WILLIAMS, ERNEST LLWYD (1906 - 1960), gweinidog (B), prifardd a llenor

Enw: Ernest Llwyd Williams
Dyddiad geni: 1906
Dyddiad marw: 1960
Priod: Eiluned Williams (née James)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (B), prifardd a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Benjamin George Owens

Ganwyd 12 Rhagfyr 1906 yn y Lan, ger pentref Efail-wen, Caerfyrddin. Addysgwyd ef yn ysgol gynradd Brynconyn, Llandysilio (wrth draed John Edwal Williams, tad ei gyfaill oes Waldo Williams ) ac yn yr ysgol sir yn Arberth lle y dechreuodd ei yrfa wedyn yn brentis fferyllydd. Bedyddiwyd ef yn 1923 yn Rhydwilym, a bu traddodiadau'r eglwys hynafol honno a diwylliant bro'r Preselau yn ddylanwadau parhaol ar ei waith llenyddol. Wedi cwrs yng Ngholeg y Bedyddwyr, Bangor, 1928-31, ordeiniwyd ef 2 Medi 1931 yn weinidog eglwys y Tabernacl, Maesteg. Sefydlwyd ef 10 Medi 1936 yn eglwys Ebeneser, Rhydaman, lle y bwriodd weddill ei oes. Yr oedd yn weinidog uchel ei barch ac yn bregethwr a galw cyson am ei wasanaeth yng ngwyliau ei enwad. Traddododd anerchiad yng Nghynhadledd Undeb Bedyddwyr Cymru, 1943, ar ' Y weinidogaeth hon '.

Daeth i fri yn bennaf ar gyfrif ei farddoniaeth; am gerddi buddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn arbennig am awdl ' Y Ffordd ' yn 1953 a phryddest ' Y Bannau ' yn 1954. Cyhoeddodd Cerddi'r plant (1936), ar y cyd â Waldo Williams ; a detholiad o'i ganu Tir Hela (1956); a lluniodd gerddi ar gyfer W. Rhys Nicholas (gol.), Beirdd Penfro (1961). Un o nodweddion ei grefft brydyddu oedd ei ddawn i arbrofi eithr heb ymwrthod â thraddodiad. Ymddengys dau emyn wrth ei enw yn Y Llawlyfr Moliant Newydd (1955), ac ef, yn 1943, biau'r geiriau poblogaidd ' Pwy fydd yma 'mhen can mlynedd? '. Bu am gyfnod yn olygydd ' Colofn yr awen ' yn Seren Cymru, ac yn aelod o dîm Ymryson y Beirdd Sir Gaerfyrddin.

Bu'r un mor doreithiog ac o bosibl yn fwy arhosol ei gynnyrch ym myd rhyddiaith. Cyhoeddodd Rhamant Rhydwilym (1939), braslun hylaw o hanes yr achos (ar y cyd â'r ysgrifennydd John Absalom); Hen ddwylo (1941), yn cynnwys portreadau o 'gymeriadau' bore oes yng nghysgod y Preselau; Tua'r cyfnos (1943), nofel fuddugol yng nghystadleuaeth Llyfrau'r Dryw; cofiant Thomas Phillips, 1868-1936 (1946), Prifathro Coleg y Bedyddwyr, Caerdydd (Bywg 718); Dan y sêr, rhaglen Urdd y Seren Fore ar gyfer Cynhadledd Undeb Bedyddwyr Cymru ym Mrynaman, 1948; a dwy gyfrol Crwydro sir Benfro (1958, 1960). Bu hefyd yn gyfrifol am golofn wythnosol, ' Yn y ty wrth y tân ', yn y South Wales Guardian.

Priododd, 11 Awst 1936, yn Rhydwilym, Eiluned James, Maenclochog, a ganed iddynt un ferch. Bu farw yn frawychus o sydyn 17 Ionawr 1960, a chladdwyd ef ym mynwent Rhydwilym. Cynhaliwyd cyfarfod coffa iddo yn Rhydwilym, 5 Chwefror 1960, a llwyfannwyd rhaglen deyrnged iddo ym Maenclochog, 21 Mawrth 1979.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.