REES, EDWARD WALTER (‘Gwallter Dyfi ’; 1881-1940), rheolwr banc a cheidwad cledd yr Orsedd;
g. 8 Hyd. 1881 yn fab i Richard Rees (‘Maldwyn’, m. 1927) a Jane (g. Jones) ei wraig, Medical Hall, Machynlleth, Tfn. Mynychodd ysgol sir Machynlleth cyn mynd i weithio mewn banc, gan ddod yn rheolwr Banc Barclay yn Aberteifi ac wedyn yng Nghaerfyrddin (1926-40). Pr., 8 Rhag. 1914, â Frances Anne Rees, Goleufryn, Eglwys Newydd, Morg., a bu f. 24 Ebr. 1940, gan adael dau fab a merch. Yr oedd yn sylfaenydd ac ysgrifennydd Cymdeithas Cymrodorion Aberteifi ac yn aelod o nifer o gymdeithasau diwylliannol eraill. Ef oedd ysgrifennydd Eist. Gen. Caerfyrddin, 1911, a bu'n geidwad cledd Gorsedd y Beirdd am gyfnod maith, 1913-40. Golygodd golofn Ceredigion a Phenfro yn y Cardigan and Tivyside Advertiser am gyfnod. Yr oedd ganddo gasgliad da o hen lyfrau a llsgrau. Cymraeg ac yn 1938 etholwyd ef yn drysorydd Cymdeithas Lyfryddol Cymru.
Llyfryddiaeth:
- WWP;
- Cardigan and Tivyside Advertiser, 28 Mai 1926.
Awdur:
Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth