PRYCE-JONES, Syr PRYCE (PRYCE JONES hyd 1887; 1834 - 1920), arloeswr busnes archebu drwy'r post

Enw: Pryce Pryce-jones
Dyddiad geni: 1834
Dyddiad marw: 1920
Priod: Eleanor Rowley Pryce-Jones (née Morris)
Plentyn: Mary Eleanor Pryce-Jones
Plentyn: Edward Pryce-Jones
Plentyn: Elizabeth Anne Pryce-Jones
Plentyn: William Ernest Pryce-Jones
Plentyn: Albert Westhead Pryce-Jones
Plentyn: Katharine Charlotte Pryce-Jones
Plentyn: Agnes Rosa Pryce-Jones
Plentyn: Henry Morris Pryce-Jones
Rhiant: William Jones
Rhiant: Mary Ann Jones (née Goodwin)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arloeswr busnes archebu drwy'r post
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes
Awdur: Maurice Richards

Ganwyd yn Pryce Jones, 16 Hydref 1834, ail fab William Jones, cyfreithiwr yn Y Drenewydd, Trefaldwyn, a Mary Ann Goodwin, merch cefnder Robert Owen, y diwygiwr cymdeithasol. Wedi ei brentisio yn 12 oed i ddilledydd yn Y Drenewydd sefydlodd ei fusnes ei hun yn 1859, y flwyddyn y priododd Eleanor Rowley Morris. Cychwynnodd ei fusnes archebu drwy'r post drwy anfon patrymau at foneddigion lleol, wedyn restri o nwyddau ac yn ddiweddarach gatalogau at bobl o bob dosbarth ym mhob rhan o'r byd, gan wahodd archebion drwy'r post. O'r 1860au ymlaen bu'n arddangos gwlanen enwog Y Drenewydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac mewn arddangosfeydd pwysig yn ninasoedd mwyaf y byd - Paris, Brwsel, Berlin, Fienna, Melbourne, a Philadelphia yn eu plith - gan ennill nifer o wobrwyon a denu llawer iawn o archebion nes y gallai honni fod ganddo dros 300,000 o gwsmeriaid ledled y byd, gan gynnwys Florence Nightingale, y Frenhines Victoria, ac aelodau o ymron bob teulu brenhinol yn Ewrob. Gwnaeth ddefnydd helaeth o'r rheilffyrdd i ddosbarthu ei nwyddau, gan ddatblygu ei system post parseli ei hun a rhoi cyngor i'r llywodraeth cyn iddynt gyflwyno Mesur Parseli'r Swyddfa Bost 1882. Yn 1879 agorodd ystordy newydd, gwych ger gorsaf rheilffordd Y Drenewydd.

Urddwyd ef yn farchog ym mlwyddyn jiwbili'r Frenhines Victoria (1887), pryd y newidiodd ei enw i Pryce Pryce-Jones. Cynrychiolodd Fwrdeistrefi Trefaldwyn fel A.S. (C) 1885-86 ac 1892-95, a bu'n Uchel Siryf ei sir yn 1891. Bu farw yn y Drenewydd 11 Ionawr 1920, a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Llanllwchaearn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.