REES, WALTER ENOCH (1863-1949), contractiwr ac ysgrifennydd hiroesog Undeb Rygbi Cymru;
g. 13 Ebr. 1863 yng Nghastell-nedd, Morg., yn fab i Joseph Cook Rees, adeiladydd a chontractiwr. Addysgwyd ef yng Nghastell-nedd a Barnstaple. Dechreuodd ei yrfa hirfaith fel gweinyddwr rygbi yn 1888 pan ddaeth yn ysgrifennydd clwb Castell-nedd. Etholwyd ef i bwyllgor Undeb Rygbi Cymru yn 1889, ac yn 1896 olynodd William Henry Gwynn (Abertawe) fel ysgrifennydd yr Undeb. Ni roes neb wasanaeth hwy i U.R.C. nag ef. Yr oedd ei ddylanwad a'i awdurdod yn ddihareb, yn arbennig yn ne Cymru. Etholwyd ef i gyngor tref Castell-nedd yn 1900, ac yn faer yn 1905. Penodwyd ef yn gyd-reolwr tîm rygbi Prydain i Dde Affrica yn 1910. Rhoddwyd iddo'r teitl ‘Capten’ gan y Swyddfa Ryfel er cydnabyddiaeth o'i waith fel swyddog recriwtio yng ngorllewin Morgannwg yn 1916. Ar ôl gwasanaeth yn ymestyn dros hanner canrif, ymddeolodd o fod yn ysgrifennydd U.R.C. yn 1948. Pr., 8 Medi 1898, Lizzie Leith Peters o Aberdeen, a bu iddynt o leiaf un mab ac un ferch. Bu f. 6 Meh. 1949 ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Llyfryddiaeth:
- David Smith a Gareth Williams, Fields of Praise (1980);
- Playfair Welsh Rugby Annual 1949-50;
- Neath Guard., 10 Meh. 1949.
Awdur:
Yr Athro Ga