REES, BOWEN (1857-1929), cenhadwr;
g. 16 Mawrth 1857, yn nhafarn yr Ivy Bush, Llandybïe, Caerf., yr ieuengaf o chwe phlentyn Jacob Rees, saer maen, a'i wraig Margaret, merch y tafarnwr Richard Bowen. Symudodd y teulu i Ystalyfera, Morg., a dechreuodd weithio mewn gefail yn naw oed. Yn 1874, ar ôl clywed anerchiad gan Thomas Morgan Thomas, ‘Thomas Affrica’ (Bywg., 907), rhoddodd ei fryd ar y genhadaeth. Wedi cyfnod yng Ngholeg y Bala (1880-84), ord. ef ym Mhant-teg (A), Ystalyfera, 22 Mai 1884 a'i anfon gan Gymdeithas Genhadol Llundain i Lyn Tanganyika. Yn dilyn cwrs brys yn ysgol feddygol Prifysgol Caeredin, trosglwyddwyd ef i wlad yr Ndebele, gan ymsefydlu yn Inyathi ym Mawrth 1888: rhwng 1892 ac 1918 Susanna Wesley (Davies gynt) ei wraig (y soprano Llinos Morgannwg, g. Merthyr Tudful 5 Gor. 1863, yn ferch i weithiwr haearn, bu f. Abertawe 9 Ebr. 1933) ac yntau oedd yr unig genhadon yno — hithau hefyd o Ystalyfera ac yn pregethu ar ei chylchdaith E.F. er yn 22 oed. Pr. hwy yn Capetown 9 Maw. 1890: g. iddynt saith o blant ond collwyd tri yn ifanc yn Inyathi. A'r Brenin Lobengula (a'i olynwyr) wedi arbed eu bywydau wrth i Brydain ymosod ar ei wlad yn 1893, eu heithrio o'r gyflafan ar ddechrau Gwrthryfel 1896, a dal i'w cefnogi wedyn, bu cryn lewyrch ar eu cenhadaeth dros ardal o faint Dyfed. Ceisiodd Bowen Rees amddiffyn yr Ndebele rhag rhaib y British South Africa Co.: rhoddodd wybodaeth i'r Crynwr, John Ellis A.S., aelod o'r Pwyllgor Ymchwil i'r Jameson Raid, a thystiolaeth i'r Aborigine Protection Society ar gyfer achos cyfreithiol a benderfynodd, yn 1918, nad oedd gan y cwmni hawl i dir yr Ndebele. Yr oedd yn nodedig o ryddfrydig ei safbwynt gan alluogi'r Ndebele i dderbyn yr efengyl a'r addysg newydd heb droi cefn yn llwyr ar yr hen draddodiad: priodolir y ffaith fod yr Annibynwyr yn dal yn rym yn eu plith i'w agwedd ef a Susanna, yn ogystal ag i'w gwasanaeth maith. Penodwyd Bowen Rees yn athro yng ngholeg hyfforddi pregethwyr Tiger Kloof ger Vryburg, De Affrica, yn 1918 ond ymddeolodd i Abertawe yn 1922 a bu f. yno ar 7 Mawrth 1929 a'i gladdu yn Ystumllwynarth, Morg.
Llyfryddiaeth:
- D. G. Williams, Y Parch. Bowen Rees, Pant-teg ac Affrica (c. 1939);
- Y Tyst, 14 Mawrth 1929;
- Y Cymro, 10 Ebrill, 1929;
- Gwyliedydd Newydd, 27 Ebr. 1918;
- N. Bhebe, Christianity and Traditional Religion in Western Zimbabwe (Llundain, 1979);
- Marieke Clarke, ‘Land, Missionaries and the Road to the North; aspects of the origins of the Nkayi District, 1893-1918’;
- Terence Ranger, ‘Violence and Memory: Zimbabwe, 1896 to 1996’, BZS Zimbabwe Review, 96 (1995), 5-7;
- Joan Bowen Rees, ‘Surviving the Matabele Rebellion’, Planet, 120 (1996-97), 82-91;
- ‘Cenhadon olaf Lobengula’, Y Tyst, 1, 8 Awst 1996;
- gohebiaeth yr LMS yn llyfrgell SOAS, Llundain;
- gwybodaeth bersonol a llsgrau. teuluol, rhai ohonynt yn Archifdy Gwynedd, Caernarfon.
Awdur:
Dr Ioan Bowen Rees, (1929-99), Bangor