Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



SAUNDERS, WILLIAM (1871-1950), gweinidog (B) ac addysgwr; g. 24 Mai 1871 yn fab i Thomas Saunders ac Ann (g. Thomas), 5 John St., Aberdâr, Morg., ond symudodd y teulu'n fuan wedi hynny i bentref cyfagos Abercwmboi lle'r oedd ei dad-cu o du ei fam yn aelod blaenllaw gyda'r Bedyddwyr, ac yno y bedyddiwd ef yn 1883. Symudodd y teulu eilwaith yn 1887 i Ynys-y-bŵl ac yno y dechreuodd William Saunders bregethu yn 1890. Addysgwyd ef yn Academi Pontypridd, ac yn 1892 aeth i goleg y Bedyddwyr yn Hwlffordd ac Aberystwyth cyn mynd yn weinidog ar Eglwys Jeriwsalem, Rhymni (1895-99), Carmel (Saesneg), Tredegar Newydd (1899-1901), a Noddfa, Pontycymer, lle y bu am 44 bl. Daeth yn boblogaidd ar unwaith, gan ddangos yn gynnar ei allu i gymodi carfannau gwrthwynebus. Yr oedd nid yn unig yn bregethwr huawdl a nerthol, yn gymdeithaswr difyr a chynadleddwr dihafal, ond bu'n weithgar tuhwnt gydag amryw fudiadau crefyddol a lleyg. Bu'n ysgrifennydd Undeb Ysgolion Sul Mynwy, Undeb Bedyddwyr Ieuainc Cymru, a Chymanfa Bedyddwyr Neilltuol Morgannwg am dros 15 ml. Bu ar gyngor Sir Morgannwg am flynyddoedd maith (1908-50) gan ddod yn gadeirydd y Cyngor am ddwy fl. a chadeirydd pwyllgor addysg elfennol y sir. Am ei wasanaeth i addysg cyflwynodd Prifysgol Cymru iddo radd LL.D. er anrh. yn 1946. Bu iddo ef a'i wraig Jane ferch a oedd yn feddyg yn Llundain. Bu f. 2 Mai 1950 a chladdwyd ef ym mynwent Pontycymer.

Llyfryddiaeth:

  • Llawlyfr Bed., 1951, 173;
  • Bapt. Hdbk., 1951, 361;
  • Ser. G., 1950, 117;
  • WWP.

Awdur:

Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth