BERGAM, Y (14 g.), bardd, daroganwr.
Fe'i gelwir yn y llawysgrifau ‘Y Bergam o Faelor’ ac mewn stent a wnaed i'r Tywysog Du yn 1352 cyfeirir at ‘Gafael mab Bergam’ wrth sôn am Bennant yn Eifionydd. Yr oedd ei ddaroganau'n un o ffynonellau'r cywyddau brud. Gw. Enid Griffiths, Early vaticination in Welsh (1937).
Awdur:
Raymond Wallis Evans, M.A., (1910-2001), Abertawe / Bangor