DAVIES, DEWI ALED EIRUG (1922-1997), gweinidog ac athro diwinyddol gyda'r Annibynwyr

Enw: Dewi Aled Eirug Davies
Dyddiad geni: 1922
Dyddiad marw: 1997
Priod: Emily Davies (née Davies)
Rhiant: Jennie Davies (née Thomas)
Rhiant: Thomas Eirug Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog ac athro diwinyddol gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: John Tudno Williams

Ganwyd yng Nghwmllynfell, 5 Chwefror 1922, yn un o wyth plentyn Thomas Eirug Davies, gweinidog gyda'r Annibynwyr yno ac wedi 1926 yn Llanbedr Pont Steffan. Roedd ei fam Jennie yn ferch i R.H. Thomas, gweinidog (MC) Llansannan. Addysgwyd ef yn ysgol gynradd Peterwell, Llanbed, ac yn Ysgol Sir Aberaeron. Oherwydd ei safiad yn erbyn rhyfel adeg Rhyfel Byd 2, torrwyd ar ei yrfa academaidd pan orfodwyd iddo weithio ar y tir ac mewn ysbyty. Yn 1944 ailgydiodd yn ei gwrs academaidd a mynd i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, lle graddiodd mewn Cymraeg ac Athroniaeth yn 1947. Aeth ymlaen i ddilyn cwrs diwinyddol yn y Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin. Enillodd radd Baglor mewn Diwinyddiaeth yn 1950 gydag anrhydedd mewn Athrawiaeth Gristnogol.

Bu'n gweinidogaethu gyda'r Annibynwyr ym Methlehem, San Clêr (1950-52), Radnor Walk, Llundain (1952-59), Llanbrynmair (1959-65), ac yn y Tabernacl, Treforys (1965-70). Parhaodd â'i astudiaethau diwinyddol tros y blynyddoedd hyn, gan ennill gradd M.Th. Prifysgol Llundain yn 1955, a gradd M.A. Prifysgol Cymru yn Abertawe yn 1962 am draethawd ar 'Natur a Swyddogaeth yr Ysbryd Glân yn Epistolau Paul'. O Fedi 1961 hyd ddiwedd Mai 1962 bu'n efrydydd yng Ngholeg Diwinyddol Unedig Richmond, Virginia, a chyhoeddodd ei argraffiadau o'r cyfnod hwnnw mewn cyfrol, Blas Virginia (1964).

Yn 1970 fe'i apwyntiwyd yn Athro Athrawiaeth Gristnogol yn y Coleg Coffa, Abertawe, ac yna yn 1981, ar ôl i'r Coleg symud i Aberystwyth, olynodd W. T. Pennar Davies yn Brifathro. Ymddeolodd yn 1988 a symud i fyw i Gaerdydd. Bu'n llywydd ei enwad yn 1990.

Bu'n hynod ddiwyd â'i ysgrifbin (fel y dengys y Llyfryddiaeth a luniwyd gan ei frawd, Alun, ar gyfer y gyfrol Cofio Dewi Eirug), gan gyhoeddi a golygu nifer o gyfrolau sylweddol; hefyd bu'n olygydd cylchgrawn blynyddol Adran Ddwinyddol Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru, Diwinyddiaeth, o 1978 hyd 1989, ac yn gyd-olygydd wythnosolyn ei enwad, Y Tyst, o 1975 i 1983. Cyhoeddodd Arweiniad i Athrawiaeth Gristionogol (1969) a Hoff Ddysgedig Nyth: Cyfraniad Coleg Presbyteraidd Caerfyrddin i Fywyd Cymru (1976). Enillodd Wobr Goffa Ellis Griffith am ei gyfrol swmpus Hanes Diwinyddiaeth yng Nghymru 1927-1977 (1984), a dyfarnwyd iddo radd Ph.D. Prifysgol Cymru amdani. Yn ddiweddarach astudiodd adweithiau Cymry i'r ddau ryfel byd, a chyhoeddwyd ffrwyth ei ymchwil yn y ddwy gyfrol, Byddin y Brenin (Cymru a'i chrefydd yn y Rhyfel Mawr) (1988) a Protest a Thystiolaeth. Agweddau ar y dystiolaeth Gristnogol yn yr Ail Ryfel Byd (1993). Amlyga'r holl gyfrolau hyn ddarllen eang o ran llyfrau ac erthyglau a'r gallu i gyflwyno'r deunydd manwl hwn mewn ffordd ddarllenadwy a diddorol. Drwy gyfrwng y gweithiau hyn agorodd i'w gyd-Gymry feysydd a oedd cyn hynny yn eithaf dieithr i'r rhan fwyaf ohonynt. Golygodd gyfrol o bregethau Ffolineb Pregethu (1967), cyfrol o ysgrifau ar genedlaetholdeb o safbwynt y Cristion, Gwinllan a Roddwyd (1972), ynghyd â Chyfrol Deyrnged Pennar Davies (1981). Cynnwys ei gyfrol olaf, Chwyldro Duw a Homilïau Eraill (1995), saith deg o homilïau byrion.

Priododd Emily Davies, actores a chynhyrchydd dramâu, a ddaeth yn ddarlithydd yn Adran Ddrama Coleg y Brifysgol Aberystwyth, a ganwyd iddynt ddau fab. Bu hi farw ar 8 Medi 1992, ac yntau ar 8 Awst 1997 yn Ysbyty Llandochau.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2009-09-09

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.