EVANS, MARY JANE ('Llaethferch '; 1888 - 1922), adroddwraig

Enw: Mary Jane Evans
Ffugenw: Llaethferch
Dyddiad geni: 1888
Dyddiad marw: 1922
Priod: William David Evans
Rhiant: Mary Ann Francis (née Hutchings)
Rhiant: Charles Francis
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: adroddwraig
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Perfformio
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd 3 Chwefror 1888, mewn tŷ yn Reed Row, Godre'r-graig, Cwm Tawe, yn ferch i Charles Francis, arweinydd seindorf Ystalyfera, a'i wraig Mary Ann (ganwyd Hutchings). Yr oedd y tad yn fedrus ar offerynnau cerdd fel ei dad, George Francis, a ddaethai i Ystalyfera o ardal Caerllion yng Ngwent. Yr oedd Thomas Hutchings, tad Mary Ann, hefyd yn gerddor. Daethai ei rieni o Fryste i gadw ysgol yn Abertawe, ac wedi marw ei dad symudodd ei weddw i gadw ysgol ' y College' ger Ystradgynlais. Wedi crwydro'r gwledydd ymsefydlodd Thomas Hutchings yn Ystalyfera a gweithio yng ngwaith alcan yr ardal. Yr oedd ei wraig hefyd, ar ochr ei mam, o deulu cerddorol, teulu Anthony o Gwm Aman. Bu'r ddau ohonynt yn gweithio'n blant yn y gwaith alcan. Pan oedd Mary Jane tua 5 oed symudodd y teulu at rieni'r fam yng Nhwm Tawe Villa, a chadw ychydig wartheg a gwerthu llaeth. Byddai'r eneth yn cario dwy ystên o laeth i'r cwsmeriaid ar ei ffordd i ysgol Pant-teg, gan fod ei thad erbyn hyn yn gweithio yng ngwaith alcan Ynysmeudwy. Dyna paham y mabwysiadodd yr enw ' Llaethferch ' yn nes ymlaen. Er iddi dderbyn hyfforddiant cerddorol gan athrawon o'r cylch nid at offerynnau yr oedd ei thuedd hi. Ceisiwyd ei denu at ganu lleisiol o dan hyfforddiant William Asaph Williams, ond ar ddarllen a llenyddiaeth yr oedd ei bryd hi, a dechreuodd gystadlu ar adrodd a chymryd rhan yng nghyfarfodydd 'pen chwarter' Ysgolion Sul cylch Pant-teg. Yn ystod Diwygiad 1904-05 derbyniwyd hi yn aelod o eglwys (A) Pant-teg; ac yr oedd yn un o'r nifer a ollyngwyd i ffurfio'r eglwys yng Ngodre'r-graig yn 1905. Cafodd hyfforddiant mewn adrodd gan David Thomas Jones ar awgrym ei gweinidog Ben Davies. Dechreuodd adrodd mewn cyfarfodydd llenyddol a chystadlu mewn eisteddfodau. Daeth yn adnabyddus fel ' Llaethferch ', gan ennill cadeiriau a chwpanau lu. Yn Ebrill 1909 aeth i Ysgol yr Hen Goleg yng Nghaerfyrddin o dan Joseph Harry, a gwerthwyd y gwartheg i dalu am yr hyfforddiant. Gosodwyd hi yn nosbarth y disgyblion o athrylith a threfnwyd cwrs arbennig mewn llenyddiaeth iddi. Dechreuodd bregethu yng Ngodre'r-graig, 8 Gorffennaf 1909. Ei dull oedd cynnwys adroddiad gyda'r bregeth yn y gwasanaeth. Yn 1912 eisteddodd arholiad mewn areithyddiaeth ac ennill gradd A.E.V.C.M. yn y Victoria College of Music. Bu am gyfnod yn athrawes yn ysgol Tro'rglien, Cwm-twrch, ac aeth am ddau derm i'r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, a pherffeithio'i Saesneg, ond o brinder adnoddau ariannol penderfynodd beidio â dychwelyd yno yn Ionawr 1916. Dechreuodd ymddiddori yn y ddrama a ffurfiodd gwmni yn Ynysmeudwy. Bu'n perfformio gyda Gunstone Jones a Gwernydd Morgan, a bu mynd ar ei chwmni hi ei hun gyda Gruffydd o'r Glyn gan Alarch Ogwy, ond yr oedd ei hysfa am gystadlu yn ei gwneud yn anodd ei chael i ymarfer gyda chwmni. Yna dechreuodd gynnal cyfarfodydd adrodd dramatig ar ei phen ei hun, neu gydag unawdydd i roi ambell gyfle iddi i gael seibiant a newid hefyd i'r gynulleidfa. Daeth galw eithriadol am y cyfarfodydd hyn o bob rhan o Gymru a rhannau o Loegr o 1918 hyd 1922. Yr oedd ganddi ddefnyddiau helaeth ac amrywiol i'w rhaglenni a hynny yn Gymraeg a Saesneg. Ei darn mwyaf poblogaidd yn Gymraeg oedd ' Cadair Tregaron ' J. J. Williams. Ar ei phapur ysgrifennu yn 1921 disgrifid hi fel enillydd un goron, 11 cwpan, 68 cadair, 396 o wobrwyon mewn eisteddfodau. Ni chafodd lawer o lwyddiant fel adroddwraig yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ond cafodd rodd yn Abertawe yn 1907, a bu'n beirniadu yn y Barri, 1920, a Chorwen, 1921. Dechreuodd feddwl am estyn ei chylchdeithiau i Lundain, America a Siapan, ond profodd y pedair blynedd o berfformio drwy Gymru gyfan yn ormod o dreth ar gorff nad oedd o'r cryfaf. Bu farw 25 Chwefror 1922 yn ei chartref yn Stryd yr Ysgol yn y Maerdy, Cwm Rhondda. Cludwyd ei chorff i gartref ei rhieni yn y Wigfa ger Ynysmeudwy y dydd Iau canlynol a chladdwyd hi ar y dydd Sadwrn, Mawrth 4, ym mynwent Godre'r-graig. Ysgubodd fel seren wib drwy neuaddau a chapeli Cymru gan gyfareddu a swyno cynulleidfaoedd dros dymor o lai na phedair blynedd, ond yn y cyfnod byr hwnnw hi oedd y ferch enwocaf yng Nghymru.

Priododd, heb yn wybod i'w rhieni, 5 Mawrth 1919, â William David Evans, athro yn ysgol elfennol y Maerdy, a ryddhawyd o'r fyddin yn dioddef oddi wrth effeithiau nwy gwenwynig yn Ŷpres. Bu ef yn llwyddiannus fel canwr penillion gyda'r delyn gan fod yn fuddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol Bu'n arweinydd Côr Undebol y Maerdy.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.