WILLIAMS, THOMAS ('Tom Nefyn ', 1895 - 1958), gweinidog (MC) ac efengylydd

Enw: Thomas Williams
Ffugenw: Tom Nefyn
Dyddiad geni: 1895
Dyddiad marw: 1958
Priod: Ceridwen Roberts Williams (née Jones)
Rhiant: Ann Thomas (née Williams)
Rhiant: John Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (MC) ac efengylydd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 23 Ionawr 1895 yn y Fronolau, Boduan, Caernarfon, mab John Thomas ac Ann Williams - y tad yn fardd gwlad adnabyddus yn Llŷn. Symudodd y teulu i gyffiniau Nefyn, ac ymsefydlu wedyn ym Modeilas yn ardal y Pistyll lle y magwyd ef. Gadawodd ysgol elfennol Nefyn yn 1909 a bu'n gweithio yn chwarel ithfaen yr Eifl. Ymunodd â'r fyddin yn 1914, a gwelodd frwydro yn y Dardanelles, Ffrainc, yr Aifft a Chanaan, gan ddioddef caledi mawr a'i glwyfo. Cyfarfu â David Williams (Bywg. 2, 173-4), a oedd yn un o gaplaniaid y fyddin, yn ystod ei wasanaeth yn y Dwyrain Canol. Byddai'n prydyddu yn y dyddiau hynny a chyhoeddodd ei gyfaill, William Williams o Gaernarfon, gasgliad bychan o'i ganeuon dan y teitl Barddoniaeth o waith Twm Nefyn (d.d.). Dychwelodd o'r rhyfel yn basiffist angerddol. Ymhen rhai blynyddoedd cyhoeddodd Dagrau Cain - dagrau Crist (1935), traethawd yn erbyn rhyfel, a chyhoeddodd Cymdeithas y Cymod blamffledyn o'r eiddo, At Suvla Bay: what a soldier learnt at Gallipoli (d.d.). Dechreuodd gynnal cyfarfodydd efengylaidd o gwmpas ei gartref, a chymhellwyd ef i ymgeisio am y weinidogaeth. Aeth i ysgol y Porth, Cwm Rhondda, i'w gymhwyso'i hun ar gyfer y gwaith dan gyfarwyddyd R. B. Jones. Bu wedyn yng ngholegau diwinyddol ei Gyfundeb yn Aberystwyth a'r Bala. Ordeiniwyd ef yn 1925, a'r un flwyddyn priododd Ceridwen Roberts Jones o Goedpoeth; ganwyd 3 o blant o'r briodas. Cafodd alwad i eglwys Ebeneser, y Tymbl, Sir Gaerfyrddin, ardal y glo carreg, lle bu llawer o wrthdaro diwydiannol a pholiticaidd yn y 1920au.

Cafodd Tom Nefyn amser cynhyrfus yn y Tymbl, a thynnodd ei bregethu ar faterion cymdeithasol - cyflogau, cyflwr tai'r glowyr, &c. - sylw mawr. Yr oedd ei syniadau am natur eglwys a'i olygiadau athrawiaethol hefyd braidd yn newydd. Amheuai rhai o arweinwyr Henaduriaeth De Myrddin ei fod yn cyfeiliorni o ran ei athrawiaeth, ac aed â'i achos gerbron Sasiwn y De. Mynnai, ar lawr y sasiwn, gael gwybod beth oedd y safonau athrawiaethol y disgwylid iddo gydymffurfio â hwy. Llusgodd yr achos yn ei flaen o sasiwn i sasiwn, a rhoddwyd sylw mawr iddo gan y wasg ddyddiol ac wythnosol. Cyhoeddodd yntau faniffesto maith (80 tt.) yn 1928, dan y teitl Y ffordd yr edrychaf ar bethau, ac yn sasiwn Treherbert (Ebrill 1928) datganwyd fod ei olygiadau athrawiaethol yn groes, nid yn unig i safonau'r Cyfundeb, ond i ffydd hanesyddol yr eglwys Gristionogol. Gofynnwyd iddo ailystyried ei safle a chydymffurfio â safonau ei Gyfundeb neu ymddiswyddo fel gweinidog. Apeliodd nifer o weinidogion a lleygwyr blaenllaw'r Cyfundeb yn erbyn dyfarniad y sasiwn, a chyhoeddwyd pamffledyn o ble a phrotest yn enw pump o flaenoriaid Ebeneser. Yn sasiwn Nantgaredig (Awst 1928) penderfynwyd 'ei fod i'w atal o holl waith y weinidogaeth' gan hyderu y câi ei arwain i ailystyried ei safle a chael ei le'n ôl fel gweinidog. Gorffennodd ei weinidogaeth yn Ebeneser yn nechrau Medi. Datgorfforwyd eglwys Ebeneser ac ailgorfforwyd eglwys yno i'r sawl a gydymffurfiai ag amodau'r Cyfundeb. Ymgasglodd ei gefnogwyr yn y Tymbl at ei gilydd, a chafwyd cymorth ariannol gan y Crynwyr i adeiladu 'ty cymdeithas' yn y pentref. Agorwyd Llain-y-Delyn yn niwedd Tachwedd 1929, ond siomwyd y cefnogwyr pan benderfynodd Tom Nefyn, ar ôl tymor o orffwys a myfyrdod yn sefydliad y Crynwyr yn Woodbrooke, Selly Oak, Birmingham, gael ei adfer fel gweinidog gan ei Gyfundeb. Teimlai'n barod bellach i dderbyn y ' Datganiad byr ar ffydd a buchedd ' a fabwysiadwyd gan y Corff, a derbyniwyd ef yn ôl yn sasiwn Porthcawl yn Ebrill 1931 (gweler The Tom Nefyn controversy, pamffledyn a gyhoeddwyd gan The Welsh Review Co., Ltd., Tonmawr, Port Talbot (c. 1929); Tom Nefyn-Williams, Yr Ymchwil (1949); ac E. P. Jones, Llain-y-Delyn, cymdeithas Gristnogol y Tymbl (1970).)

Yn 1932 derbyniodd Tom Nefyn alwad i fugeilio eglwys Bethel, Rhosesmor, Fflint, a bu yno hyd 1937. Symudodd wedyn i'r Gerlan yn Arfon (1937-46); arolygu eglwysi Tarsis a South Beach, Pwllheli (1946-49); a gofalu am eglwysi Edern a'r Greigwen yn Llŷn (1949-58). Efengylai yn ei ddull arbennig ef ei hun ar hyd y blynyddoedd hyn, ac ni bu neb yn fwy effeithiol nag ef yn ei genhadaeth, nid yn unig mewn capel ond mewn neuaddau ac ysbytai a thafarnau ac yn yr awyr agored mewn ffeiriau ac ar gornel stryd a'r priffyrdd. Efengylai y ffordd y cerddai trwy ganu a phregethu a chynghori. Nid oedd yn un hawdd cydweithio ag ef, gan y mynnai ei ffordd ei hun; gellid dweud mai dyn unig ydoedd er ei fod yn caru'i gyd-ddynion yn angerddol. Ysgrifennodd lawer i'r Goleuad. Fel ei dad o'i flaen hoffai brydyddu, a cheir ei ganeuon yn Yr ymchwil ac yn y papurau wythnosol, &c. Bu farw yn ddisymwyth nos Sul 23 Tachwedd 1958, ar ôl cadw oedfa yng nghapel Rhydyclafdy, a chladdwyd ei weddillion yn Edern.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.