Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WALTERS, DAVID (EUROF ) (1874-1942), gweinidog (A) a llenor; g. 27 Mai 1874 yr hynaf o bum plentyn John ac Ann (g. Dyer) Walters yn Nhy'n-y-coed, Betws, Rhydaman, Caerf. Gof oedd y tad a symudodd y teulu pan oedd ef yn bump oed i'r Glais ger Clydach, Cwm Tawe. Cafodd ei addysg gynnar yn yr ysgol fwrdd leol a bu'n ddisgybl-athro yno. Yr oedd y teulu'n aelodau yn Seion, y Glais, a gofalai ei fam ei dywys i holl gyfarfodydd yr eglwys honno. Dylanwad cryf arall arno oedd ei ewythr

Job Richards , ‘Eilab ’, a fu'n ysgolfeistr yn ysgol y gwaith copr yn Llanelli ac ym Mhontfathew (Bryn-crug heddiw) ger Tywyn, Meir., cyn dilyn cwrs yng Ngholeg Bodiwan, y Bala, dan hyfforddiant Michael Daniel Jones (Bywg., 466) a John Peter (ibid., 706), a dod yn weinidog cyntaf Moreia (A), Ty-croes.

Bu Eurof Walters am beth amser yn glerc dan Gwmni Rheilffordd Merthyr-Aberhonddu, cyn cymryd ei brentisio yn siop Tracy, gemydd ac eurof yn Nhreforus. Hynny sy'n egluro ei enw barddol. Aeth i Ysgol y Gwynfryn, Rhydaman (gw. Watkin Hezekiah Williams, Bywg., 1011) am hanner blwyddyn. Cerddai yno o gartref ei gefnder John Dyer Richards mab hynaf Job a Mary (g. Dyer) Richards, y Waun-lwyd, Saron, Llandybïe. Aeth y ddau gefnder i'r Coleg Coffa yn Aberhonddu a dilynodd Eurof gwrs gradd yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, a chael dosbarth I mewn Hebraeg a Groeg. Dair bl. yn olynol dyfarnwyd ysgoloriaeth iddo. Gydag ysgoloriaeth Dan Isaac Davies am ddwy fl. bu'n cymryd cwrs anrhydedd yn y Gymraeg. Derbyniodd nifer o alwadau ond penderfynodd orffen cwrs B.D. ac yr oedd ymhlith y Cymry cyntaf i gael y radd honno.

Ord. ef yn Salem, Llanymddyfri, lle y bu am 5 ml. Yna yn eglwys Saesneg Sgwar y Farchnad, Merthyr Tudful, 1905-10. Wedyn bu'n gynrychiolydd Cymd. y Beiblau, 1910-15, a theithiodd yn helaeth drwy'r Iseldiroedd, gwlad Belg a Ffrainc. Ar ddechrau Rhyfel Byd I derbyniodd alwad i eglwys Stryd Henrietta yn Abertawe a llafurio am 11 mlynedd (1915-26) a dyblu rhif yr aelodaeth yno. Ei fugeiliaeth nesaf oedd Christ Church, Croesoswallt. Yn 1931 symudodd i eglwys Gymraeg y Tabernacl, Belmont Rd., Lerpwl, lle yr ymfwriodd i fywyd crefyddol a diwylliannol Cymreig Glannau Merswy. Enillodd radd M.A. Prifysgol Lerpwl am draethawd ar Vavasor Powell (Bywg., 731) yn 1933. Ymddiddorai mewn llyfryddiaeth ac yr oedd yn aelod o Gymdeithas Lyfryddol Cymru a chyfrannwr i'w chylchgrawn. Yr oedd hefyd yn aelod o Orsedd y Beirdd. Yr oedd yn un o sefydlwyr yr Ysgolion Haf Cymraeg o dan Undeb y Cymdeithasau a bu'n hyfforddwr mewn llenyddiaeth Gymraeg am flynyddoedd. Enillodd chwe chadair eisteddfodol a gwobrau lawer yn yr Eist. Gen., e.e. traethawd ar Stephen Hughes (Penbedw, 1917), nofel hanes Pwerau'r Deufyd (Aberafan, 1932). Ysgrifennodd ar y meysydd llafur yn Y Tyst a'r Dysgedydd a nifer o esboniadau. Ef oedd cadeirydd Undeb yr Annibynwyr yn 1940-41.

Pr. Catharine Eleanor (Kate), merch William Thomas, gweinidog (A) Gwynfe, a Mary ei wraig, a bu iddynt 3 o blant. Amharwyd ar ei iechyd yn ei flynyddoedd olaf gan effeithiau'r cyrchoedd awyr ar Lerpwl a hefyd yn Abertawe gan iddo golli llawer o ffrwyth ei ysgolheictod a'i awen lenyddol pan ddinistrwyd siop lyfrau Morgan a Higgs. Bu f. yn ei gartref 12 Hampstead Road, Elm Park, Lerpwl, 29 Medi 1942, ac amlosgwyd ei gorff yn amlosgfa Lerpwl.

Llyfryddiaeth:

  • WwW (1937);
  • Y Tyst, 8 a 15 Hyd. 1942.

Awdur:

Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth