BEAUMONT, Is-Gyrnol yr Anrhydeddus RALPH EDWARD BLACKETT (1901-1977), Aelod Seneddol a gŵr cyhoeddus

Enw: Ralph Edward Blackett Beaumont
Dyddiad geni: 1901
Dyddiad marw: 1977
Priod: Helena Mary Christine Beaumont (née Wray)
Rhiant: Alexandrina Louisa Maud Beaumont (née Vane-Tempest)
Rhiant: Wentworth Canning Blackett Beaumont
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Aelod Seneddol a gŵr cyhoeddus
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: David Lewis Jones

Ganwyd 12 Chwefror 1901 yn 33 Sgwâr Belgrave, Llundain, yn bumed plentyn ac ail fab Wentworth Canning Blackett Beaumont, o 1907 2il Farwn Allendale ac o 1911 Is-iarll cyntaf Allendale, a'r Fonesig Alexandrina Louisa Maud Vane-Tempest, merch 5ed Ardalydd Londonderry. Yr oedd ei nain ar ochr ei fam yn ferch i Syr John Edwards, Greenfields, Machynlleth - Plas Machynlleth erbyn hyn.

Addysgwyd Beaumont yn Eton ac Eglwys Crist, Rhydychen, lle graddiodd â B.A. ym 1923, gan fynd ymlaen at radd M.A. ym 1953. Yr oedd gan Beaumont fodd annibynnol a'i galluogodd i ddilyn gyrfa wleidyddol, yn Unoliaethwr ac nid yn Rhyddfrydwr fel ei dad. Ym 1929, ymgeisiodd am y sedd yn Cannock, swydd Stafford gan ddod yn ail. Daeth llwyddiant i'w ran ym 1931 pan oedd yn ymgeisydd ar ran yr Unoliaethwyr yn Portsmouth Central. Er maint eu nerth yn Portsmouth, ni safodd y Rhyddfrydwyr yno, ond rhoddasant gefnogaeth lwyfan i Beaumont gan ei alluogi i drechu'r aelod Llafur. Yr oedd Ralph Beaumont yn boblogaidd yn yr etholaeth oherwydd ei ofal arbennig am les milwyr a gweithwyr yn y dociau. Am gyfnod, bu'n byw mewn ardal dlawd yn yr etholaeth. Yn Etholiad Cyffredinol 1935, fe'i gwrthwynebwyd yn Portsmouth Central gan ymgeisydd o adain Samuel y blaid Ryddfrydol. Er hynny, parhaodd llawer o Ryddfrydwyr amlwg i'w gefnogi ac fe'i hailetholwyd gyda'i fwyafrif wedi cynyddu ychydig. Ni chafodd Beaumont swydd wleidyddol uchel; bu'n Ysgrifennydd Seneddol Preifat i'r Is-bostfeistr Cyffredinol 1932-35; i'r Postfeistr Cyffredinol 1935-40, ac i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel 1942-45. Fe'i trechwyd gan yr ymgeisydd Llafur yn Etholiad Cyffredinol 1945.

Yr oedd Beaumont wedi gwasanaethu yn y Fyddin Diriogaethol oddi ar ei benodiad yn is-lefftenant gyda chatrawd Gwŷr Traed y Peirianwyr Brenhinol ar 26 Gorffennaf 1931. Tra oedd yn aelod seneddol, cafodd Beaumont lwyddiant yn arholiadau'r coleg staff gan gyrraedd rheng uwch-gapten. Wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd yr oedd yn flaenllaw yn ailadeiladu'r Fyddin Diriogaethol gan gyrraedd rheng Is-gyrnol. Tarddai catrawd Beaumont o'r Fyddin Diriogaethol o Filisia Trefaldwyn a oedd wedi'i leoli yn y Drenewydd, nid nepell o'i gartref ym Mhlas Llwyngwern, Pantperthog, ger Machynlleth. Oddi ar 1929, bu Beaumont yn feistr ar gŵn hela Plas Machynlleth. Ar ddiwedd ei yrfa seneddol, bu'n fwy gweithgar ym mywyd cyhoeddus Sir Drefaldwyn. Ef oedd Llywydd Cymdeithas Geidwadol Sir Drefaldwyn lle bu rhaid iddo, yn anarferol, dawelu gwrthryfel tu mewn i'r gymdeithas yn erbyn penderfyniad y pwyllgor gwaith i beidio ag enwebu ymgeisydd i sefyll yn erbyn y Rhyddfrydwr, Clement Davies yn Etholiad Cyffredinol 1951. Fe'i penodwyd yn Uchel-Siryf Trefaldwyn ym 1957, yn Ddirprwy-raglaw'r sir ar 17 Mawrth 1961 ac yn Is-raglaw ar 10 Ebrill 1962. Gwasanaethodd hefyd fel Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Cymdeithas Amaethyddol Sir Drefaldwyn o 1948 hyd 1969. Yn ei filltir sgwâr yr oedd yn aelod o Gyngor Trefol Machynlleth ac yn gadeirydd arno o 1964 hyd 1966. Cyflwynodd i'r Cyngor rodd hael o dir, i ddibenion cymdeithasol, ym 1967.

Gan ei fod yn amlwg ymhlith y Ceidwadwyr yng Nghymru a chan fod ganddo ddiddordeb mawr mewn materion gwledig, cafodd ei enwebu i fod yn aelod o nifer o gyrff cyhoeddus. O 19 Awst 1952 tan 1969, bu'n Gomisiynydd ar y Comisiwn Datblygu ac o 1968 tan 1977 bu'n aelod o Gyngor Diwydiannau Bach mewn Ardaloedd Gwledig; y naill a'r llall yn rhagflaenwyr i'r Comisiwn Datblygu Gwledig. Bu'n aelod hefyd, o 1958 tan 1977, o Gyngor y Tribiwnlysoedd. Yng Nghymru, gwasanaethodd Beaumont ar y Cyngor Economaidd Cymreig o 1965 hyd 1968 ac ar y Cyngor Cymreig o 1968 hyd 1971. Cafodd y wneud yn C.B.E. ar 1 Ionawr 1967 am ei wasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.

Priododd Ralph Beaumont yn Eglwys St. George's, Hanover Square, Llundain ar 22 Mawrth 1926, â Helena Mary Christine Wray, merch ieuengaf y Brigadydd-gadfridog Cecil Wray; ganwyd iddynt ddau fab a merch. Bu farw Christine Beaumont ar 26 Awst 1962. Tua 1972, symudodd Ralph Beaumont o Blas Llwyngwern i Bron-y-Wennol, a oedd hefyd ym Mhantperthog. Bu farw ar 18 Medi 1977 a chynhaliwyd ei angladd yn Eglwys S. Pedr, Machynlleth, ar 23 Medi 1977. Gadawodd stad o £225,314.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-10-01

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.