JOSHUA, SETH (1858-1925), gweinidog (MC)

Enw: Seth Joshua
Dyddiad geni: 1858
Dyddiad marw: 1925
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (MC)
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Richard Leslie Jones

Ganwyd 10 Ebrill 1858 yn Nhy Capel (B Cymraeg), Trosnant Uchaf, Pont-y-pwl, Mynwy, yn fab i George Joshua a Mary (ganwyd Walden) ei wraig. Priododd â Mary Rees, Llantrisant yng Nghastell-nedd, Morgannwg, 23 Medi 1883, a bu iddynt wyth o blant (bu un mab, Peter, yn weinidog ac efengylydd poblogaidd yn yr Amerig a mab arall, Lyn, yn gyfrifol gyda Mai Jones am y gân ' We'll keep a welcome '. Mynychodd yr ysgol Brydeinig leol. Bu'n cydweithio'n agos gyda'i frawd Frank yng Nghastell-nedd yn sefydlu'r achos yn y Mission Hall. Yr oedd yn efengylwr o fri gan deithio trwy Brydain a mynd ar daith yn T.U.A. Ordeiniwyd ef yn weinidog (MC) yn 1893 a gweithiodd gyda'r Symudiad Ymosodol, braich Cenhadaeth Gartref y Cyfundeb, yn sefydlu canolfannau efengylu ym Morgannwg a Gwent. Bu farw 21 Mai 1925 a chladdwyd ef ym mynwent y Cyngor, Llanilltud Fach, Castell-nedd.

Brawd iddo oedd FRANCIS JAMES JOSHUA (FRANK; 1861 - 1920), gweinidog (MC). Ganwyd 15 Rhagfyr 1861. Aeth ef a Seth i Gastell-nedd yn 1883 i gynnal Ymgyrch Efengylaidd o dan nawdd y Genhadaeth Rydd, Cinderford. Yn 1901 daeth Eglwys y Genhadaeth Rydd yng Nghastell-nedd o dan nawdd y Methodistiaid Calfinaidd fel cangen o'r Symudiad Ymosodol ac ordeiniwyd ef yng nghymdeithasfa Cilfynydd (MC) yn 1903. Treuliodd ei holl weinidogaeth yng Nghastell-nedd lle y cododd eglwys gref a llewyrchus. Adweinid ef yn y dref fel ' S. Francis of Neath '. Bu farw 13 Medi 1920 yn fab gweddw a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Llanilltud Fach, Castell-nedd.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.