Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WATKIN, WILLIAM RHYS (1875-1947), gweinidog (B); g. 10 Rhag. 1875, yn Ynystawe, Morg., yn un o chwech o blant William a Barbara (g. Rhys) Watkin, y tad o linach teulu Grove, Abertawe, a'r fam o linach Rhysiaid Ty'n-y-Waun a Morganiaid Cwmcile. Brawd iddo oedd yr Athro Morgan Watkin (gw. uchod). Ymadawodd ag ysgol Pen-clun, Rhydypandy, yn 12 oed a mynd i weithio i'r lofa leol ac oddi yno i'r gwaith alcan. Ar ôl cyfnod byr yn Ysgol yr Hen Goleg, Caerfyrddin, aeth i Goleg y Brifysgol Bangor, lle y graddiodd yn 1899 gydag anrhydedd yn y Gymraeg; ac yn 1909 enillodd radd M.A. am waith ar Bedo Brwynllys — y gweinidog (B) cyntaf i ennill y radd honno ym Mhrifysgol Cymru. Bu'n gweinidogaethu yn y Tabernacl, Maesteg, o 1900 tan 1910, ac ym Moreia, Llanelli o 1910 tan ei farw.

Ef oedd golygydd Seren Gomer o 1921 tan 1930 ac o 1933 tan 1947 (ar y cyd gyda John Gwili Jenkins (Bywg., 410) am flwyddyn ac yna gyda David Hopkin). Yr oedd yn nodedig fel gweinyddwr; bu'n llywydd ei Gymanfa, yn llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru yn 1939-40 ac yn gadeirydd Cymdeithas Genhadol y Bedyddwyr (y B.M.S.) o 1944 i 1945. Ysgrifennodd nifer o erthyglau i'r Geninen, Seren Gomer, ac i Drafodion Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru ynghyd â chyfrol ar hanes Bedyddwyr Clydach ac un ar hanes plwyf Llangyfelach.

Yn ddiwinyddol perthynai i draddodiad uniongred hen ymneilltuaeth glasurol y 18fed ganrif ond daeth yn drwm o dan ddylanwad Mudiad Cymru Fydd a chredai'n gryf ym mhwysigrwydd yr iaith Gymraeg; cynhaliai ddosbarthiadau Cymraeg yn ei eglwys ym Maesteg — peth prin ar y pryd. Enillodd Fedal Ryddiaith Eist. Gen. Llangollen, 1908, a phan ddaeth yr Eist. i Lanelli yn 1930 ef oedd ysgrifennydd y Pwyllgor Llên a dirprwy-ysgrifennydd yr Eist. Yr oedd yn aelod o Orsedd y Beirdd wrth yr enw ‘Glanlliw’. Bu'n gadeirydd Clwb Awen a Chân y dref am flynyddoedd, ac yn ystod Rhyfel Byd II bu'n gadeirydd Undeb Cymru Fydd yn yr ardal. Meddai ar lyfrgell eang a gwerthfawr, ac yr oedd yn gryn awdurdod ar argraffiadau cyntaf.

Pr. yn y Tabernacl, Maesteg, 12 Medi 1905, â Jane, merch David ac Elizabeth (g. Jenkins) Williams. Bu hi f. 24 Rhag. 1936, ac yntau 16 Rhag. 1947, a chladdwyd y ddau ym mynwent y Bocs, Llanelli. Bu iddynt un ferch.

Llyfryddiaeth:

  • Ser. G., Maw-Ebr. 1948;
  • manylion gan Enid Watkin Jones;
  • a gwybodaeth bersonol.

Awdur:

Ei Anrhydedd Dewi Watkin Powell, Cricieth