Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



YOUNG, JAMES JUBILEE (1887-1962), gweinidog (B); g. 15 Mai 1887 (blwyddyn Jiwbili y frenhines Victoria) yn fab Thomas ac Eunice Young (brodyr iddo oedd y Parchedigion Jabes, Glasnant ac Owen Young). G. ef ym Maenclochog, Penf., ond yn Aberafan, Morg., y magwyd ef, a symudodd i weithio mewn siop dilledydd yn Nhonypandy, cwm Rhondda, yn llanc ifanc. Dechreuodd bregethu yn 1906 wedi ymaelodi ym Moreia (B), Tonypandy, ac aeth i ysgol yr Hen Goleg, Caerfyrddin, y flwyddyn ganlynol. Ord. ef yn weinidog Capel Rhondda, Pontypridd yn 1910, a bu'n bugeilio eglwysi'r Felinganol (1914), a Seion, Llanelli (1931). Ymddeolodd yn 1957. Amlygodd ei ddoniau fel pregethwr nerthol o'r dechrau cyntaf a daeth yn un o dywysogion y pulpud Cymraeg. Gwahoddid ef yn gyson i bregethu yng Nghymanfaoedd ei enwad; pregethodd yn yr oedfa Gŵyl Ddewi yn y City Temple, Llundain, yn 1922, yn y Central Hall, Lerpwl, yn 1923, a'r oedfa Gymraeg yn Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr yng Nghaerdydd, 1924. Bu'n llywydd Cymanfa Penfro, 1929, a llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru, 1946. Bu f. 23 Ion. 1962 gan adael gweddw Mya (g. Jones, o Gapel Rhondda) ac un mab.

Llyfryddiaeth:

  • Llawlyfr Bed., 1963;
  • Portreadau'r Faner, i, 7-9;
  • record (Qualiton, DAF 212, 1969) ohono'n traddodi un o bregethau Christmas Evans.

Awdur:

Dr Brynley Francis Roberts, Aberystwyth