WILLIAMS, WILLIAM JOHN (1878 - 1952), arolygwr ysgolion a chyfarwyddwr Cyngor Gwasanaeth Cymdeithasol Cymru a Mynwy

Enw: William John Williams
Dyddiad geni: 1878
Dyddiad marw: 1952
Priod: Maud Williams (née Owen)
Rhiant: Anne Williams
Rhiant: Richard Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arolygwr ysgolion a chyfarwyddwr Cyngor Gwasanaeth Cymdeithasol Cymru a Mynwy
Maes gweithgaredd: Addysg; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd 1878, pedwerydd mab Richard ac Anne Williams, Hafod, Abertawe. Fe fu ei frawd Richard Trefor Williams, O.B.E., (bu farw 1932) yn Brif Arolygwr y Weinyddiaeth Iechyd yng Nghaerdydd. Addysgwyd ef mewn ysgolion yn Abertawe ac yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle graddiodd yn LL.B. ac yn M.A. Bu'n ysgolfeistr yn ysgol sir Tre-gwyr, ysgol ganol Bootle ac ysgol sir Casnewydd-ar-Wysg. Daeth yn fargyfreithiwr yn y Middle Temple yn 1912 ac yn arolygwr ysgolion yn Adran Gymreig y Bwrdd Addysg yn 1915. Chwaraeodd ran bwysig mewn meithrin defnydd o'r Gymraeg yn ysgolion elfennol Sir Gaerfyrddin. Yn 1933 olynodd Dr. G. Prys Williams yn Brif Arolygwr Ysgolion ac arhosodd yn y swydd hon hyd ei ymddeoliad yn Rhagfyr 1944. Cymerai ddiddordeb arbennig mewn efrydiau allanol, yn enwedig yng ngweithgareddau Cymdeithas Addysg y Gweithwyr a mudiad Adran Gweithwyr Coleg Harlech. Rhwng 1945 ac 1952 gwasanaethodd fel cyfarwyddwr Cyngor Gwasanaeth Cymdeithasol Cymru a Mynwy, corff yr oedd eisoes wedi ei wasanaethu fel aseswr er 1934.

Yr oedd yn aelod o nifer fawr o bwyllgorau, ac yn eu plith Bwyllgor Cymreig Cyngor Celfyddydau Prydain Fawr, Pwyllgor Cymreig y Cyngor Prydeinig, Pwyllgor Cymreig UNESCO a Phwyllgor Apêl y B.B.C. yng Nghymru. Fe fu hefyd yn gyfarwyddwr y Cwmni Opera Cenedlaethol ac yn is-lywydd Coleg Harlech o 1948 hyd 1952. Yn 1943 dyfarnwyd iddo radd LL.D. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru.

Priododd yn 1906 â Maud, merch David Owen, Y.H., ac Anne Owen, Treforys, Abertawe. Bu iddynt un mab. Ymgartrefent yn Llanelli ac yn ddiweddarach yn 4 North Road, Caerdydd. Bu farw 23 Ionawr 1952 ac amlosgwyd ei gorff yn amlosgfa Glyn-taf.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.