WILLIAMS, WILLIAM JONES (1891 - 1945), diwygiwr, gweinidog Apostolaidd

Enw: William Jones Williams
Dyddiad geni: 1891
Dyddiad marw: 1945
Priod: Elsie Williams (née Evans)
Priod: Mary Anne Williams (née Evans)
Rhiant: Esther Williams
Rhiant: William Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: diwygiwr, gweinidog Apostolaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Evan David Jones

Brawd Daniel Powell Williams a'i gydymaith fel proffwyd ar ei deithiau; ganwyd yn Garn-foel 9 Mai 1891. Yn ddeg oed dechreuodd fynychu cyfarfodydd diwygiad, ac mewn cyfarfod yng nghapel (MC) Llanllian arddododd Evan Roberts a'r Dr D. M. Phillips eu dwylo arno gan ddymuno yr arweinid ef i'r weinidogaeth. Fel y gwelwyd uchod, galwyd ef i'r swydd broffwydol yn yr Eglwys Apostolaidd, a bu ar deithiau gyda'i frawd i lawer gwlad, a hefyd ar ei ben ei hun. Bu'n bugeilio preiddiau ym Mhen-y-groes, Bradford, Llandybïe, Caerdydd, a'r eglwys Apostolaidd yn Edgware, Llundain. Ef am flynyddoedd oedd is-olygydd yr Apostolic Herald, cylchgrawn cenhadol yr eglwys, a sefydlwyd yn 1922 fel yr Apostolic Church Missionary Herald ond yn 1931 newidiwyd y teitl.

Priododd (1) â Mary Anne Evans o Landeilo yn 1912; a bu iddynt 3 phlentyn. Bu hi farw 15 Tachwedd 1936, ac yn 1938 priododd yntau (2) ag Elsi, merch John a Rachel Evans, Capel Isaac, a bu iddynt un ferch. Bu yntau farw 15 Ebrill 1945, yn Llundain a chladdwyd ef ym mynwent y Deml, Pen-y-groes.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.