-36. Derbyniodd radd M.A. Prifysgol Cymru, er anrhydedd, yn 1930.

Priododd (1), 1899, Claudia Bevan o Aberpennar. Bu hi farw ar enedigaeth mab a fu farw ymhen blwyddyn a phum mis. Priododd (2), 1903, Abigail Jenkins, Pontlotyn, chwaer i fam Syr Daniel Thomas Davies. Bu hi farw 24 Mehefin 1936 tra oedd ef ym Mangor yn trosglwyddo cadeiryddiaeth yr Undeb i John Dyfnallt Owen. Bu yntau farw 6 Mai 1954.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.