Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WILLIAMS , DAVID JOHN ( 1885 - 1970 ), llenor ; g. ym Mhen-rhiw , ffermdy ym mhlwyf Llansawel, Caerf. , 26 Meh. 1885 , yr hynaf o ddau blentyn John a Sarah (g. Morgans ) Williams . Symudodd y teulu i Aber-nant yn 1891 ac aeth ef i ysgol Rhydcymerau , 1891-98 . Rhwng 1902 ac 1906 bu'n löwr yn Ferndale , y Rhondda ; y Betws , Rhydaman a Blaendulais . Ailgydiodd yn ei addysg yn 1906 pan aeth i Ysgol Stephens Llanybydder . Bu'n ddisgybl athro yn ysgol Llandrillo , Edeyrnion , 1908-10 cyn mynychu Ysgol yr Hen Goleg , Caerfyrddin , 1910-11 . Yn 1911 aeth i Goleg y Brifysgol yn Aberystwyth ac wedi graddio ac ennill Ysgoloriaeth Meyricke yn 1916 aeth i Goleg Iesu , Rhydychen , lle graddiodd yn 1918 . Ar ôl tymor yn athro Cymraeg dros-dro yn Ysgol Lewis , Pengam , bu'n athro Saesneg ac addysg gorfforol yn ysgol ramadeg Abergwaun o 1919 hyd 1936 , ac yna'n athro Cymraeg yno o 1937 tan ei ymddeoliad yn 1945 . Pr. Siân Evans , merch Dan Evans , gweinidog (A) Hawen , a Mary ei wraig, a chwaer i'r bardd William Evans , ‘ Wil Ifan ’ (gw. uchod) , yn 1925 ac ymgartrefodd y ddau yn Abergwaun gan wneud eu haelwyd yn y ‘ Bristol Trader ’ yn gyrchfan i lu o ffrindiau. Codwyd D. J. Williams yn flaenor yn eglwys Pentowr (MC) yn 1954 . Ni bu iddynt blant. Bu f. ei wraig yn 1965 a bu f. yntau'n ddramatig o briodol ar nos Sul, 4 Ion. 1970 , ar ôl rhoi anerchiad gwladgarol mewn cyngerdd cysegredig yng Nghapel Rhydcymerau . Fe'i claddwyd ym mynwent y capel hwnnw gyda'i wraig. Dadorchuddiwyd cofeb iddo ar fur tŷ Aber-nant , 17 Medi 1977 .

Flynyddoedd cyn ei f. yr oedd D. J. wedi tyfu'n chwedl ymhlith llengarwyr a chenedlaetholwyr Cymru . Yr oedd yn un o sefydlwyr Plaid Cymru yn 1925 , a chyda John Saunders Lewis a'r Parch. Lewis Valentine treuliodd naw mis yng ngharchar Wormwood Scrubs yn ystod 1936-37 am losgi rhai o gytiau'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth , ger Pwllheli . Y mae i'r brotest sumbolig honno le canolog ym muthos y mudiad cenedlaethol. Ymroes ar hyd ei oes i ymgyrchu dros Gymru Rydd Gristnogol . Ysgrifennodd gannoedd o lythyrau i'r wasg a chyflwynodd ddau o'i arwyr, y GwyddelA.E. ’ ( George William Russell ) a'r Eidalwr , Mazzini , i sylw ei gyd- Gymry . Cyhoeddodd A. E. a Chymru ( 1929 ); Y bod cenhedlig: cyfieithiad gyda rhagymadrodd o ‘The national being’ gan A. E. ( 1963 ) a Mazzini: cenedlaetholwr, gweledydd, gwleidydd ( 1954 ). Croniclodd ryw gymaint o hanes cynnar Plaid Cymru 'n ogystal mewn pamffled, Codi'r faner ( 1968 ). Trwy'r cyfan ymdeimlir ag angerdd yr unplygrwydd a'i gwnâi'n dafodog mor argyhoeddiadol.

Yr unrhyw angerdd sy'n rhoi i'w lên greadigol ei harbenigrwydd. Gyda Kate Roberts gosododd fri ar y stori fer Gymraeg a chasglwyd y mwyafrif o'i storïau cyhoeddedig ynghyd yn Detholiad o storïau'r tir ( 1966 ). Ceir rhai o'i storïau cynharaf, ynghyda nifer o bortreadau ac ysgrifau sy'n fynegai i'w themâu pwysicaf, yn Y gaseg ddu ( 1970 ). Wfftiai ar rai o lenorion amlycaf Cymru na fynnent ran yn y frwydr i ‘achub enaid’ y genedl, rhai a oedd ‘ yn gallu sefyll o'r neilltu yn llipa heb wneud unrhyw osgo i gynorthwyo yn y frwydr mewn unrhyw fodd — fel petai rhyw barlys moesol wedi eu taro ’. Mor ddiffygiol oeddent o'u cyferbynnu â'r proffwydi hynny yn Israel gynt, propagandwyr diedifar a roes fod i lenyddiaeth fawr. ‘ Llenorion dan angerdd cydwybod ’ a oedd ar Gymru eu hangen ac fel propagandydd o genedlaetholwr Cristnogol yr ymgymrodd D. J. â llenydda.

Llenor bugeiliol ydoedd yn ei hanfod, llenor y ‘gweld cofus’. Yn ei ganol oed a'i henaint cynnar y lluniodd y cyfrolau a fydd o werth arhosol. Fel ei arwr, William Llewelyn Williams ( Bywg ., 1020) , ymserchodd yn llwyr ym mywyd gwledig ‘ Shir Gâr ’, ond ni fodlonodd ar sentimenta. Gwelodd y Gymru a oedd iddo ef yn werth byw a marw drosti yn nrych ei ‘filltir sgwâr’. Fe'i delfrydodd, mae'n wir, ond y mae'r un mor wir iddo ddangos y gymdeithas wâr, ymdrechgar, aml ei doniau a ddelweddodd yn Hen wynebau ( 1934 ) a Storïau'r tir glas ( 1936 ) yn graddol ymddatod yn Storïau'r tir coch ( 1941 ) a Storïau'r tir du ( 1949 ) wrth i'r ‘newyddfyd blin’ gau amdani. Yr un weledigaeth a roes fod i'w ddwy gyfrol o hunangofiant, Hen dŷ ffarm ( 1953 ) ac Yn chwech ar hugain oed ( 1959 ). Hen dŷ ffarm yw ei gampwaith, hanes diwyllio tir Penrhiw , creu gardd a pherllan ac yna'n gadael am fod caledwaith yr ennill yn esgor ar afiechyd, a chroesterau o fewn teulu yn rhwystro parhad. Fel pob paradwys fugeiliol glasurol, difethir paradwys D. J. , hefyd, o'r tu mewn yn ogystal ag o'r tu maes.

Ni all fod parhad i'r un baradwys ddynol, ond y mae'n rhaid i ddyn o hyd wrth baradwys i'w choledd. Y mae'n angen gwaelodol sydd mor hen â bodolaeth, a'i ymateb iddo sy'n peri fod D. J. Williams ar ei orau yn un o archstorïwyr y Gymraeg . Cydnabuwyd ei gamp yn 1957 pan roes Prifysgol Cymru radd D.Litt. iddo er anrh. Yn 1963 etholwyd ef yn Llywydd yr Academi Gymreig .

Llyfryddiaeth:

  • John Gwyn Griffiths (gol.), D. J. Williams, Abergwaun Cyfrol deyrnged , Llandysul, 1965 ( 1965 );
  • idem, D. J. Williams, Abergwaun Y Gaseg Ddu a gweithiau eraill , Llandysul, 1970 ( 1970 );
  • idem, , Caerdydd, 1983 , Bro a bywyd 5, ( 1983 );
  • Dafydd Jenkins , D. J. Williams , Caerdydd, 1973 ( 1973 ).

Awdur:

Yr Athro Hywel Teifi Edwards, Llangennech.