Ysgrifennodd Parry-Williams lawer o farddoniaeth yn unol â safonau ei gyfnod, gan gynnwys tair pryddest a enillodd gadeiriau mewn eisteddfodau lleol. (Gw. Y Geninen Eisteddfodol, 1892, 1893, 1897). Unwaith yn unig yr enillodd yn yr Eist. Gen., sef ym Mae Colwyn yn 1910 am naw o delynegion ar y testun ‘Y bywyd pentrefol’. Ond ei brif gynnyrch oedd cerddi yn dathlu digwyddiadau ei ardal, a rhai cerddi telynegol. (Gw. Cerddi Eryri, gol. Carneddog). Fel ysgolfeistr gwnaeth waith nodedig a phrin iawn yn ei ddydd, yn arbennig mewn ysgol elfennol, sef gwneud llenyddiaeth Gymraeg yn rhan o addysg y plant — rhoi hanes y Cynfeirdd a'r Gogynfeirdd, ac enghreifftiau o weithiau'r prif rai ymysg Beirdd yr Uchelwyr, a rhyddiaith y Dadeni, a Morgan Llwyd ac Ellis Wynne. Hyn i gyd, medd ef, am fod gwerth addysgol ynddo, ac i wneud y disgyblion yn falch o'u gwlad. Un gweithgaredd anghyffredin arall oedd derbyn i'w gartref yn yr haf wŷr dysgedig o'r Cyfandir a oedd am ddysgu Cymraeg.
Yn 1899 y dechreuodd, gyda'r Athro Heinrich Zimmer o Brifysgol Greifswald yn yr Almaen, ac yna ysgolheigion Celtaidd enwog eraill fel Hermann Osthoff o Heidelberg, Rudolf Thurneysen o Freiburg, ac A. G. van Hamel o Utrecht.
Pr. Henry Parry-Williams ag Ann Morris, Glangwyrfai, Rhyd-ddu, yn 1885, a bu iddynt ddwy ferch a phedwar mab. Un ohonynt oedd T. H. Parry-Williams. Bu f. ddydd Nadolig 1925, a'i gladdu ym Meddgelert.
Y Prifathro / Syr Thomas Parry, D.Litt., (1904-85), Bangor / Aberystwyth