WYNDHAM-QUIN, WINDHAM THOMAS (1841 - 1926), 4ydd IARLL DUNRAVEN yn yr urddoliaeth Wyddelig ac ail FARWN KENRY yn y Deyrnas Unedig, K.P., 1872, C.M.G., 1902, tirfeddiannwr a gwleidydd ym Morgannwg, sbortsmon ac awdur

Enw: Windham Thomas Wyndham-quin
Dyddiad geni: 1841
Dyddiad marw: 1926
Priod: Florence Elizabeth Wyndham-Quin (née Kerr)
Rhiant: Augusta Wyndham-Quin (née Goold)
Rhiant: Edwin Richard Windham Wyndham-Quin
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: tirfeddiannwr a gwleidydd ym Morgannwg, sbortsmon ac awdur
Maes gweithgaredd: Perchnogaeth Tir; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Muriel E. Chamberlain

Ganwyd 12 Chwefror 1841 yn Adare, swydd Limerick, ond treuliodd ei blentyndod yn nhŷ ei dad, castell Dwn-rhefn, ar lan y môr ger Porth-cawl. Disgynnai o hen deulu Gwyddelig Quin, un o'r ychydig deuluoedd o dras dilys frodorol yn yr urddoliaeth Wyddelig, ac o deulu Wyndham o Sir Gaerloyw a fuasai'n dal tiroedd ym Morgannwg ers yr 17g. Yr oedd iddynt gysylltiadau, trwy briodas, â theuluoedd Carne, Ewenni; Thomas, Llanfihangel; a Vivian, Abertawe. Yr oedd ei dad, Edwin Richard Windham Wyndham-Quin, 3ydd Iarll Dunraven yn A.S. dros Forgannwg, 1837-50. Augusta, merch Thomas Goold, meistr yn siawnsri yn Iwerddon, oedd ei fam. Gan i'w dad droi'n Babydd (er i'r mab barhau'n Brotestant) cafodd ei addysg ym Mharis a Rhufain cyn ei ddanfon i Christ Church, Rhydychen, yn 1858. Ymunodd â'r Life Guards fel cornet yn 1862. Yn 1867 cafodd ganiatâd i fynd yn ohebydd rhyfel gyda'r fyddin Brydeinig i Abysinia o dan y Cadfridog Syr Robert Napier, yr Arglwydd Napier o Fagdala yn ddiweddarach, brawd y capten Charles Frederick Napier, prif gwnstabl cyntaf Morgannwg. Ar yr ymgyrch hon rhannai babell gyda Henry Morton Stanley, gohebydd y New York Herald y pryd hwnnw, ac ysgrifennodd beth o'i gopi drosto. Yn 1869, ac yntau erbyn hyn yn Arglwydd Adare, y priododd Florence Elizabeth, merch yr Arglwydd Charles Lennox Kerr, ac yr ymwelodd gyntaf ag America. Dychwelodd yn rheolaidd i'r wlad honno a phrynu ransh yng Ngholorado. Arweiniai ei chwilfrydedd anniwall ef i ymchwilio i lawer o bethau gan gynnwys ysbrydegaeth.

Etifeddodd yr iarllaeth a'r teitlau eraill ar farwolaeth ei dad yn 1871, ond ni chymerodd ei le yn Nhâ'r Arglwyddi am beth amser. Yn Rhagfyr 1877, tra'n aros yn T.U.A. gyda chwmni'n cynnwys yr Arglwydd Rosebery, ysgrifennodd i The World erthygl ar gyflwr Ewrop a dynnodd gryn sylw. Traddododd ei araith gyntaf yn Nhâ'r Arglwyddi, yn Chwefror 1878. Ym Mehefin 1885 daeth yn is-ysgrifennydd yn Swyddfa'r Trefedigaethau yn llywodraeth gyntaf yr Arglwydd Salisbury gan ddychwelyd i'r swydd honno pan ddaeth y Ceidwadwyr i awdurdod drachefn yn Awst 1886, ond ymddiswyddodd yn Chwefror 1887, yn rhannol mewn cydymdeimlad á'i gyfaill agos, yr Arglwydd Randolph Churchill, a ymddiswyddasai ychydig wythnosau'n gynt, ac yn rhannol am yr ofnai fod agwedd llywodraeth Prydain tuag at gwestiwn pysgodfa Newfoundland yn bylchu awtonomi cynulliad yr ynys. Ni ddaliodd swydd drachefn, ond arhosodd yn llygad y cyhoedd fel ymladdwr dygn dros ddiwygio tollau, fel llywydd cyntaf y Fair Trade League ac fel llofnodwr blaenllaw adroddiad lleiafrif y Comisiwn Brenhinol ar y dirwasgiad mewn masnach a diwydiant, 1885-86, a alwai am ddiffyndollaeth gymedrol a ffafraeth ymerodrol. Ef oedd cadeirydd y pwyllgor seneddol a fu'n ymchwilio i amodau llafur trwm ar gyflogau isel, 1880-90. Gwrthwynebodd fesur Gladstone am hunanreolaeth i Iwerddon yn 1886 am ei fod yn ei weld yn gyfystyr ag ymwahaniad, ond yr oedd yn gryf o blaid datganoli, gan ddadlau os oedd yn gweithio yn Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw y byddai'n sicr o weithio mewn unedau mwy fel yr Alban a Chymru. Iwerddon oedd gofal mawr Dunraven yn ei flynyddoedd olaf. Bu'n gymorth i sicrhau pasio Deddf Tir Iwerddon yn 1903, a'r flwyddyn wedyn ymunodd á landlordiaid cymedrol eraill o Undebwyr yn yr Irish Reform Association i awgrymu, ond yn aflwyddiannus, gynllun newydd o ddatganoli i Iwerddon. Yn Rhagfyr 1921 eiliodd John Morley yn ei atebiad i araith y Brenin a gyhoeddai sefydlu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon. Eto, ni roddodd ei ddiddordebau Cymreig heibio. Croesawodd nifer o wleidyddion amlwg, gan gynnwys Joseph Chamberlain, i Gastell Dwn-rhefn. Yr oedd yn ynad heddwch dros Forgannwg ac yn gyrnol anrhydeddus Royal Garrison Artillery y sir. Yr oedd yn ŵr cyfoethog. Yn 1883 yr oedd yn berchen 39,756 o erwau mewn gwahanol rannau o'r sir, a'i incwm yn £35,478 y flwyddyn. Deilliai'r rhan fwyaf o hwnnw o'i ystadau yng Nghymru gan gynnwys tir amaethyddol ym mro Morgannwg a hawliau mwynol ym maes glo de Cymru. Gorweddai'r rhan fwyaf o dre Pen-y-bont ar Ogwr ar ei ystad. Yr oedd yn sbortsmon amlwg, yn berchen ceffylau râs ar y cyd â'r Arglwydd Randolph Churchill, ond adnabyddid ef yn fwy fel hwyliwr iot a wnaeth ddwy ymgais ddewr, ond aflwyddiannus, i gipio Cwpan America yn ôl i Brydain gyda Valkyrie II a III yn 1893 ac 1895. Yn ystod Rhyfel Byd I, er ei fod dros ei ddeg a thrigain, trodd ei iot ager, y Grianaig, yn llong ysbyty a gwasanaethu'n bersonol ynddi. Bu farw yn Llundain, 14 Mehefin 1926. Cafodd dair merch, ond bu dwy ohonynt farw o'i flaen. Dilynwyd ef yn y teitlau gan ei gefnder, Windham Henry Wyndham-Quin, A.S. De Morgannwg, 1895-1906.

Cyhoeddodd Experiences in spiritualism, gyda D. D. Home (1871); The great divide: travels in the upper Yellowstone (1876); The Irish question (1880); The Soudan: its history, geography and characteristics (1884); The Labour question (1885); Self-instruction in the practice and theory of navigation (1900); No army, no empire (1901); Ireland and Scotland under the Unions: failure and success (1905); Devolution in the British Empire (1906); The outlook in Ireland: the case for devolution and conciliation (1907); Irish land purchase (1909); The legacy of past years (1911); The new spirit in Ireland (1912); The finances of Ireland (1912); Canadian nights … reminiscences of life and sport in the Rockies etc. (1914); The crisis in Ireland - federal union through devolution (1920); Past times and pastimes (hunangofiant; 1922); Dunraven Castle, Glamorgan: some notes on its history and associations (1926).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.