THOMAS, THOMAS LLEWELYN (1840 - 1897), ysgolhaig, athro ac ieithydd

Enw: Thomas Llewelyn Thomas
Dyddiad geni: 1840
Dyddiad marw: 1897
Rhiant: Thomas Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolhaig, athro ac ieithydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Barddoniaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Gwilym Arthur Jones

Ganwyd 14 Tachwedd 1840 yn hen ficerdy Caernarfon, y mab hynaf teulu o dair merch a phum mab y Canon Thomas Thomas (1804 - 1877) a'i wraig. Penodwyd y tad yn Ficer Caernarfon yn 1835 ac ymdaflodd i fywyd crefyddol ac addysgol y dref a ddioddefai'n drwm ar y pryd gan dlodi ac ymweliadau'r colera. Llwyddodd ' Thomas of Carnarvon ', fel yr adnabyddid ef, i gychwyn ysgolion elfennol a gosod sylfaen i hyfforddi athrawon yn y dref.

Addysgwyd Thomas Llewelyn - nad oedd yn fachgen cryf - gan athrawes breifat nes ei fod yn naw oed. Ar ôl chwe blynedd o ysgol a mynychu Ysgol Sul Gymraeg, ymaelododd fis Hydref 1860 fel ysgolor o Goleg Iesu, Rhydychen. Nid oedd i'r coleg enw da am fri academaidd ar y pryd a thynnwyd sylw at hyn gan J.R. Green, yr hanesydd. Pwysleisiodd hefyd ddiffyg parch y coleg tuag at Gymru. Yn 1863 enillodd Thomas wobr Newdigate (a chlod Matthew Arnold) am gerdd Saesneg ar y testun ' Coal mines '. Chwaraeai ran flaenllaw ym mywyd y coleg, a graddiodd yn B.A. yn 1864 a daeth yn M.A. yn 1868. Aeth yn athro am gyfnod i Ysgol Rossall ac wedi dwy flynedd yng Ngholeg Llanymddyfri symudodd i ysgol Rhuthun lle'r arhosodd am bum mlynedd. Yn 1867 fe'i hordeiniwyd yn ddiacon gan yr esgob Short o Lanelwy. Yn 1868 derbyniodd urddau offeiriad gan Esgob Llanelwy. Bu'n gurad yn Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch (1867-70), Llanfwrog, Dyffryn Clwyd (1870-1), a Rhiwabon (1872). Derbyniodd reithoriaeth Nutfield, Surrey, a oedd yn ofalaeth golegol ac yno y bu am ddwy flynedd o 1880 hyd 1882.

Enillodd wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Rhuthun am lunio cân ar y testun ' Bedd y Telynor ' a chyfansoddodd Brinley Richards alaw ar ei chyfer.

Ym mis Mawrth 1872 etholwyd Llewelyn Thomas, yn wyneb cystadleuaeth glòs, yn gymrawd o'i hen goleg. Arhosodd yn y swydd hon am chwarter canrif yn dysgu a chyfarwyddo to ar ôl to o fyfyrwyr fel caplan Cymraeg y coleg (1873-60), uwch diwtor, is-brifathro o 1882 hyd 1897 a darllenydd Cymraeg. Fe'i cyfrifid yn diwtor hynod o boblogaidd. Gweithredodd fel arholwr y Brifysgol a beirniad gwobr Newdigate. Ar bwys ei fri fel clasurydd fe'i gwahoddwyd i draddodi'r bregeth Ladin. Gallai gyfansoddi cerddi 'n rhwydd yn yr ieithoedd clasurol, Cymraeg a Saesneg. Sicrhaodd bod ysgoloriaethau caeëdig Coleg Iesu i'w cadw ar gyfer bechgyn o Gymru na allent fforddio talu am addysg oherwydd tlodi. Mynnai mai ar gyfer myfyrwyr o Gymru y bwriedid y coleg ar y cychwyn, a rhoes gefnogaeth arbennig i ymddiriedolaeth Meyrick. Llafuriai Thomas i hyrwyddo cenhadaeth yr eglwys ar dir Cymru. Bernid fod ganddo gymwysterau i fod yn esgob. Cefnogai'n frwd sefydlu Cadair Gelteg. Gallai fod yn llym ei feirniadaeth ac yn ddisgyblwr caled ond eto'n garedig. Yr oedd yn gwmnïwr diddan yn yr ystafell gyffredin, ac ni bu ball ar ei gyfraniadau rhigymaidd Cymraeg yng nghyngherddau blynyddol y coleg. Ymserchai'n arbennig yng ngweithiau Virgil, Dante, Goethe a Tennyson. Cyfrannodd bennod ar hanes ei goleg i Colleges of Oxford (1891). Yn ystod gwaeledd Dr Harper ef a weithredai fel prifathro rhwng 1887 ac 1895 ond nid ef a ddewiswyd i'w olynu ond John Rhys. Yn 1897 derbyniodd gan y Goron ganoniaeth Llanelwy, ond bu farw cyn ei sefydlu. Cyfrannodd Llewelyn Thomas erthyglau ysgolheigaidd ar iaith y Basg i lyfrgelloedd Lisbon, rhifynnau 13 Medi 1884, 21 Ionawr 1893, 23 Mehefin 1894, 1 Chwefror 1896, a 8 Chwefror 1896 o Academy. Dengys ei ymdriniaeth o lawysgrifau Basg fod ganddo feistrolaeth o'r iaith honno. Ef a olygodd fersiwn Pierre D'Urte (offeiriad o ramadegydd) o'i gyfieithiaid i'r Fasgeg, sylfaenedig ar Feibl Ffrangeg Genefa, o'r Hen Destament. Ef hefyd a'i cymharodd â chyfieithiad Licarrague o'r Testament Newydd. Galwai Thomas am fersiwn boblogaidd o'r Hen Destament yn y Fasgeg fel y gallai'r werin ei ddarllen. Ni bu ei ymdrechion heb feirniadaeth ond fe gytunir fod ei gyfraniad yn un tra sylweddol. Ym mis Mawrth 1893, fe gyhoeddodd yn y gyfres Anecdota Oxoniensis, The Earliest Translation of the Old Testament into the Basque Language. Ym mis Mai 1897 fe'i trawyd yn wael gan niwmonia ac ar y 12 o'r mis bu farw yn 57 oed. Claddwyd ef, wrth ochr bedd ei dad, ym mynwent Llanbeblig, Caernarfon. Yn yr eglwys honno y mae pulpud coffa i'w dad. Yr oedd y gwasanaeth angladdol corawl yn Gymraeg.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.