Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



SIBLY, Syr THOMAS FRANKLIN (1883-1948), daearegwr, gweinyddwr prifysgol; g. 25 Hyd. 1883 ym Mryste yn fab Thomas Dix Sibly a'i wraig Virginia (g. Tonkin). Addysgwyd ef yn Wycliffe College, Stonehouse, St. Dunstan's, Burnham-on-sea, a Choleg Prifysgol Bryste lle y graddiodd yn y dosbarth cyntaf (Prifysgol Llundain) mewn ffiseg arbrofol yn 1903. Troes at ddaeareg ym Mhrifysgol Birmingham a bu'n Ysgolor Ymchwil ym Mryste 1905-07; graddiodd D.Sc. Llundain 1908. Bu'n ddarlithydd mewn daeareg (â gofal yr adran) yn King's College, Llundain, 1908-13, ac yn Athro Daeareg C.P.D.C., Caerdydd 1913-1918, ac yn Athro Daeareg Coleg Armstrong, Newcastle-upon-Tyne (Prifysgol Durham) 1918-1920. Penodwyd ef yn Brifathro cyntaf Coleg Prifysgol Abertawe yn 1920 a bu'n allweddol mewn gosod y sefydliad newydd ar sylfeini cadarn. Yr oedd yn arweinydd cadarn a chryf, yn ddadleuwr grymus ac yn weinyddwr o'r radd flaenaf. Dywedir mai ef a sicrhaodd na fu gan y coleg newydd unrhyw gymhlethdod israddol yn ei berthynas â cholegau hŷn y Brifysgol o'r dechrau cyntaf. Yn 1926 penodwyd ef yn Brif Swyddog Prifysgol Llundain, teitl a newidiwyd ar ei benodiad ef i Brifathro, a daeth yn Isganghellor Prifysgol Reading 1929-1946 lle y gwnaeth lawer i hybu datblygiad y brifysgol ieuanc honno. Yr oedd yn flaenllaw ym myd prifysgolion Prydain a'i ddoniau negydu yn sicrhau swyddi iddo megis Cadeirydd Pwyllgor yr Isganghellorion a Phrifathrawon (C.V.C.P.) 1938-43, Cadeirydd gweithredol Bureau Prifysgol yr Ymerodraeth Brydeinig, a bu'n aelod o Gyngor Ymgynghorol yr Adran Ymchwil Wyddonol a Diwydiannol, ac o'r Comisiwn Brenhinol ar Brifysgol Durham. Rhwng 1905 ac 1937 cyhoeddodd gyfres o erthyglau ar galchfeini carbonifferaidd. Bu'n aelod o'r Arolwg Ddaearegol 1917-18, ac yn Gadeirydd Bwrdd yr Arolwg Ddaearegol 1930-43. Gwnaed ef yn farchog yn 1938, a derbyniodd raddau D.Sc. Bryste, LL.D. er anrh. Cymru, Lerpwl, Bryste. Pr. Maude Evelyn Barfoot 1918 a bu iddynt un mab. Bu f. yn Reading 13 Ebr. 1948.

Llyfryddiaeth:

  • Www;
  • D.N.B.;
  • D. Emrys Evans, The University of Wales (1953);

Awdur:

Dr Brynley Francis Roberts, Aberystwyth