Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



SANDBROOK, JOHN ARTHUR (1876-1942), newyddiadurwr; g. yn Abertawe, 3 Mai 1876, yn ail fab i Thomas Sandbrook a'i wraig Harriet Sarah (g. Lotherington). Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Abertawe a daeth yn un o newyddiadurwyr mwyaf nodedig Prydain. Cychwynnodd ar ei yrfa fel newyddiadurwr yn Abertawe yn 1892, gan ddod yn brif olygydd cynorthwyol y Western Mail wedi iddo fod yn rhyfel y Boeriaid (1899-1902) pryd y dyfarnwyd iddo fedal y Frenhines gyda phum clasb. Yr oedd ei gyfres o adroddiadau a anfonodd i'r Western Mail ymhlith y rhai mwyaf byw i ddod o Dde Affrica y pryd hwnnw. Yn 1910 penodwyd ef yn olygydd yr Englishman yn Calcutta. Cydweithiodd gyda Reuter i ddisgrifio ymweliad y Brenin â Delhi ym mis Rhag. 1911. Yn 1917 yr oedd yn ohebydd arbennig ym Mesopotamia; bu'n un o ddirprwyaeth gwasg India ar y ffrynt gorllewinol yn 1918; a bu yn Waziristan ac ar y ffin ogledd-orllewinol adeg y terfysg yn 1921. Y flwyddyn ddilynol ymddiswyddodd o fod yn olygydd a dychwelodd i Gymru yn brif gyd-olygydd y Western Mail, gan olynu Syr William Davies (Bywg., 149) yn olygydd yn 1931.

Fel un a gymerai ddiddordeb byw ym mywyd Cymru, mynychodd yr Eist. Gen. droeon gan ysgrifennu'n ddyddiol adroddiadau o'r gweithrediadau. Cymerodd ran flaenllaw mewn cychwyn mudiadau cyhoeddus megis codi cofeb rhyfel genedlaethol ym Mharc Cathays, Caerdydd. Hyd ei f. ymdrechodd i wneud y ‘Llyfr Coffa’ yn y Deml Heddwch yn gofnod cyflawn o'r Cymry a gollodd eu bywyd yn Rhyfel Byd I. Trigai yn Beganston, Ffordd Pencisely, Llandaf cyn symud i Ffordd Fairwater, Caerdydd. Yr oedd yn gefnder i'r Fonesig Buckland (gw. teulu BERRY uchod) a bu f. yn fab gweddw, 13 Chwef. 1942.

Llyfryddiaeth:

  • WwW, 1933;
  • West. Mail, 14 a 18 Chwef. 1942.

Awdur:

Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth