WATKINS, WILLIAM (fl. 1750-62), clerigwr ym Mrycheiniog ac awdur
y llyfr cyhoeddedig cyntaf ar goed o Gymru. Fe'i cofnodwyd fel pensiynwr yn Neuadd y Drindod, Caergrawnt o Feh. 1750 i 1754, ond arwyddodd y cofrestrau yn Y Gelli yn gyson fel curad cynorthwyol i ficer absennol yn 1750-52. Gadawodd Y Gelli yn fuan ar ôl i'w wraig a merch iddo farw yno o'r frech wen yn 1752, a chyhoeddodd A Treatise on Forest-Trees (Llundain, 1753), cyfrol arbennig o brin erbyn hyn. Yn 1762 fe'i hapwyntiwyd yn ficer yn Llaneleu, ond ni wyddys mwy amdano.
Llyfryddiaeth:
- Jnl. W.B.S., 11 (1975-6), 247-50.
Awdur:
William Linnard, Llandaf