Gwasanaethodd yn Iwerddon yn ystod cythrwfl y Ffeniaid yn y 1860au ac ar ôl hynny ym Malta, Canada, a'r India. Aeth i Dde Affrica yn 1873 fel A.D.C. i'r Cadfridog Syr Arthur Cunynghame. Yn 1875 cymerodd ran yn yr ymgyrch a hawliodd Griqualand West (safle meysydd diemwnt Kimberley) dros Brydain, ac yr oedd yn un o'r fintai fechan a adfeddiannodd gorff y Tywysog Ymerodrol, unig fab Napoleon III, a laddwyd mewn sgarmes tra'n ymladd gyda lluoedd Prydain yn Rhyfel y Zulu yn 1879. Cymerodd ran ym meddiannu'r Aifft gan Brydain yn 1882, ac yn Ebr. 1885, olynodd Syr Evelyn Wood fel sirdar (prif gomander) byddin yr Aifft, y bu raid ei hailsefydlu o'r gwaelod ar ôl digwyddiadau 1882. Ymladdodd â'r Mahdi a'i olynydd, y Khalifa, mewn aml frwydr. Y mae'r faner a gipiodd ym mrwydr Toski yn 1889 yn eglwys S. Pedr, Pentre. Byddin ail-ansoddedig Eifftaidd Grenfell a ymladdodd o dan Kitchener ym mrwydr Omdurman yn 1898. Gadawsai Grenfell yr Aifft i gymryd at swydd dan y Swyddfa Ryfel yn 1892, ac er ei fod yn ôl yn yr Aifft yn 1898 bu'n ofalus i beidio â llyffetheirio dull y Kitchener enwog a oedd yn is ei reng nag ef. Yr oedd Grenfell yn archaeolegydd amatur brwdfrydig a rhoes gychwyn ar gloddio pwysig yn Aswan, ac y mae rhai o'r gwrthrychau a ddarganfu yn amgueddfa Abertawe. Aeth o'r Aifft i Malta fel llywodraethwr (1899-1903) ac i Iwerddon fel prif gomander, 1904-08. Yno, bu raid iddo fynd i'r afael â therfysg difrifol yn Belfast. Cynrychiolodd Fyddin Prydain ym mhriodas y Tsar olaf, Nicholas II, yn 1896 ac ysgrifennodd lyfr, Three weeks in Moscow, ar ei brofiadau yno. Dyrchafwyd ef yn Barwn Grenfell o Gilfái yn 1902, a gwnaethpwyd ef yn gadlywydd yn 1908.
Cyflwynodd ei flynyddoedd olaf i wasanaeth y Royal Horticultural Society (ef oedd ei llywydd) a'r Church Lads Brigade. Parhaodd ei ddiddordeb yn Abertawe a chafodd ryddfreiniad y dref yn 1889. Pr. (1) yn 1887, ag Evelyn Wood, merch y Cadfridog Blucher Wood, a fu f. yn ddi-blant yn 1899, a (2) yn 1903, â Margaret Majendie, merch Lewis Ashunt Majendie, A.S. Bu iddynt ddau fab a merch. Disgynnodd y teitl i'w fab hynaf, Pascoe (1905-1976), ar farwolaeth y tad ar 27 Ion. 1925. Claddwyd ef yn Beaconsfield, swydd Buckingham, wedi angladd mawr gyda chynrychiolaeth i'r Teulu Brenhinol ynddo.
Lladdwyd dau o ŵyrion Pascoe St. Leger yn Ffrainc. Efeilliaid oeddynt, plant ieuengaf ei fab hynaf, Pascoe Du Pre, Francis (1880-1915) a enillodd y V.C., a Riversdale (1880-1914), yr ysgrifennodd John Buchan fywgraffiad iddynt. Yr oedd y bardd rhyfel enwog, Julian Grenfell (1888-1915) mab yr Arglwydd Desborough, y mabolgampwr Olympaidd, yn gefnder iddynt. Cofféir yr efeilliaid ac aelodau eraill o'r teulu yn eglwys yr Holl Saint, Cilfái.
Dr Muriel E. Chamberlain, Abertawe