Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



DAGGAR, GEORGE (1879-1950), undebwr llafur ac aelod seneddol; g. 6 Tach. 1879, yng Nghwm-brân, Myn., mab Jesse Daggar, glöwr, a'i wraig, Elizabeth. Yn ei blentyndod symudodd y teulu i Abertyleri ac addysgwyd ef yno yn yr ysgol Frytanaidd. Dechreuodd weithio pan oedd yn ddeuddeg oed ym mhwll Arael Griffin, Six Bells, ger Abertyleri. Taflodd ei hun i waith undebaeth llafur ac yn ei ddauddegau fe'i hetholwyd yn is-gadeirydd Cyfrinfa Rhif 5, Arael Griffin. Yn 1911 aeth yn fyfyriwr i'r Central Labour College yn Llundain ac yn y blynyddoedd dilynol bu'n ddarlithydd poblogaidd ar bynciau economaidd a diwydiannol yng nghymoedd sir Fynwy. Mynychodd gynhadledd flynyddol y Blaid Lafur yn 1917, etholwyd ef yn aelod o gyngor dosbarth trefol Abertyleri yn 1919 ac yn gynrychiolydd y glowyr (miners' agent) yng nghymoedd gorllewinol sir Fynwy yn 1921, pan ddewisiwyd ef hefyd yn aelod o gyngor gwaith Ffederasiwn Glowyr De Cymru. Yn 1929 fe'i hetholwyd yn A.S. Llafur Abertyleri; fe'i hailetholwyd yn ddiwrthwynebiad yn 1931 ac 1935, ac yn etholiadau cyffredinol 1945 ac 1950 enillodd ganran uwch o'r bleidlais na'r un ymgeisydd arall yng Nghymru. Yn ŵr hynaws a thrugarog, yr oedd yn eithriadol gymwynasgar yn ei ymwneud â'r etholwyr, a deuai tyrfaoedd o bobl i'w gyfarfod ac i gael cyngor ganddo wrth iddo ddychwelyd i'w etholaeth bob nos Wener. Bu'n gydwybodol yn ei ddyletswyddau yn Nhŷ'r Cyffredin; rhwng 1929 ac 1931, er enghraifft, bu'n bresennol mewn 525 pleidlais allan o 526. Perthynai i'r canol-chwith yn y Blaid Lafur a chyfrannai'n gyson i drafodaethau'r Senedd ar bynciau megis diogelwch yn y pyllau, diweithdra, y prawf moddion a phensiynau. Bu'n aelod o'r Pwyllgor Dewis ar Ymsuddiant Mwyngloddiol (Mining Subsidence), yn is-gadeirydd y Blaid Lafur Seneddol ac yn gadeirydd y Blaid Seneddol Gymreig. Pr. Rachel Smith, gwniyddes, yn 1915; ni bu iddynt blant. Cyhoeddodd gyfrol, Increased production from the workers' point of view yn 1921 a phamffled, Has Labour redeemed its pledges? yn 1950. Bu f. yn ei gartref yn Six Bells ar 14 Hyd. 1950.

Llyfryddiaeth:

  • Joyce M. Bellamy a John Saville (gol.), Dict. Lab. Biog., 3 (1976), 54-55;
  • The Times 16 Hyd. 1950;
  • West. Mail, 16 Hyd. 1950.

Awdur:

John Davies, Caerdydd