PRICE, PETER (1864 - 1940), gweinidog (A)

Enw: Peter Price
Dyddiad geni: 1864
Dyddiad marw: 1940
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (A)
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: David John Roberts

Ganwyd 11 Gorffennaf 1864, yn y Dewisbren-isaf, tyddyn tua 3 milltir o Ddolgellau, Meirionnydd, yr hynaf o ddeg plentyn Thomas a Jane Price. Mab hynaf Peter a Catherine Price, y Fronolau, ffermdy amlwg ar fin y ffordd serth o Ddolgellau i Groesffordd Gwanas, oedd Thomas Price. Dyma ardal y Tir Stent enwog yn hanes y Crynwyr ym Meirionnydd yn ystod y 17eg a'r 18fed ganrif. Pan giliodd y Crynwyr o Dyddyn-y-garreg a'r capel a godwyd ganddynt gerllaw yn 1792, Peter Price, y Fronolau, a oedd yn ddiacon gyda'r (A) yn Nolgellau o dan weinidogaeth Cadwaladr Jones fu'r prif gyfrwng i sicrhau'r capel hwnnw i'r enwad (A) ar rent yn 1847, a'i brynu yn niwedd 1854, a'i alw yn Tabor. Cysylltir y teulu oll â Tabor, a hawlient eu bod o'r un llinach ag Edmund Prys. Yr oedd dylanwad y Crynwyr yn drwm ar Peter Price, Dewisbren-isaf.

Symudodd ei rieni i fyw ym Mhlas y Brithdir pan agorodd Thomas Price fasnach gwerthu blawd yn Nolgellau. Yn ysgol ramadeg Dolgellau dan y prifathro S.S.O. Morris, ysgolor o Gaergrawnt, y cafodd Peter Price ei addysg nes ymadael ar ôl tymor byr i gynorthwyo'i dad. Dechreuodd bregethu yn Nhabor yn 1881. Aeth yn fyfyriwr i Goleg y Brifysgol Aberystwyth ac astudio athroniaeth dan Thomas Charles Edwards. Ymadawodd yn 1885, ond yn hydref yr un flwyddyn yr oedd ym Mangor, yng Ngholeg y Brifysgol, lle'r enillodd dystysgrif matriculation ac ysgoloriaeth o £10. Gadawodd y coleg yn 1887, ar ganol ei gwrs gradd, i fod yn weinidog ar eglwys Ebeneser, Trefriw, ac ordeiniwyd ef yno ar 14 a 15 Rhagfyr. Yn 1896 sefydlwyd ef yn weinidog ar eglwys ifanc Great Mersey Street, Lerpwl. Derbyniwyd ef i brifysgol Caergrawnt (heb gyswllt colegol) Hydref 1897, ac ymhen blwyddyn ymaelododd yng Ngholeg y Breninesau, Caergrawnt, a graddio gydag anrhydedd mewn athroniaeth yn 1901. Cafodd radd M.A. yn 1939. Ailgydiodd yn ei weinidogaeth yn 1901. Priododd yn Ionawr 1902 â Letitia Williams, Tŷ Gwyn, Llanrwst.

Symudodd i Fethania, Dowlais, yn haf 1904, eglwys o dros 600 o aelodau, lle'r oedd y cerddor Harry Evans yn organydd. Yr oedd Diwygiad 1904 yn cynhyrfu'r wlad erbyn hyn. Ymwelodd y diwygiwr, Evan Roberts, â Bethania. Cyffrowyd Peter Price, a mentrodd feirniadu'r Diwygiad a dulliau Evan Roberts, yn arbennig, mewn llythyr lled rodresgar a helaeth yn y West. Mail, 31 Ionawr 1905. Cysylltwyd enw Peter Price byth wedyn yn hanes crefyddol Cymru â'r brotest hon a'r cynnwrf a'i dilynodd. Yn Hydref 1910, sefydlwyd ef ym Methlehem, Rhosllannerchrugog. Treuliodd 10 mlynedd llafurfawr yno, yn cynnal dosbarthiadau amrywiol, ac yn annerch cyfarfodydd gwleidyddol. Un o'i gynorthwywyr selocaf oedd y Dr. Caradog Roberts. Aeth i T.U.A. yn 1913 ac yn fuan wedi hynny derbyniodd radd D.D. er anrhydedd gan Brifysgol Washington.

Symudodd i weinidogaethu yn Baker Street, Aberystwyth, yn Nhachwedd 1920, ac ni phallodd y genhedlaeth honno o fyfyrwyr Coleg y Brifysgol â mawrygu daioni a dyfnder ei ddylanwad ar eu bywyd. Ymddeolodd yn 1928, oherwydd afiechyd ei briod ac yntau, ac ymgartrefasant yn Abertawe, Llanfairfechan a Phrestatyn. Yno y bu farw 8 Gorffennaf 1940, ac ym mynwent Prestatyn y claddwyd ef.

Yr oedd Peter Price yn ŵr cadarn, cryf ei feddwl ac angerddol ei deimladau, a hanner addolid gan ei edmygwyr ond a wnâi elynion yn hawdd hefyd; pregethwr nerthol a gweinidog dylanwadol, yn heddychwr ac yn bersonoliaeth wreiddiol. Cyhoeddodd ddau bamffledyn, Tarian yr ynfyd (Defence and delusion), 1936, Y Fuddugoliaeth ddiarf (o'r Dysgedydd), 1937.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.