DODD, CHARLES HAROLD (1884-1973), ysgolhaig beiblaidd

Enw: Charles Harold Dodd
Dyddiad geni: 1884
Dyddiad marw: 1973
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolhaig beiblaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: John Tudno Williams

Ganwyd yn Wrecsam, 7 Ebrill 1884, yr hynaf o bedwar mab Charles Dodd, prifathro ysgol gynradd leol, y British Victoria, a'i briod, Sarah (ganwyd Parsonage). Bu un brawd, Arthur Herbert yn Athro Hanes yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor, ac un arall, Percy William, yn Gymrawd Coleg Iesu, Rhydychen, 1919-31. Addysgwyd ef yn ysgol ei dad ac yna yn Ysgol Grove Park, Wrecsam, cyn ennill ysgoloriaeth yn y Clasuron yng Ngholeg y Brifysgol, Rhydychen, yn 1902, ac erbyn 1906 roedd wedi ei ddyfarnu yn y dosbarth cyntaf ddwy waith, yn Classical Moderations ac mewn Litterae Humaniores. Am gyfnod byr bu'n darlithio yn y Clasuron ym Mhrifysgol Leeds ac yn gwneud ymchwil yn Nwmismateg yr Ymerodraeth Rufeinig ym Mhrifysgol Berlin. Yn y cyfamser fe'i etholwyd yn Senior Demy yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen, lle gwnaeth ymchwil ar arysgrifaeth Gristnogol gynnar yn yr Eidal, ond ni chyhoeddwyd ei waith ar y pwnc. Felly, ym meysydd archaeoleg a nwmismateg yr oedd ei ddiddordebau academaidd cynnar ac ymddangosodd ei gyhoeddiadau ysgolheigaidd cyntaf ar ffurf erthyglau yn y meysydd hyn. Yn y cyfnod hwn hefyd y dechreuodd astudio diwinyddiaeth yng Ngholeg Mansfield, Rhydychen, er na chymerodd radd fel y cyfryw yn y pwnc, ac fe'i ordeiniwyd yn weinidog mewn eglwys Gynulleidfaol yn Warwick yn 1912.

Yn 1915 dychwelodd i Goleg Mansfield yn Ddarlithydd Yates, ac yn ddiweddarach yn Athro yng Ngroeg ac Esboniadaeth y Testament Newydd, er mai ei fwriad wrth ddychwelyd yno oedd astudio Hanes yr Eglwys. Yn 1927 fe'i apwyntiwyd yn ddarlithydd prifysgol mewn Astudiaethau Testament Newydd yn Rhydychen ac yn Ddarlithydd Grinfield yn y Septuagint. Tair blynedd yn ddiweddarach fe'i dewiswyd i lenwi Cadair Beirniadaeth ac Esboniadaeth Feiblaidd Rylands ym Mhrifysgol Manceinion, ac yna yn 1935 ef oedd yr ysgolhaig cyntaf heb fod yn Anglican i lenwi cadair ddiwinyddol yn un o hen brifysgolion Lloegr pan etholwyd ef i Gadair Norris-Hulse yng Nghaergrawnt, lle arhosodd hyd ei ymddeoliad yn 1949. Roedd hefyd yn Gymrawd o Goleg Iesu, Caergrawnt.

Ei gyhoeddiad sylweddol cyntaf oedd The Authority of the Bible (1928) ac ynddo gofynnai beth oedd sail yr awdurdod hwnnw. Atebai mai'r gwirionedd ei hun ydoedd, sef yr hyn a ddatguddir o feddwl ac ewyllys Duw ac a gyfryngir inni yn y Beibl fel 'Gair Duw'. Pwyslais amlwg yn ei gyhoeddiadau yw ei ymchwil am undod yn nysgeidiaeth y Testament Newydd a honnwyd bod hyn wedi rhoi hwb sylweddol i dwf Diwinyddiaeth Feiblaidd yn union wedi'r ail ryfel byd. Yn The Apostolic Preaching and its developments (1936) amlinellodd y prif elfennau ym mhroclamasiwn (kerygma) yr eglwys fore fel y'u canfu yn epistolau Paul ac yn yr areithiau yn Llyfr yr Actau. Yn nes ymlaen yn Gospel and Law (1951) darganfu yn epistolau'r Testament Newydd batrwm cyffredin o ddysgeidiaeth foesol (didache) a âi'n ôl, fel y kerygma, i gyfnod cynnar yn hanes yr eglwys fore.

Fe'i cofir yn arbennig hefyd am ei waith arloesol ym maes eschatoleg y Testament Newydd. Bathodd yr ymadrodd 'eschatoleg gyflawnedig' (realized eschatology) yn ei gyfrol The Parables of the Kingdom (1935) a alwyd 'y cyfraniad pwysicaf unigol yn Saesneg i'r drafodaeth ar Deyrnas Dduw yn nysgeidiaeth Iesu'. Mynnai mai'r dywediadau mwyaf nodweddiadol gan Iesu am y Deyrnas oedd y rhai a gyhoeddai ei bod wedi cyrraedd ac nid yn unig ar fin dod. Credai hefyd bod unrhyw ddywediadau a awgrymai y byddai'r Deyrnas yn dod yn y dyfodol yn cyfeirio at ddyfodiad mewn byd y tu hwnt i amser. Yna, yn The Coming of Christ (1951), wrth drafod yr ailddyfodiad dywed ei fod yn ddigwyddiad y tu hwnt i hanes. Eto, nid oes amheuaeth iddo liniaru tipyn ar ei safbwynt cyntaf a gorfod cyfaddef bod rhywbeth yn aros o hyd i obeithio amdano. Awgrymwyd mai'r ymadrodd Ioanaidd: 'Y mae amser yn dod, yn wir y mae wedi dod' a gynrychiolai orau ei feddwl aeddfed ar y mater. Yn ei gyfrol fawr gyntaf ar Efengyl Ioan, The Interpretation of the Fourth Gospel (1953) bodlonodd ar ymadrodd Almaenig y gellir ei gyfieithu, 'eschatoleg yn ei chyflawni ei hun', sy'n awgrymu y bydd disgwyliadau eschatolegol ar ôl dyfodiad y Deyrnas. Mynnai hefyd bod eschatoleg wedi'i gwau i mewn i syniadau moesol yr Eglwys Fore. Roedd yr ymwybyddiaeth bod popeth yn y byd hwn yn ymddangos yn ddiflanedig a thros amser yn unig yn peri bod y Cristnogion cynnar yn hoelio'u sylw ar y gwerthoedd tragwyddool a fyddai'n goroesi'r drefn bresennol.

Agwedd pwysig arall ar gyfraniad Dodd i astudiaeth o'r damhegion yw iddo fynnu eu gosod mewn cyd-destun arbennig yng ngweinidogaeth Iesu, sef sefyllfa o wrthdaro ble yr oedd ef ei hun yn brif ffigwr ac a achoswyd, yn wir, gan ei ymddangosiad ef. Mae'r safbwynt hwn yn cydweddu â'i awydd i bwysleisio'r elfen hanesyddol yn yr efengylau. Gwelir hyn yn glir yn History and the Gospel (1938). Tra'n cydnabod y cyfansoddwyd yr efengylau 'o ffydd i ffydd', credai bod modd mynd y tu ôl i ffydd yr Eglwys fore at y gwir Iesu hanes. Amlygir ei gred yn nilysrwydd y traddodiadau hanesyddol a geir yn yr efengylau yn y llyfr olaf a gyhoeddodd, The Founder of Christianity (1970), a oedd yn seiliedig ar ei Ddarlithoedd Syr D. Owen Evans a draddododd yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, un mlynedd ar bymtheg ynghynt. Bu dylanwad Dodd yn fawr hefyd mewn perthynas â'r ymdrech gan amryw o ysgolheigion o chwedegau'r ugeinfed ganrif ymlaen i ystyried o ddifrif gyfraniad Efengyl Ioan tuag at adeiladu'r darlun o Iesu hanes. Prif gasgliad ei ail gyfrol swmpus ar yr efengyl honno, Historical Tradition in the Fourth Gospel (1963), yw y gorweddai y tu ôl iddi draddodiad hynafol a rydd inni wybodaeth hanesyddol am Iesu sy'n annibynnol ar y traddodiadau a geir yn yr efengylau cyfolwg.

Yn wir, i lawer fel ysgolhaig ym maes astudio'r Bedwaredd Efengyl y gwnaeth Dodd ei gyfraniad mwyaf. Yn ei gyfrol ar ddehongli'r efengyl honno cychwynnodd drwy drafod yn fanwl yr hyn a farnai oedd ei chefndir crefyddol amrywiol, gan gasglu mai ei bwriad oedd ceisio cyflwyno'r neges Gristnogol i'r byd Helenistaidd. Yn ail ran y gyfrol cyflwynodd brif syniadau'r efengyl cyn symud yn y rhan olaf i'w dehongli. Fodd bynnag, nid yw ei bwyslais yn ei ail gyfrol fawr ar Efengyl Ioan ar fodolaeth traddodiadau Palesteinaidd cynnar y tu ôl iddi yn cydweddu'n esmwyth â'i safbwynt yn y gyfrol gyntaf.

Rhoddodd Dodd hefyd lawer o sylw i gyfraniad yr Apostol Paul i'n dealltwriaeth o Gristnogaeth gynnar mewn erthyglau dylanwadol ac yn ei esboniad safonol, The Epistle of Paul to the Romans (1932) yng nghyfres The Moffatt New Testament Commentary. Cyfrannodd esboniad arall, The Johannine Epistles (1946) i'r un gyfres. Yn wir, fe'i galwyd yn y gyfrol deyrnged iddo, The Background of the New Testament and Its Eschatology (1954) yn 'dywysog ymhlith esbonwyr'.

Fodd bynnag, mae'n siwr y cofir Dodd yn bennaf am ei gyfraniad enfawr i'r cyfieithiad modern o'r Beibl i'r Saesneg, The New English Bible, a geisiai gyflwyno ymadroddion y Beibl mewn idiom cyfoes gan symud oddi wrth duedd cyfieithiadau'r gorffennol i gyfieithu'r ysgrythur air am air. Fe'i apwyntiwyd yn Gyfarwyddwr Cyffredinol y prosiect hwn yn 1947, a bu wrth y gwaith o'i ddechrau hyd ei gwblhau gyda chyhoeddi'r cyfieithiad cyfan yn 1970. Yn sgil ei gyfraniad fe'i gwnaed yn Companion of Honour yn 1963. Roedd hwn yn waith a gyflawnwyd ar gais eglwysi Prydain gyfan, ac, yn wir, cefnogodd Dodd y mudiad eciwmenaidd yn frwd ar hyd ei oes a chyfrannodd yn sylweddol i drafodaethau Cyngor Eglwysi'r Byd ar Ffydd a Threfn.

Derbyniodd raddau doethur er anrhydedd gan ddeg prifysgol yng ngwledydd Prydain, yr UDA, Ffrainc a Norwy ac fe'i gwnaed yn Gymrawd o'r Academi Brydeinig yn 1946. Derbyniodd ryddfraint tref Wrecsam yn 1964. Er mai Saesneg oedd iaith yr aelwyd a'r capel yn y dref honno, ceir digon o dystiolaeth i ddangos ei ddiddordeb byw yn yr iaith Gymraeg a'i wybodaeth ohoni. Yn ddiau bu hyn yn gaffaeliad mawr iddo yn y gwaith o gyfieithu'r ysgrythurau.

Priododd ym Mehefin 1925, â Phyllis Mary, gweddw John Elliott Terry, a ganwyd iddynt fab a merch. Bu farw 22 Medi 1973. Cynhaliwyd gwasanaeth o ddiolchgarwch am ei fywyd yn Abaty Westminster ar 25 Ionawr 1974. Dyma'r tro cyntaf i weinidog anghydffurfiol gael ei goffáu yn y fath fodd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-07-31

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.