Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MORRIS , ROBERT DAVID ( 1871 - 1948 ), llyfrwerthwr teithiol ac awdur ;

g. yn y Nant , Coed-poeth, Dinb. , 18 Rhag. 1871 , yn fab i Dafydd a Hannah Morris . Gadawodd yr ysgol yn gynnar a mynd i weithio i'r pwll glo . Wedi rhai blynyddoedd yno, agorodd siop lyfrau Gymraeg a phapur newydd ar y Stryd Fawr yng Nghoed-poeth . Yn 1920au dechreuodd deithio drwy siroedd gogledd Cymru yn gwerthu llyfrau Cymraeg . Byddai'n eu casglu o Wasg y Brython ( Hugh Evans a'i Feibion , Lerpwl ) a Hughes a'i Fab , Wrecsam . Daeth ef a'i fodur bach yn adnabyddus i rai cannoedd o bobl yng nghefn gwlad, a galwai heibio i ffermydd a thyddynnod diarffordd yn gyson. Daliodd ati hyd ei farw, ac yr oedd yn un o'r llyfrwerthwyr teithiol olaf yng Nghymru .

Er na chafodd ond ychydig addysg ffurfiol, pan welodd yr angen am lenyddiaeth ysgafn Gymraeg , ceisiodd gwrdd â'r angen hwnnw. Meddai yn y rhagair i'w ail nofel: ‘ esgus yr ieuanc darllengar yw, — nad oes digon o nofelau Cymraeg i'w cael fel ag i'w di-esgusodi rhag darllen y nofelau Saesneg sydd mor boblogaidd yng Nghymru . Diau un o'r moddion effeithiolaf i gael y Gymraeg yn ôl yw y nofel. ’ Bu cryn ddarllen ar ei nofel gyntaf Derwyn ( 1924 ). Fe'i dilynwyd gan Serch Gwalia ( 1925 ), Merch y castell ( 1928 ) a Llwybr y merthyr ( 1935 ). Cyhoeddodd ddwy gomedi, Ffordd Sera Parri a Gŵr Betsan Huws , a'r ddrama Y Clwyf yn cyflwyno darlun o alanas Rhyfel Byd I ar deulu arbennig. Bu amryw byd o gwmnïoedd ar hyd a lled Cymru yn perfformio'i gomedïau.

Yr oedd ynddo awydd cryf i newid pethau yng Nghymru . Bu'n un o arweinwyr yr I.L.P. yn ei ardal. Gwrthryfelai yn erbyn y drefn a wnaeth y Gymraeg yn iaith crefydd a chapel ac a orseddodd y Saesneg yn iaith addysg a masnach. Mynnai siarad Cymraeg yn siopau Wrecsam oedd wedi coleddu'r ffasiwn newydd. Cyflwynodd ei nofel gyntaf i'r A.S. , E. T. John ‘am ei sêl a'i ymdrech dros Gymru ’.

Bu'n athro Ysgol Sul am flynyddoedd lawer ar ddosbarth o ddynion ieuanc yn Salem , Coedpoeth . Dysgodd y bechgyn hynny i gasáu pob rhyfel, a thaniodd amryw ohonynt â'i weledigaeth o fyd mwy cyfiawn.

Pr. ag Elizabeth Roberts , Nant , Coed-poeth , a fu f. yn 1906 ; ac ag Elizabeth Hughes o Flaenau Ffestiniog . Bu f. 1 Awst 1948 yn 77 ml. oed. Fe'i claddwyd ym mynwent gyhoeddus Coedpoeth .

Ffynonellau:

  • Gwybodaeth bersonol;
  • Porfeydd , Caerdydd , 1978 .

Awdur:

Y Parch. Derwyn Morris Jones, Abertawe

Blwyddyn Cyhoeddi: 1997