WILLIAMS, CHRISTMAS PRICE (1881 - 1965), gwleidydd a pheiriannydd

Enw: Christmas Price Williams
Dyddiad geni: 1881
Dyddiad marw: 1965
Priod: Marion Williams (née Davies)
Rhiant: Mary Price Williams
Rhiant: Peter Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd a pheiriannydd
Maes gweithgaredd: Peirianneg, Adeiladu, Pensaerniaeth Forwrol ac Arolygu Tir; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd 25 Rhagfyr 1881 yn fab i Peter Williams a Mary Price ei wraig, Brymbo Hall, Wrecsam, Sir Ddinbych. Yr oedd ei dad yn gyfarwyddwr ac yn rheolwr Cwmni Dur Brymbo. Addysgwyd ef yn Ysgol Grove Park, Wrecsam, yn yr Wyddgrug a Phrifysgol Victoria, Manceinion, lle graddiodd yn B.Sc. gydag anrhydedd mewn gwyddoniaeth ac yn M.Sc. Enillodd ei fywoliaeth fel peiriannydd yn Sheffield, Warrington a De Affrica, a daliodd nifer o swyddi gweinyddol uchel. Gwnaeth waith ymchwil ar ddatblygiad diwydiannol Canada. Yn 1924 cafodd ei ethol yn A.S. (Rh.) dros Wrecsam, ar ôl iddo sicrhau dealltwriaeth gyda'r Ceidwadwyr yn yr etholaeth, pan orchfygodd yr hanesydd Robert Richards. Cafodd siom aruthrol pan ailenillodd Richards ei sedd yn 1929 a dyna ddiwedd ar ei yrfa wleidyddol. Gwasanaethodd fel ynad heddwch dros swydd Lincoln, yr oedd yn Annibynnwr a chanddo ddiddordeb mewn cerddoriaeth.

Priododd, 23 Mehefin 1909, Marion, merch Thomas Davies, Brymbo. Yr oedd hi yn awdur nifer o nofelau a dramâu. Ymgartrefent yn Sanddeth House, Gwersyllt, Wrecsam ac am gyfnod yn 42B Courtfield Gardens, Llundain. Bu farw 18 Awst 1965.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.