Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



THOMAS, GEORGE ISAAC (‘Arfryn ’; 1895-1941), cerddor a chyfansoddwr; g. yn Spencer House, Llanboidy, Caerf., 29 Tach. 1895, yn fab i Rhys Morgan a Margaret (g. Jones) Thomas. Cafodd ei addysg yng Ngholeg y Brifysgol yng Nghaerdydd, 1920-22, ac yn y Coleg Cerdd Brenhinol, 1923-26. Daeth yn A.R.C.M. fel cyfeilydd ym mis Medi 1924, ac yn A.R.C.O. ym mis Gorff. 1926. Pasiodd yr arholiad theori yn 1927 ond cyn cwblhau ei gwrs F.R.C.O. collodd ei iechyd. Bu'n arwain cerddorfa Rhydaman a'r cylch o 1914 i 1922. Gweithredodd fel cyfeilydd Eist. Gen. Rhydaman, 1922, ac fel telynor yng nghôr telynau'r Fonesig Brittain (‘Telynores y Golomen Wen’) yng nghyngerdd yr Eist. Yn ystod ei arhosiad yn Llundain bu'n organydd capel MC Charing Cross, ac yn cyfeilio ac arwain Côr Meibion Cymry Llundain. Wedi dychwelyd i Gymru bu'n organydd yng nghapel Bethani, Rhydaman. Bu'n arwain cymanfaoedd ac yn darlithio a chyfansoddodd unawdau ac emyn-donau. Bu f. 31 Rhag. 1941 a chladdwyd ef yng nghladdfa hen gapel y Betws ar 3 Ion. 1942.

Llyfryddiaeth:

  • Gwybodaeth gan ei frawd J. Emlyn Thomas.

Awdur:

Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth