GRIFFITHS, DAVID ROBERT (1915-1990), gweinidog ac ysgolhaig Beiblaidd

Enw: David Robert Griffiths
Dyddiad geni: 1915
Dyddiad marw: 1990
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog ac ysgolhaig Beiblaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: D. Hugh Matthews

Ganed D. R. Griffiths ym Mrynhyfryd, Pentre, Y Rhondda yn 1915. Yr oedd yn fab i'r Parchg Robert Griffiths, gweinidog y Bedyddwyr ym Moreia, Pentre, a Mrs Mimah Griffiths, merch David Davies, Maes Twynog, Llanwrda. Roedd ganddynt bump o blant tra thalentog: Elizabeth Jane, Augusta, John Gwyn (sef yr Athro J. Gwyn Griffiths, Prifysgol Abertawe), David Robert a Gwilym. Addysgwyd D. R. Griffiths, fel ei frodyr a'i chwiorydd, mewn ysgolion yn Pentre, cyn iddo gael ei dderbyn yng Ngholeg Regent's Park a oedd yn y broses o symud o Lundain i Rydychen. Oherwydd hyn, bu'n astudio'n rhannol ym Mhrifysgol Llundain - gan gysylltu hefyd â New College, Llundain (Coleg yr Annibynwyr) - lle'r enillodd radd B.D. yn 1937. Rhwng 1937 a 1939 bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Regent's Park a Choleg Mansfield, Rhydychen, lle y graddiodd eto mewn diwinyddiaeth, gan dderbyn hefyd radd M.Th. Prifysgol Llundain yn 1943. Erbyn hynny, yr oedd yn weinidog Eglwys y Bedyddwyr, Caerllion-ar-Wysg. Fe'i hordeiniwyd yno yn 1940. Tra oedd yn y coleg, enillodd y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caerdydd, 1938, am gyfieithiad o Bedwerydd Eclôg Meseanaidd Fyrsil. Ymddangosodd y cyfieithiad yn y gyfrol Cerddi o'r Lladin a gyhoeddodd Gwasg Prifysgol Cymru dan olygyddiaeth J. Gwyn Griffiths yn 1962.

Yn 1944 priododd â Gladys Owen, a anwyd ym Mhontllan-fraith, sir Fynwy, merch i John Owen, Prifathro Coleg Caerllion-ar-Wysg. Ganed iddynt un ferch, Petra. Roedd Gladys Griffiths wedi graddio mewn Ffrangeg yng Ngholeg Somerville, Rhydychen, ac yn athrawes Ffrangeg yng Nghasnewydd adeg ei phriodas. Ar hyd ei hoes, gyda chefnogaeth ei gwr, llafuriodd yn ddiflino dros gyfiawnder a lles cymdeithas. Gohebai'n gyson â'r Athro Dennis Brutus, y bardd a'r llenor o Dde Affrica a garcharwyd yn 1963 am ddeunaw mis ar Ynys Robben, yr un carchar â Nelson Mandela. Wedi iddo gael ei ryddhau, yng nghartref D. R. a Gladys Griffiths yr arhosai Dennis Brutus ar ei ymweliadau â Chymru.

Symudodd y teulu o Gaerllion-ar-Wysg yn 1946 pryd apwyntiwyd D. R. Griffiths yn ddarlithydd mewn Astudiaethau Crefydd ac yn gaplan yn y Coleg Hyfforddi Brys a sefydlwyd yn Leavesden i hyfforddi athrawon ar ôl Rhyfel Byd II. Ymhen blwyddyn, symudodd y teulu eto, y tro hwn i Benarth, gan fod y gwr wedi ei benodi'n Athro'r Testament Newydd yng Ngholeg y Bedyddwyr Caerdydd, yn olynydd i'w ewythr, y Parchg John Griffiths. Wedi saith mlynedd yn darlithio yng Ngholeg y Bedyddwyr, symudodd D. R. Griffiths yn 1955 i fod yn ddarlithydd yn y Testament Newydd yn Adran Astudiaethau Crefyddol Prifysgol Caerdydd, ac yno yr arhosodd tan ei ymddeoliad yn 1979.

Yn ystod ei gyfnod yng Nghaerdydd bu D. R. Griffiths aelod o Banel Cyfieithwyr y Beibl Cymraeg Newydd yn trosi'r Testament Newydd a'r Apocryffa, a hefyd o Banel y Gorllewin o gyfieithwyr y Diglott Bible. Hwn oedd y gwaith a gyhoeddodd Cymdeithas y Beibl (y British and Foreign Bible Society) a'i ddosbarthu'n breifat yn rhannau i gyfeithwyr yr ysgrythurau i ieithoedd lleol. Bu'n gyd-olygydd y cylchgrawn Diwinyddiaeth rhwng 1954 a 1968. Traddododd ddarlith Pantyfedwen o dan nawdd Ymddiriedolaeth Catherine a'r Fonesig Grace James, Pantyfedwen, darlith a gyhoeddwyd yn 1970 gan Wasg John Penri yn gyfrol dan y teitl The New Testament and the Roman State.

Yn ifanc, yr oedd D. R. Griffiths wedi ymddiddori mewn barddoniaeth. Perthynai i Gylch Cadwgan - cylch o feirdd a llenorion ifanc blaengar yn y Rhondda. Yn 1953 cyhoeddwyd cyfrol o'u cerddi yn dwyn y teitl Cerddi Cadwgan. Mae gan D. R. Griffiths bedair ar bymtheg o gerddi yn y gyfrol sy'n cynnwys hefyd waith ei frawd, J. Gwyn Griffiths, ynghyd â cherddi gan Pennar Davies, Gareth Alban Davies a Rhydwen Williams. Cerddi dychan a pharodïau yw'r rhan fwyaf o'r cerddi sydd gan D. R. Griffiths yn Cerddi Cadwgan, ond y mae'r gyfrol o farddoniaeth a gyhoeddodd ef ei hun, Defosiwn a Direidi (1986), wedi ei rhannu'n dair rhan: Cerddi, Emynau (rhai'n gyfieithiadau) a Phytiau Byrion Ysgafn (lle'r ailgyhoeddir rhai allan o'r gyfrol Cerddi Cadwgan). Cyhoeddwyd dau emyn ganddo ('O Grist, Ffisigwr mawr y byd …' ac 'O! Roddwr pob ysbrydol ddawn …') yn llyfr emynau'r Bedyddwyr, Y Llawlyfr Moliant Newydd (1956) ac y mae Caneuon Ffydd (2001) yn cynnwys un emyn gwreiddiol a dau gyfieithiad ganddo.

Yn ei flynyddoedd olaf, roedd yn well ganddo gael ei adnabod fel D. R. Griffith, er mwyn gwahaniaethu rhyngddo a D. R. Griffiths, 'Amanwy'. Bu farw, 16 Mai 1990. Claddwyd ef ym Mhenarth wedi'r gwasanaeth angladd yn y Tabernacl, Caerdydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2009-08-20

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.