Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WILLIAMS , GRIFFITH JOHN ( 1892 - 1963 ), Athro prifysgol ac ysgolhaig Cymraeg .

G. yn Cellan Court ( y Llythyrdy ), Cellan , Ceredigion , ar 19 Gorff. 1892 , mab hynaf John ac Anne (g. Griffiths ) Williams ; ei frawd iau oedd Dr David Matthew Williams ( 1900 - 1970 ), arolygwr ysgolion . Gof oedd y tad wrth ei grefft a chan fod pum erw o dir ynghlwm wrth y tŷ, cadwai fuwch neu ddwy a mochyn yn ogystal â gweithredu fel postmon yr ardal; bu'n arwain y canu yng Nghapel yr Erw (A) am dros 50 ml. a hefyd yn ysgrifennydd yr eglwys ; bu farw yn 1931 yn 87 ml. oed. Yr oedd tad John Williams yn disgyn o'r Dafisiaid , teulu o ofaint yn Nyffryn Aeron a phriododd ferch teulu nodedig o seiri coed a cherddorion ym mro Cellan . O Ddyffryn Aeron hefyd y deuai mam G. J. Williams , hithau'n ferch i Elizabeth Griffiths , gwraig y dywedir ei bod yn prydyddu llawer, er nad ymddengys bod dim o'i gwaith wedi ei gadw.

Addysgwyd ef yn ysgol y cyngor, Cellan , ac ar 20 Medi 1905 ymaelododd yn ysgol ganolraddol Tregaron , lle'r oedd yn rhaid iddo letya dros ddyddiau'r wythnos. Collodd tua blwyddyn gyfan o ysgol yn gynnar yn ei yrfa yno oherwydd iddo orfod aros gartref er mwyn cryfhau ei iechyd. Dyna pryd y bu'n cynorthwyo'i dad i gario'r post a dechrau ymddiddori yn hanes y fro gan ddarllen pob math o lyfrau ar hanes lleol a chyffredinol. Yr oedd yn y cartref lyfrau megis Y Gwyddoniadur , Hanes y Brytaniaid a'r Cymry , Cannwyll y Cymry , Difyr-Gampau … Twm Shon Catti , a chyfrolau wedi eu rhwymo o'r Cennad Hedd a'r Diwygiwr . Mynnai ei hen athro , S. M. Powell , mai yn ystod y flwyddyn honno, ac yntau'n rhydd o ormes addysg ffurfiol, y plannwyd hedyn yr ysgolhaig a flagurodd yn ddiweddarach.

Yn 1911 aeth i Goleg Prifysgol Cymru yn Aberystwyth gan ddal Ysgoloriaeth Cynddelw ; bu'n astudio Mathemateg, Lladin , Hanes a graddio gydag anrhydedd yn y Gymraeg yn 1914 . Bwriodd y ddwy flynedd nesaf yn athro yn ysgol sir Dolgellau ( 1914-15 ) ac yn ysgol sir y Porth , Cwm Rhondda ( 1915-16 ). Yna, cafodd ysgoloriaeth ymchwil a dychwelodd i Aberystwyth i astudio testunau Cymraeg Canol ac yn 1918 dyfarnwyd iddo radd M.A. am draethawd ar ‘ The verbal forms in the Mabinogion and Bruts ’. Yn y cyfamser, ar anogaeth J. H. Davies a chyda chymorth ysgoloriaeth ychwanegol aeth ati i astudio llawysgrifau Llanofer a drosglwyddwyd i'r Llyfrgell Genedlaethol yn 1917 . Dyna sut y dechreuodd ymddiddori ym mywyd a gwaith Iolo Morganwg ( Edward Williams ) , ei brif faes ymchwil o hynny hyd ddiwedd ei oes. Yn 1918 , yn Eist. Gen. Castell-nedd , enillodd wobr y prif draethawd ar y testun ‘ Beirdd Morgannwg hyd ddiwedd y Ddeunawfed Ganrif ’. Yn 1919 , cyhoeddodd ysgrifau yn Y Beirniad ar waith Iolo a dyfarnwyd iddo Gymrodoriaeth Prifysgol Cymru er mwyn iddo barhau â'i astudiaethau yn y maes hwn. Bu'n gweithio o dan gyfarwyddyd Syr John Morris-Jones ym Mangor yn ystod sesiwn 1919-20 a threuliodd gyfnodau yn astudio llawysgrifau yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain , Llyfrgell Bodley , Rhydychen , Llyfrgell Rhydd , Caerdydd , yn ogystal â chofrestri plwyfydd Bro Morgannwg . Yn y cyfnod hwn hefyd, bu'n rhaid iddo amddiffyn ei ysgolheictod yn y wasg gyhoeddus yn wyneb ymosodiadau ffyrnig gwŷr amlwg megis W. Llewelyn Williams na fynnai glywed y gwir am ffugiadau Iolo Morganwg . Parodd yr ymgecru cyhoeddus i drefnwyr Eist. Gen. Caernarfon , 1921 , bennu'n destun y prif draethawd un agwedd benodol ar waith Iolo , sef ei gysylltiad â'r un-ar-bymtheg o gywyddau a gynhwyswyd yn ‘ Y Chwanegiad ’ i Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym ( 1789 ). Dyma'r cywyddau a anfonasai Iolo i Lundain at Owen Myfyr a William Owen-Pughe , golygyddion y llyfr, gan honni iddo eu copïo o hen lawysgrifau a ddiogelwyd ym Morgannwg . Y tri beirniad oedd John Morris Jones , T. Gwynn Jones a W. J. Gruffydd . Yr unig gystadleuydd oedd G. J. Williams a gyflwynodd draethawd maith a manwl yn profi'n derfynol mai gwaith Iolo Morganwg ei hun oedd pedwar-ar-ddeg o'r cywyddau. Yr oedd yn llwyr deilyngu'r wobr o £40.

Y mae llwyddiannau eisteddfodol G. J. Williams yn dangos y lle pwysig a oedd i'r Eist. Gen. ym mywyd Cymru a'r cyfraniad rhagorol a wnâi i hyrwyddo ysgolheictod Cymraeg cyn i'r Brifysgol gael ei thraed dani. Gwasanaethodd yr Eisteddfod fel ysbardun i G. J. Williams , nid yn unig fel ysgolhaig ond fel bardd hefyd. Soniai'n frwdfrydig hyd ddiwedd ei oes am ei ymweliad cyntaf â'r Eisteddfod pan aeth ei dad ag ef i Gaerfyrddin yn 1911 yn union cyn iddo fynd yn fyfyriwr i goleg Aberystwyth . Yn ystod y deng ml. nesaf, hoffai gystadlu ac enillodd yn Eist. Corwen yn 1919 ar y tair telyneg, y soned, y darn barddonol i'w adrodd ac ar gyfansoddi penillion telyn. Ac yn y Barri yn 1920 y gwobrwywyd ei delyneg ‘ Gwladys Ddu ’ a'i soned ‘ Llanilltud Fawr ’. Yn wir, yn y cyfnod hwn, yr oedd yn cyflym ddatblygu'n fardd o bwys ac ymhlith ei bapurau ceir cyfrol sylweddol o gerddi yn llawysgrifen ei briod (gw. isod). Ond wrth ymroi i ymchwilio ar Iolo a'i benodi yn 1921 yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol , Caerdydd , rhoes heibio farddoni a'i duedd yn ddiweddarach oedd edrych ar ei gerddi fel difyrrwch ei gyfnod bachgennaidd.

Rhoes o'i orau eithaf i'w waith fel darlithydd ac yn 1946 olynodd yr Athro W. J. Gruffydd yng Nghadair y Gymraeg , canys erbyn hyn yr oedd wedi datblygu'n un o brif ysgolheigion Cymraeg ei gyfnod . Er mwyn gwahanu'r us oddi wrth y grawn yn nysg enfawr a dychymyg toreithiog Iolo Morganwg , ymroes i feistroli pob agwedd ar ddysg yr iaith Gymraeg a'i thraddodiad llenyddol. Canlyniad hyn oedd iddo gyfrannu'n ddisglair mewn llawer maes. Yn Gramadegau'r Penceirddiaid ( 1933 ), ceir testun safonol o ramadeg y beirdd yn yr Oesoedd Canol gyda rhagymadrodd awdurdodol ar y ffynonellau llawysgrif ac ar addysg y beirdd. Gwnaeth astudiaeth drwyadl o waith ysgolheigion Cymraeg y Dadeni Dysg gan olygu argraffiadau o Barddoniaeth neu Brydyddiaeth ( 1593 ) Wiliam Midleton ac Egluryn Phraethineb ( 1595 ) Henri Perri . Eithr ei gampwaith yn y maes hwn oedd ei olygiad meistraidd o ‘ Ramadeg Cymraeg ’ Gruffydd Robert ( 1939 ), gwaith a olygodd ymchwiliadau yn y Biblioteca Ambrosiana ym Milan a llyfrgelloedd eraill yn yr Eidal . Hefyd, gwnaeth gyfraniadau gwreiddiol i lên a dysg yr 17eg ganrif, y 18ed a'r 19edd ganrif. Y mae ei gyhoeddiadau yn cynnwys astudiaethau safonol o waith Stephen Hughes , Charles Edwards , Edward Lhuyd , William Owen-Pughe , ac eraill. Hoeliodd sylw ar le allweddol bwysig cymdeithasau Cymreig Llundain , yn enwedig y Cymmrodorion a'r Gwyneddigion , yn natblygiad llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod diweddar. Dangosodd sut y gwelir hwy'n dilyn egwyddorion beirniadol Goronwy Owen a mudiad clasurol y 18ed ganrif ac yn sefydlu'r eisteddfod ddiweddar fel cyfrwng cynhyrchu llenyddiaeth a hyrwyddo ysgolheictod. Ymhellach, mynnodd mai ‘ Gorsedd Beirdd Ynys Prydain ’, creadigaeth Iolo , er mai ffug ydoedd yr hynafiaeth a hawliai iddi, a ramanteiddiodd yr eisteddfod a'i gwneud yn fudiad poblogaidd y werin yn ail hanner y 19eg ganrif a chael dylanwad aruthrol ar dwf yr ymwybod cenedlaethol a datblygiad llenyddiaeth a diwylliant yng Nghymru .

Y mae'n sicr mai ar draddodiad llenyddol Morgannwg y cyflawnodd G. J. Williams ei waith praffaf a llawnaf. Yn 1926 , cyhoeddwyd traethawd buddugol 1921 o dan y teitl Iolo Morganwg a Chywyddau'r Ychwanegiad . Yn 1948 , ymddangosodd Traddodiad llenyddol Morgannwg , a fwriadwyd ar y cyntaf yn bennod ragarweiniol i gofiant Iolo ond a dyfodd yn gyfrol o dros dri chan tudalen. Ac yntau'n barod i ymgodymu o ddifrif â llunio ffurf derfynol ei gofiant arfaethedig, rhwng 1953 ac 1955 , trosgwlyddodd Iolo Aneurin Williams , un o ddisgynyddion Iolo , i'r Llyfrgell Genedlaethol focseidiau o lythyrau a llyfrynnau o waith Iolo Morganwg a fu ym meddiant y teulu ym Middlesborough a gogledd-ddwyrain Lloegr , ac yn Kensington , ond a fu ar goll nes i chwaer Iolo Aneurin Williams etifeddu'r tŷ y bu'r teulu'n byw ynddo cyn ei werthu i deulu arall, a chael hyd i'r llawysgrifau mewn cist a adawyd mewn cut yn yr ardd cyn gwerthu'r eiddo. Ar ôl meistroli'r deunydd ychwanegol hwn, ymddangosodd Iolo Morganwg: y gyfrol gyntaf yn 1956 . Ysywaeth, dyma'r unig gyfrol a gyfansoddodd. Er iddo ymddeol o Gadair y Gymraeg yng ngholeg Caerdydd yn 1957 , ni fynnai ymgyfyngu a chanolbwyntio ar orffen cofiant Iolo yn unig. Parhaodd i olygu Llên Cymru , y cylchgrawn hanner-blynyddol y bu ef yn bennaf gyfrifol am ei sefydlu yn 1950 er mwyn cyhoeddi ffrwyth ymchwil i hanes llenyddiaeth Gymraeg. Yn 1959 , traddododd y Ddarlith O'Donnell yng ngholegau Prifysgol Cymru . Ei destun oedd ‘ Edward Lhuyd ’, gwaith a olygodd lawer o ymchwilio yn Rhydychen . Beirniadai yn yr Eist. Gen. , darlithiai i gymdeithasau lleol ac yn 1960 , etholwyd ef yn llywydd cyntaf yr Academi Gymreig . Rhoddai lawer o'i amser hefyd i ymchwilio i hanes geiriau unigol yn rhinwedd ei aelodaeth o fwrdd golygyddol Geiriadur Prifysgol Cymru . Ymfalchïai'n fawr iawn fod R. J. Thomas ( 1908 - 1976 ), un o'i hen ddisgyblion disgleiriaf, wedi cysegru ei yrfa'n gyfan gwbl i wasanaethu'r Geiriadur fel golygydd a bu'n hael ei gefnogaeth a'i gynhorthwy iddo. Hefyd, rhwng 1959 ac 1961 , ef oedd cadeirydd Pwyllgor Amgueddfa Werin Sain Ffagan ac ymddiddorai'n fawr yn natblygiad yr Adran Traddodiadau Llafar a Thafodieithoedd . Pa un bynnag, yn ystod 1962 yr oedd wedi trefnu ei holl adysgrifau, nodiadau a mynegeion ar Iolo a'i waith ac yn barod i gychwyn ar y gorchwyl o gyfansoddi'r ail gyfrol. ‘ Iolo Morganwg ' oedd ei ddewis bwnc pan wahoddwyd ef i draddodi darlith flynyddol y B.B.C. Saesneg o flaen cynulleidfa yn Y Bont-faen, Morg. , yng ngwanwyn 1963 . Ysywaeth, ni chafodd ei thraddodi ond i'w wraig yn nhawelwch ei stydi, a thra oedd yn newid geiriad y paragraff olaf, trawyd ef yn sâl wrth ei ddesg a bu f. ymhen ychydig ddyddiau ar 10 Ion. 1963 .

Pr. yn 1922 ag Elizabeth Elen Roberts , Blaenau Ffestiniog , cyd-efrydydd yng ngholeg Aberystwyth ( 1910-14 ) a fu'n athrawes y Gymraeg yn ysgol sir y merched, Trefforest , Pontypridd ( 1914-18 ) ac yn ysgol sir Glynebwy , Mynwy ( 1918-22 ). Ni chawsant blant a bu hithau f. yn Ysbyty Dewi Sant , Caerdydd , ar 31 Ion. 1979 wedi ychydig ddyddiau'n unig o anhwylder. Bu hi'n gefn ac yn gynhorthwy ymarferol mawr i'w phriod ar hyd ei yrfa ac yn fawr ei gofal am yr iaith Gymraeg a holl fywyd Cymru . Meddiannwyd y ddau gan awydd angerddol i wasanaethu eu gwlad a'u cenedl . Gwnaethant eu cartref o 1922 hyd 1933 yn 9 Bedwas Place , Penarth , ac yno ar 7 Ion. 1924 , y daeth Saunders Lewis a W. Ambrose Bebb at ei gilydd i sefydlu ‘mudiad Cymreig newydd' , penderfynu ar egwyddorion sylfaenol, a dewis ‘ W. Ambrose Bebb yn Llywydd y mudiad, Saunders Lewis yn Ysgrifennydd a G. J. Williams yn Drysorydd ’. Dyma'r ffrwd o dde Cymru a ymunodd â'r ffrwd o'r gogledd i sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru yn Eist. Gen. Pwllheli yn Awst 1925 . Yn 1933 , symudasant i Bryntaf , Gwaelod-y-garth , ac yn ei hewyllys gadawodd Mrs Williams y tŷ hwn i Blaid Cymru . Hefyd, yn 1968 , cyflwynodd swm sylweddol o arian i Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru er mwyn sefydlu ymddiriedolaeth i gynorthwyo plant o dan anfantais sydd yn Gymry Cymraeg . Cafodd yr amcanion sêl a bendith y Comisiwn Elusennau ac y mae ‘ Ymddiriedolaeth Bryn Taf ’ wedi cynorthwyo nifer o blant o wahanol rannau o Gymru dros y blynyddoedd.

Bu G. J. Williams yn gasglwr brwd ar hen lyfrau Cymraeg trwy gydol ei oes ac yr oedd ganddo lyfrgell odidog a gynhwysai drysorau megis ei ddau gopi o rannau o Destament Newydd William Salesbury , Y Drych Cristianogawl ( 1585 ), copi Thomas Evans Hendre Forfudd o Ramadeg Siôn Dafydd Rhys ( 1592 ) a fu wedi hynny'n eiddo i William Maurice o Lansilin , ynghyd â llawer o lyfrau eraill prin o'r 17eg ganrif a'r 18ed ganrif. Y mae llyfrgell G. J. Williams a'i bapurau ynghyd â'r silffoedd, y cypyrddau a'i ddesg yn awr yn y Llyfrgell Genedlaethol .

Ceir rhestr o'i gyhoeddiadau yn Agweddau ar hanes dysg Gymraeg , gol. Aneirin Lewis , Caerdydd , 1969 , 279-86.

Ffynonellau:

  • Ymchwil bersonol;
  • Aneirin Lewis yn W. Alun Mathias ac E. Wyn James (gol.), Dysg a dawn cyfrol goffa Aneirin Lewis , Caerdydd, 1992 , 30-37, 67-81;
  • Ceri W. Lewis , Griffith John Williams (1892-1963) y dyn a'i waith , Caerdydd, 1994 ( ).

Awdur:

Aneirin Lewis, M.A., (1924-89), Caerdydd

Blwyddyn Cyhoeddi: 1997