JAMES, JOHN (1872 - 1934), cyfarwyddwr addysg Morgannwg

Enw: John James
Dyddiad geni: 1872
Dyddiad marw: 1934
Rhiant: Mary James (née Thomas)
Rhiant: David James
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfarwyddwr addysg Morgannwg
Maes gweithgaredd: Addysg
Awdur: Gwilym Arthur Jones

Mab ydoedd i David James, gweinidog (B) a'i wraig Mary, chwaer ' Myfyr Emlyn ', y bardd-bregethwr. Bu ganddynt bedwar mab a phedair merch. Yr oedd yn frawd i Ddefynnog

Cafodd yrfa academaidd hynod ddisglair ar ôl gweithio mewn siop groser yn y Rhondda. Ac yntau ond yn 16 mlwydd oed aeth yn fyfyriwr (ar bwys ysgoloriaeth agored) i Goleg y Brifysgol, Caerdydd. Ar ôl ennill gradd dosbarth cyntaf Prifysgol Llundain yno, ymaelododd yng Ngholeg Balliol, Rhydychen, lle'r enillodd drachefn radd dosbarth cyntaf mewn mathemateg. Cymerodd radd ymchwil B.Sc., o'r un Brifysgol ac wedi treulio cyfnod fel myfyriwr ymchwil ym Mhrifysgol Erlangen yn yr Almaen dyfarnwyd iddo radd Ph.D. ym maes trydaneg.

Bu'n gyfarwyddwr addysg Morgannwg o 1903 i 1929. Gwnaeth lawer i hybu dysgu Cymraeg yn ysgolion Sir Forgannwg.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.