MORGAN, EDWARD ('E.T. '; 1880 - 1949), chwaraewr rygbi

Enw: Edward Morgan
Ffugenw: E.t.
Dyddiad geni: 1880
Dyddiad marw: 1949
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: chwaraewr rygbi
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Gareth W. Williams

Ganwyd 22 Mai 1880 yn Aber-nant, cwm Cynon, Morgannwg, ac addysgwyd ef yng Ngholeg Crist, Aberhonddu ac Ysbyty Guy, Llundain. Dr. 'Teddy' (felly ' E.T.') Morgan sgoriodd y cais mwyaf hanesyddol yn hanes y gêm yng Nghymru, os nad yr enwocaf erioed. Ef oedd piau'r cais a sicrhaodd fuddugoliaeth o 3-0 i Gymru dros Grysau Duon Seland Newydd yng Nghaerdydd ar 16 Rhagfyr 1905. Nid yn unig yr oedd yn eithriadol o gyflym ond gallai dwyllo gwrthwynebwyr trwy ffugio ac ochrgamu'n gelfydd. Gallai daclo a chicio'n dda. Daeth i sylw'r dewiswyr cenedlaethol pan sgoriodd dri chais dros Gasnewydd yn erbyn Blackheath ym mis Hydref 1901. Gyda'r Cymry yn Llundain ac Ysbyty Guy y cysylltir ef fwyaf. Sgoriodd 14 cais yn ei 16 gêm ryngwladol rhwng 1902 ac 1908. Gyda'i gyd-ddisgybl o Goleg Crist, William Morris Llewellyn (Pen-y-graig), ffurfiodd y bartneriaeth orau a welwyd erioed ar ddwy asgell Cymru. Yn 1904 sgoriodd ym mhob gêm ryngwladol, ac aeth ar daith i Awstralia a Seland Newydd gyda'r tîm Prydeinig. Chwaraeodd yn erbyn De Affrica yn 1906. Bu farw 1 Medi 1949 yn North Walsham, swydd Norfolk.

Bu ei frawd WILLIAM LLEWELLYN MORGAN (9 Mawrth 1884 - 11 Ebrill 1960) yn chwarae rygbi dros Gymru yn 1910, a'i nai William Guy Morgan, hefyd, 1927-30.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.