JAMES, DAVID ('Defynnog '; 1865 - 1928), athro, addysgydd a threfnydd Ysgolion haf, ac awdur

Enw: David James
Ffugenw: Defynnog
Dyddiad geni: 1865
Dyddiad marw: 1928
Priod: Sarah James
Priod: Sarah James (née Harris)
Plentyn: David Geraint James
Rhiant: Mary James (née Thomas)
Rhiant: David James
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: athro, addysgydd a threfnydd Ysgolion haf, ac awdur
Maes gweithgaredd: Addysg; Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Gwilym Arthur Jones

Ganwyd 17 Awst 1865 yn Libanus, plwyf Defynnog, Brycheiniog. Mab ydoedd i David James, gweinidog (B) a'i wraig Mary, chwaer ' Myfyr Emlyn ', y bardd-bregethwr. Bu ganddynt bedwar mab a phedair merch.

Addysgwyd Defynnog yng Nghynwyl Elfed, Sir Gaerfyrddin a Dinas, Sir Benfro lle'r oedd ei dad yn weinidog. Rhoes ei fryd ar fod yn athro ac, ar ôl bwrw cyfnod fel disgybl-athro, fe'i derbyniwyd fel athro trwyddedig. Llwyddodd yn arholiad matriculation Prifysgol Llundain (1889) ac enillodd amryfal dystysgrifau mewn nifer o bynciau dysgu. Ymaelododd â'r University Correspondence College, Caergrawnt, gan lwyddo yn arholiadau 'Intermediate Arts' mewn Lladin, Groeg, Ffrangeg, Mathemateg a Saesneg.

Daeth i'w ran hefyd wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol Yn Eisteddfod Merthyr Tudful (1901) enillodd am astudiaeth o ' Kymric Literature ' ac yn Eisteddfod Bangor (1902) dyfarnwyd y wobr gyntaf iddo am ymdriniaeth feirniadol ar nofelau Daniel Owen. Derbyniwyd ef yn aelod o Orsedd y Beirdd ac yn feirniad cenedlaethol. Treuliodd gyfnodau fel ysgolfeistr yn Eglwyswrw, Cwmifor, Templeton, Pupil Teacher Centre, Rhondda, Dwn-rhefn a Threherbert (1908-26).

Er ei fod yn fathemategydd da, fel ei frawd John , troes ei olygon at wella dulliau o ddysgu Cymraeg. Pan benodwyd ef ar 1 Hydref 1902 yn ysgrifennydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg manteisiodd ar y cyfle i hyrwyddo'i genhadaeth trwy Gymru. Ymroes i ysgrifennu llyfrau darllen, llawlyfrau dysgu, cynlluniau dysgu iaith a geiriadur plant. Cyfrannodd yn helaeth i Cymru, Cymru'r Plant, Y Darian, Yspryd yr oes, Y Geninen, Seren Gomer, The Welsh Outlook, a The Welsh Leader. Yn fwy na dim ef a gychwynodd yr Ysgol Haf Gymraeg yn 1903. Yr oedd yn drefnydd penigamp a llwyddodd i wahodd rhai o ddysgedigion y genedl i annerch aelodau'r ysgolion haf ar ddysgu Cymraeg a hanes llên. Enillodd edmygedd a chefnogaeth gwyr fel Syr Isambard Owen, Syr O. M. Edwards a Syr J. E. Lloyd.

Fe'i gwahoddwyd i ymuno â chomisiwn addysg Mosely yn 1903 a ymwelodd â Thaleithiau Unedig America a Chanada. Cyhoeddodd lyfr o'i argraffiadau, American methods of organisation and instruction (1908). Credai'n gryf yn y dull union o ddysgu iaith a chymeradwyai ef (trwy'r Gymdeithas) i sylw ysgolion yr ardaloedd Seisnigedig. Cafodd y Scheme of instruction in Welsh a luniasai ar y cyd â H. Howells, sêl bendith pwyllgor addysg y Rhondda. Ni allai oddef athrawon diog na roddai ystyriaeth lawn i hybu'r iaith. Gofid iddo oedd gweithred y Pwyllgor Adrannol ar le'r Gymraeg mewn addysg a bywyd (1925), yn esgeuluso cenhadaeth a gweithgarwch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg er yr ystyriwyd gwahodd Syr Isambard i weithredu ar y pwyllgor.

Ni fodlonai Defynnog ar fwyta bara seguryd hyd yn oed ar ôl ymddeol. Parhâi i ysgrifennu'n ddyddiol fel golygydd colofn Gymraeg y South Wales News nes i afiechyd ei lesteirio. Yr oedd o blaid sefydlu ysgrifenyddiaeth wladol i Gymru. Bu farw 1 Rhagfyr 1928 yn Abertawe a chladdwyd ef ym mynwent Llethr Ddu, Porth, y Rhondda. Ni bu'r newyddiaduron yn fyr eu clodydd iddo gan ganmol ei garedigrwydd, ei haelioni ei ymroddiad a'i sêl ysol dros yr iaith Gymraeg. Priododd Sarah Harris a bu iddynt un mab. Ar ôl marw Sarah priododd Mrs Sarah Williams ar 7 Awst 1920, gwraig weddw gyda thair merch. Ganwyd iddynt fab, David Geraint.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.