LLEWELLYN, Syr DAVID RICHARD (1879 - 1940), BARWNIG, perchennog glofeydd

Enw: David Richard Llewellyn
Dyddiad geni: 1879
Dyddiad marw: 1940
Priod: Magdalene Anne Llewellyn (née Harries)
Plentyn: Henry Morton Llewellyn
Plentyn: Rhys Llewellyn
Rhiant: Elizabeth Llewellyn (née Llewellyn)
Rhiant: Rees Llewellyn
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: perchennog glofeydd
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes
Awdur: Brynley Francis Roberts

Ganwyd 9 Mawrth 1879 yn Aberdâr, Morgannwg, yn fab hynaf Rees ac Elizabeth (ganwyd Llewellyn) Llewellyn, Bwllfa House, yntau'n rheolwr cyffredinol y Bwllfa & Merthyr Dare Collieries, swydd a ddaliwyd gan ei fab, William Morgan Llewellyn, ar ei ôl. Addysgwyd D. R. Llewellyn yn Aberdâr a Choleg Llanymddyfri cyn dilyn cwrs mewn peirianneg mwyngloddio yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd (1901-03). Aeth i T.U.A. am 2 flynedd i ennill rhagor o brofiad a phan ddychwelodd yn 1905 dechreuodd brynu a pherchnogi glofeydd lleol, ac yna ar raddfa eangach yn ne Cymru, gan arloesi yn nefnydd y peiriannau torri newydd a welsai yn America. Yn 1916, yn gadeirydd cwmni glo Gwauncaegurwen, daeth i gyswllt â Henry Seymour Berry, Arglwydd Buckland (gweler dan BERRY, TEULU) a'r Cambrian Combine, a thrwy hyn bu ganddo ran yn natblygiad maes y glo caled. Daeth yn gyfarwyddwr lliaws o ymgymeriadau yn y fasnach lo, yn arbennig Vale of Neath, Amalgamated Anthracite Collieries, Guest, Keen & Nettlefolds ac yn gadeirydd Welsh Associated Collieries ac yn ddiweddarach yn is-gadeirydd y cwmni unedig Powell Duffryn Associated Collieries (dan gadeiryddiaeth Edmund Hann). Erbyn tuag 1920 gellid honni ei fod yn dal neu'n rheoli tua 1/7 o faes glo de Cymru. Chwaraeodd ran bwysig yn natblygiad dulliau rheoli'r diwydiant glo ac yn nhwf cwmnïau unedig. Yr oedd yn ffigur dylanwadol yn y Coalowners Association rhanbarthol (yn arbennig tuag 1925-30), a chydnabyddid ef yn arweinydd cymedrol ei safbwynt. Trôi ef a'i frawd William Morgan Llewellyn ymhlith eu gweithwyr a chadwyd y cyswllt personol a lleol.

Tra oedd ei gartref yn Aberdâr (Goytre, Llewellyn St., yna Fairfield House) yr oedd yn weithgar ar y Cyngor Tref (cadeirydd 1920), yn Uwch Gwnstabl Cantref Meisgyn, ac yn Rhyddfrydwr ac Undodwr amlwg (Hen-dŷ-cwrdd, Aberdâr). Bu'n drysorydd Coleg y Brifysgol, Caerdydd, 1922, ac yn llywydd y coleg 1924. Dyfarnwyd barwnigaeth iddo yn 1922, ac LL.D. er anrhydedd Prifysgol Cymru yn 1929. Symudodd i fyw i The Court, Sain Ffagan. Ei brif hobïau oedd hela (bu ef a'i frawd yn feistri helfa'r Bwllfa) a cheffylau. Priododd Magdalene (merch Henry Harries, ' Afonwy ', gweinidog (B), Treherbert) 1905 a bu iddynt 4 mab a 4 merch. (Wedi marw eu mab hynaf, Rhys, 1978 etifeddwyd y farwinigaeth gan yr ail fab, Henry (Harry) Morton a ddaeth i fri ym myd marchogaeth ceffylau.) Bu farw yn nhŷ ei frawd, Tynewydd, Hirwaun, Morgannwg, 15 Rhagfyr 1940.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.