g. 2 Awst 1825 yn nhŷ'r ysgol yn Nefynnog, Brych., yn fab Morgan Rees, prifathro'r ysgol rydd, a Margaret, merch David Jones, crydd. Yn blentyn âi gyda'i fam i gapel Brychgoed (A). Addysgwyd ef yn ysgol ei dad ac Academi Ffrwd Fâl o dan hyfforddiant William Davies (1805-1859; Bywg., 147), yr hwn a fu'r dylanwad pennaf ar ei fywyd. Aeth adref pan oedd yn 16 a dechrau pregethu trwy gynnal cyfarfodydd ar ffermydd y gymdogaeth. Bu'n byw yn Nhredegar am gyfnod pryd y daeth yn aelod o Eglwys Salem (MC), Sirhywi. Ar ôl marwolaeth ei chwaer yn 1843 a'i dad yn 1844 dychwelodd i Ddefynnog. Dewisiwyd ef yn un o fyfyrwyr cynharaf Coleg y Methodistiaid Calfinaidd yn Nhrefeca o dan David Charles (1812-1878; Bywg., 66). Cychwynnodd ei weinidogaeth yn Y Gelli, Brych., ac ord. ef yn y Sasiwn yn y De yn Llanelli ar 4 Awst 1852. Dychwelodd i Ddefynnog ym mis Awst 1853 a bu'n weinidog yng Nghrucywel o fis Rhag. hyd 1868, gan fyw yn rhif 4 Tower St. Yn y cyfnod a'i dilynodd y gwnaeth lawer o'i waith ysgrifennu cynnar, tra oedd yn aros am alwad arall. Ym mis Tach. 1872 daeth yn weinidog Eglwys Pontmorlais, Merthyr Tudful. Yr oedd erbyn hyn yn aelod uchel ei barch gyda'r M.C.
Yn 1873 traddododd anerchiad ar ‘Natur yr Eglwys’, rhoddodd siars i'r rhai a gafodd eu hordeinio yn 1883, ef oedd llywydd y Sasiwn yn y De yn 1886 a llywydd y Gymanfa Gyffredinol yn 1893. Ymddeolodd yn 1888 i neilltuo'i amser i'r Eglwys ac ysgrifennu. Ef oedd awdur Cofiant y diweddar Barch. Ebenezer Williams, Aberhonddu (1882) a (gyda D. M. Phillips) Cofiant a phregethau y diweddar David James, Llaneurwg (1895). Cyhoeddwyd llawer o gyfrolau o'i bregethau a chyfrannodd erthyglau i'r Traethodydd, Y Drysorfa, Y Cylchgrawn, The Treasury a'r British Quarterly Review. Dywedodd Dr. R. Tudur Jones ei fod yn ŵr o gryn addysg ac yn berson o fri ymhlith y Calfiniaid. Derbyniodd radd D.D., Efrog Newydd, yn 1894. Disgrifiwyd ef gan gyfoeswr fel pregethwr grymus, dirwestwr cadarn, a dyn ffraeth a charedig.
Pr., 4 Tach. 1852, Sarah Williams, Glanyrafon, Llangors, a bu iddynt chwech o blant. Bu f. 8 Meh. 1908 yn ei gartref, Ty'n-y-garn, Cefncoedycymer a chladdwyd ef ym mynwent Cefn Coed. Prisiwyd ei lyfrgell yn werth £1,000.