EDWARDS
,
PETER (PERCY)
; (‘
Pedr Alaw
’;
1854
-
1934
;
Bywg.
, 180)
Derbyniodd radd
Mus. Bac. (Toronto)
cyn
1906
. Wedi ymfudo a
chymryd urddau eglwysig
bu'n gweinidogaethu yn eglwysi
Westminster and Ideal
,
South Dakota
,
Monango and Lisbon
,
North Dakota
,
Malta and Roundup
,
Montana
, a bu'n
offeiriad cynorthwyol
yn
eglwys gadeiriol Helena
ym
Montana
. Cyfansoddodd lawer ac
arwain grwpiau corawl
. Adweinid tri o'i feibion yn
Wisconsin
fel y ‘Welsh boy singers’. Ymhlith ei gyfeillion yr oedd
Daniel
Protheroe
(
Bywg
., 754-55)
a
Bransby
Williams
. Diogelir llawer o'i waith cerddorol yn y
Llyfrgell Brydeinig
a
Ll.G.C.
, Cyflwynodd ei
Beatitudes
(
1906
), cantawd gysegredig, i'w gyfaill,
John
Owen
,
Esgob Tyddewi
(
Bywg
., 672-3)
. Erbyn hyn yr oedd wedi mabwysiadu'r enw
Percy
Edwards
.
Ffynonellau:
-
Gwybodaeth gan ei fab,
Merlin D. Edwards, Minneapolis
, a
Huw Williams
.
Awdur:
Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth
Atodiadau a chywiriadau:
EDWARDS
,
PETER
(‘
Pedr Alaw
’
1854
-
1934
),
cerddor
;
g. yn
Castle Cottage
,
Rhuddlan
,
sir Fflint
, mab
John
ac
Elizabeth
Edwards
. Cafodd ei addysg yn
Ysgol Genedlaethol Rhuddlan
. Yr oedd yn
hoff o ganu
yn fachgen, a
pherthynai i gôr y capel
, lle y dysgodd y tonic sol-ffa. Wedi gadael yr ysgol aeth i swyddfa
masnachwr coed
yn y
Rhyl
, ac oddi yno i swyddfa
masnachwyr coed
yn
Lerpwl
. Tra y bu yno arweiniai
gôr plant Bootle
.
Cyfansoddodd anthem
ar gyfer
eisteddfod Lerpwl
a dyfarnodd
‘
Owain Alaw
’
hi yn orau. Wedi pum mlynedd yn
Lerpwl
, bu am ychydig fisoedd yn
Barrow
, ac yn
1877
aeth i
Lundain
yn
ysgrifennydd llaw-fer
mewn swyddfa goed. Cafodd gwrs o addysg gerddorol yn y
Birkbeck Institute
, ac yn y
Trinity College
o dan
Dr.
Turpin
a
Dr.
Karn
. Bu'n
arwain corau undebol a chymanfaoedd y plant
, ac
ysgrifennai nodiadau cerddorol
i'r
Kelt
. Gelwid am ei wasanaeth fel
beirniad ac arweinydd cymanfaoedd
. Cyfansoddodd a chyhoeddodd
y cantawdau, ‘
Gareth ac Eiluned
’ a ‘
Cantawd y Blodau
,’
Anthemydd y Cysegr
, ‘
Taith y Pererin
’,
Llyfr o 300 o Salm-donau
, ynghyd â nifer o donau cynulleidfaol. Yn
1912
ymfudodd i
U.D.A.
, a graddiodd yn
Faglor mewn Cerddoriaeth
ym
Mhrifysgol Toronto
. Ymgymerodd â gwaith y weinidogaeth, a gwnaed ef yn
rheithor cynorthwyol
yn
eglwys gadeiriol Lisbon
,
North Dakota
. Yn
1932
symudodd i
Chicago
a bu'n
rheithor cynorthwyol
eglwys S. Luc.
Bu f.
23 Gorffennaf 1934
, a chladdwyd ef ym
mynwent Graceland
yn ninas
Chicago
.
Ffynonellau:
-
Cerddor y Cymry
,
Medi 1891
;
-
Y Cerddor
,
Hydref 1921
;
-
Y Drych newyddiadur cenedlaethol Cymry
America
,
1934
.
Awdur:
Robert David Griffith, M.A., (1877-1958), Hen Golwyn