DAVIES, IFOR (1910-1982), gwleidydd Llafur

Enw: Ifor Davies
Dyddiad geni: 1910
Dyddiad marw: 1982
Priod: Doreen Davies (née Griffiths)
Rhiant: Elizabeth Jane Davies
Rhiant: Jeffrey Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd Llafur
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd ef ar 9 Mehefin 1910, yn fab i Jeffrey Davies, pregethwr lleyg gyda'r Annibynwyr Cymraeg ac ysgrifennydd ei eglwys, ac Elizabeth Jane Davies ei wraig. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Bro Gŵyr, Coleg Technegol Abertawe a Choleg Ruskin, Rhydychen, lle enillodd Ddiploma Rhydychen mewn Economeg a Gwleidyddiaeth. Daliodd i ymddiddori mewn addysg i oedolion drwy gydol ei oes. Enillodd ei fywoliaeth yn gyfrifydd gyda Chwmni I. Rowland Jones, 1931-39, yn swyddog personél gyda chwmni ICI, 1942-47, o fewn Adran Ystadegau'r Weinyddiaeth Lafur, 1947-48, ac yn ddiweddarach gyda Chwmni Aluminium, Wire and Cable, 1948-59. Dewiswyd Davies yn ysgrifennydd eglwys Bro Gŵyr yr Annibynwyr Cymraeg ym 1948.

Ymunodd Ifor Davies â'r Blaid Lafur yn ŵr ifanc ym 1928; daeth yn llywydd Ffederasiwn Gorllewin Cymru o Gyngrair Ieuenctid y Blaid Lafur ym 1935, ac yn ysgrifennydd Plaid Lafur Etholaethol Bro Gŵyr ym 1948 (ac yn asiant gwleidyddol iddi yn ddiweddarach). Etholwyd ef yn AS Llafur dros etholaeth Gŵyr yn etholiad cyffredinol 1959 a daliodd ei afael yn y sedd hon hyd at ei farw. Roedd yn hynod weithgar o fewn ei etholaeth a ledled Cymru, ac roedd ganddo ddiddordeb tymor hir mewn materion diwydiannol. Roedd Davies yn aelod o'r Blaid Gydweithredol, Cymdeithas y Ffabiaid, pwyllgor gwaith De Cymru o Fudiad Addysg y Gweithwyr, 1950-60, Cyngor Bwrdeistref Abertawe a chyngor Sir Forgannwg, 1958-61. Penodwyd ef yn gadeirydd cyngor Coleg Prifysgol Abertawe ym 1969 ac roedd hefyd yn aelod o Fwrdd Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru ers 1972. Roedd yn ogystal yn chwip yr wrthblaid, 1961-64, yn Arglwydd Gomisiynydd y Trysorlys a chwip y Llywodraeth Lafur, 1964-66, ac yn is-ysgrifennydd gwladol yn y Swyddfa Gymreig arfaethedig, Ebrill 1966-Hydref 1969. Yno chwaraeodd ran ganolog yn ystod blynyddoedd sefydlu'r adran newydd. Gwasanaethodd hefyd yn gadeirydd yr Uwch Bwyllgor Cymreig lle bu ei degwch a'i wybodaeth eang o'r senedd yn destun edmygedd i Aelodau Seneddol o bob plaid. Bu Davies hefyd yn aelod o Banel y Cadeiryddion, corff hynod o bwerus, yn Nhŷ'r Cyffredin. Roedd yn gadeirydd y grŵp Llafur Cymreig, 1960-66, ac yn gadeirydd ar y Blaid Seneddol Gymreig, 1970-71. Pleidleisiodd dros fynediad Prydain Fawr i'r Farchnad Gyffredin. Dyfarnwyd gradd Ll.D. er anrhydedd iddo gan Brifysgol Cymru ym 1980. Ei ddiddordebau oedd cerdded a gwrando ar gerddoriaeth glasurol. Parhaodd i fynychu'r capel ar hyd ei oes. Priododd ar 15 Awst 1950 Doreen, merch William Griffiths. Bu iddynt ddau o blant. Eu cartref oedd Tŷ Pentwyn, Three Crosses, Gŵyr. Bu farw Ifor Davies ar 6 Mehefin 1982. Fe'i holynwyd gan Gareth Wardell yn AS Llafur etholaeth Gŵyr; etholwyd Wardell yn yr is-etholiad cyntaf i'w gynnal yng Nghymru yn ystod llywodraeth gyntaf Margaret Thatcher (1979-83).

Roedd Ifor Davies yn perthyn i'r hen draddodiad gofalgar a thrugarog a nodweddai'r mudiad Sosialaidd yn ne Cymru adeg ei farw. Rhedai ei yrfa wleidyddol yn ystod cyfnod trawmatig yn hanes de Cymru ddiwydiannol fel canlyniad i'r tranc yn y diwydiannau trwm traddodiadol. Brwydrodd Davies yn gyson dros ailfywiogi cymoedd de Cymru gan annog nifer o lywodraethau olynol i ddwyn ffatrïoedd newydd i'r ardal.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-07-31

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.