HOWELLS, GERAINT WYN, Barwn Geraint o Bonterwyd (1925-2004), ffermwr a gwleidydd

Enw: Geraint Wyn Howells
Dyddiad geni: 1925
Dyddiad marw: 2004
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ffermwr a gwleidydd
Maes gweithgaredd: Natur ac Amaethyddiaeth; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: David Lewis Jones

Ganed 15 Ebrill 1925, mab David John a Mary Blodwen Howells, Brynglas, Ponterwyd, Ceredigion. Addysgwyd ef yn ysgol Gynradd Ponterwyd ac Ysgol Ramadeg Ardwyn, Aberystwyth cyn dychwelyd i weithio gyda'i dad ar y fferm. Defnyddiai'r teulu'r Gymraeg yn iaith gyntaf ac yr oeddynt yn amlwg ym mywyd diwylliannol y pentref. Gwasanaethodd David John Howells fel ysgrifennydd Eisteddfod Ponterwyd ac ymfalchïai ei fab iddo yntau hefyd wasanaethu fel ysgrifennydd o 1944 i 2001.

Profodd Howells ei hun yn ffermwr llwyddiannus er ei fod yn gweithio ar dirwedd fynyddig anodd Cymru. Yn ei ieuenctid roedd yn bencampwr cneifiwr defaid. Ychwanegodd yn helaeth ar faint y fferm a etifeddodd oddi wrth ei dad a daeth yn ffigur dylanwadol yn y diwydiant gwlân, gan wasanaethu fel aelod i Gymru ar Fwrdd Marchnata Gwlân Prydain o 1966 i 1987, ac fel is-gadeirydd o 1971 i 1983; roedd hefyd yn gadeirydd cwmni Cynhyrchwyr Gwlân Cymru Cyf o 1977 i 1987. Roedd yn enwog am ei braidd mawr o ddefaid 'speckled faces'. O 1966, ef oedd prif weithredwr cwmni cyfanwerthwr cig Wilkinson a Seiner ym Manceinion. Fel Llywydd Cymdeithas Sioe Frenhinol Amaethyddol Cymru croesawodd y Frenhines i Sioe Flynyddol y Gymdeithas yn Llanelwedd ar 22 Gorffennaf 1983.

Pan oedd yn gymharol ifanc cychwynnodd ym 1962 ar ei yrfa boliticaidd yn gynghorydd annibynnol ar Gyngor Sir Aberteifi. Safodd fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholaeth Brycheiniog a Maesyfed yn yr etholiad cyffredinol 1970 ond daeth yn drydydd gwael ar ôl yr ymgeiswyr Llafur a Thorïaid. Mabwysiadwyd ef yn ymgeisydd y Rhyddfrydwyr dros etholaeth Aberteifi yn etholiad Chwefror 1974 ac enillodd fuddugoliaeth annisgwyl dros yr ymgeisydd Llafur, Elystan Morgan. Wyth mis yn ddiweddarach cadwodd Howells y sedd yn erbyn sialens Morgan. Yn y ddau etholiad roedd ei fwyafrif o gwmpas 2500. Ym 1979, llwyddodd Howells i gadw'r sedd gydag ychydig dros 2000 o bleidleisiau dros yr ymgeisydd Torïaidd. Gwnaeth ei araith gyntaf yn y Tŷ Cyffredin ar 14eg Mawrth 1974 yn ystod y rhan o'r ddadl ar araith y Frenhines yn ymwneud ag amaethyddiaeth a phrisiau. Tynnodd Howells sylw'r Tŷ'r Cyffredin mai ef oedd yr aelod cyntaf o etholaeth Sir Aberteifi er dros hanner can mlynedd nad oedd yn un o wŷr y gyfraith a'i fod yn ymfalchïo ei fod yn ffermwr. Prif thema ei araith oedd ei gonsyrn am gyflwr amaethyddiaeth ond siaradodd hefyd ar ddatganoli grym o Lundain i Gymru; cadwodd at y ddwy thema hyn gydol ei yrfa wleidyddol.

Penododd Jeremy Thorpe, arweinydd y Rhyddfrydwyr, Howells i fod yn llefarydd y blaid ar Gymru yn Nhy'r Cyffredin. Pan ymddiswyddodd Thorpe ddwy flynedd yn ddiweddarach, cefnogodd Howells David Steel yn ystod ei ymgyrch lwyddiannus i fod yn arweinydd y blaid. Penododd Steel ef i swydd llefarydd y blaid ar amaethyddiaeth a Chymru. Roedd yn gryf yn ei gefnogaeth dros y cytundeb rhwng y Blaid Ryddfrydol a Llywodraeth Lafur James Callaghan yn 1977-78 oherwydd y gobeithiai y byddai'r llywodraeth yn dilyn polisi datganoli. Wrth gael ei gludo mewn modur gweinidogaethol perswadiodd John Silkin, y Gweinidog dros Amaethyddiaeth i gydnabod yn swyddogol Undeb Ffermwyr Cymru. Pan oedd y mesurau datganoli dan ystyriaeth ym 1977, dadleuodd Howells yn gref y dylai Mesur yr Alban a Mesur Cymru gael eu hystyried yr un pryd gan Dy'r Cyffredin neu ni fyddai yn cefnogi'r llywodraeth. Mewn cyfweliad a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn Barn dywedodd os byddai'r llywodraeth a'r holl bleidiau eraill yn troi cefn ar ddatganoli yna byddai yn troi i Blaid Cymru neu i blaid arall yng Nghymru.

Yn dilyn methiant yr argymhellion datganoli ym 1979, parhaodd Howells i ddadlau dros ddatganoli ac am fesurau i gefnogi'r iaith Gymraeg. Yn Eisteddfod Aberteifi ym 1976, anogodd Howells yr awdurdodau lleol i roi i ddiwylliant Cymraeg ei le priodol yn addysg pob plentyn; 'rhaid i ni sefyll yn gadarn yn ein traddodiad a'n Cymreictod'. Pan gyhoeddwyd adroddiad gan Bwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ar ddarpariaeth rhaglenni darlledu Cymraeg ar y bedwaredd sianel newydd cyflwynodd Howells a Geraint Morgan, yr aelod Torïaidd dros sir Ddinbych, adroddiad lleiafrifol yn annog y dylid cynyddu nifer y rhaglenni Cymraeg bob blwyddyn hyd nes cael un sianel yng Nghymru yn darlledu yn gyfan gwbl yn y Gymraeg.

Heriodd ffurfio'r Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol y Blaid Ryddfrydol am y tir canol mewn gwleidyddiaeth. Daeth y ddwy blaid at ei gilydd yn y Gynghrair ('Alliance'), grŵp a ffurfiwyd ym Medi 1981 er mwyn cyfuno ymdrechion etholiadol. Fel Rhyddfrydwr traddodiadol nid oedd Howells yn frwdfrydig dros ffurfio'r Gynghrair. Cadarnhawyd ei amheuaeth yn etholiad cyffredinol 1983 pan nad oedd ond pump ymgeisydd o'r Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol ymhlith y tri ar hugain o aelodau'r Gynghrair a ddychwelwyd i'r senedd. Ar ôl 1983 ni chynhesodd Howells tuag at David Owen, arweinydd y Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol a chadarnhawyd ei amheuaeth eto yn etholiad cyffredinol 1987 pan etholwyd dim ond dau ar hugain o ymgeiswyr y Gynghrair i Dŷ'r Cyffredin. Yn dilyn yr etholiad hwn, galwodd David Steel am gyfuno'r ddwy blaid, yr hyn a gyflawnwyd ar 3 Mawrth 1985. Derbyniodd Howells y newidiadau hyn a chefnogodd Alan Beith, siaradwr Cymraeg, fel arweinydd y blaid newydd. Er hynny, gweithiodd yn dda gyda Paddy Ashdown, yr ymgeisydd llwyddiannus am yr arweinyddiaeth. Roedd Howells yn benderfynol o gadw hunaniaeth Rhyddfrydiaeth y blaid, a chwaraeodd rôl allweddol yn sicrhau'r enw Rhyddfrydwyr Democrataidd ar y blaid newydd.

Roedd gan Howells ddiddordeb yng ngwleidyddiaeth y trydydd byd a chondemniodd ddechrau'r gwotâu llaeth ym 1983 fel camsyniad, gan ddadlau y dylid defnyddio'r hyn a oedd dros ben i helpu'r miliynau a oedd yn newynu yn y trydydd byd. Roedd yn amheus ynglŷn â'r Undeb Ewropeaidd ac ymladdodd yn erbyn argymhellion a fyddai wedi cael effaith andwyol ar ffermwyr defaid Prydain. Flwyddyn yn ddiweddarach yn ystod dadl yn Nhachwedd 1992 ar Gytundeb Maastricht gwrthwynebodd bolisi Ashdown o bleidleisio gyda'r llywodraeth ac ysgrifennodd at holl aelodau'r Rhyddfrydwyr Democrataidd yn eu hannog i bleidleisio gyda'r Blaid Lafur neu atal eu pleidlais.

Yn etholiad cyffredinol 1987 helaethwyd etholaeth Ceredigion i gynnwys Gogledd Penfro. Daliodd Howells y sedd gyda mwyafrif o 4700 dros yr ymgeisydd Torïaidd. Bum mlynedd yn ddiweddarach ar 9 Ebrill 1992 collodd ei sedd pan enillodd Cynog Dafis, ymgeisydd Plaid Cymru a oedd yn bedwerydd ym 1987, y sedd yn annisgwyl gyda mwyafrif o 3100 dros Howells a ddaeth yn ail gyda chant o bleidleisiau dros yr ymgeisydd Toriaidd. Gwnaed Howells yn arglwydd am Oes yn y rhestr anrhydeddau ddiddymu a gyhoeddwyd 6 Mehefin 1992 a chymerodd yn deitl Arglwydd Geraint, o Bonterwyd yn Sir Dyfed.

Yn Nhy'r Arglwyddi, siaradai'r Arglwydd Geraint ar faterion Cymreig ac ar amaethyddiaeth. Roedd yn gefnogwr brwd o Ddeddf newydd yr Iaith Gymraeg, a'r argymhellion datganoli a gyflwynwyd i'r senedd gan y Llywodraeth Llafur ym 1997. I fyny at bron ddau fis cyn ei farw mynychodd Tŷ'r Arglwyddi yn rheolaidd; yr amser hwnnw arwyddodd gydag Arglwyddi Cymreig eraill lythyr i'r Western Mail yn gofyn am ymateb cyflym a chadarnhaol i Adroddiad Comisiwn Richard ar ddatganoli Cymreig. Ar 19 Mawrth 1998, apwyntiwyd ef yn un o bump arglwydd, o wahanol bleidiau a ddewiswyd yn 'Extra Lords in Waiting' a oedd yn gyfrifol am gyflawni dyletswyddiau seremonïol i'r Frenhines.

Parhaodd yr Arglwydd Geraint i chwarae rhan weithredol ym mywyd sir Aberteifi wedi iddo gael ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi. Pan ffurfiwyd awdurdod unedol newydd ar 1 Ebrill 1996 o dan yr enw Sir Aberteifi siomwyd ef pan fethodd ei ymgyrch i gadw'r hen enw pan benderfynodd y Cyngor Sir i newid yr enw i Geredigion. Tra yn dal i fod yn aelod o'r Dy'r Cyffredin, lansiodd apêl i gael sganiwr i ysbyty Bronglais, Aberystwyth. Cododd dros filiwn o bunnoedd ac, mewn cydnabyddiaeth o'i ymdrechion rhyfeddol enwyd y ganolfan adnoddau gofal lliniarol a agorwyd ym Mronglais ar Awst 2007 yn Ganolfan Adnoddau Gofal Lliniarol Tŷ Geraint.

Gŵr mawr gyda cherddediad araf ac osgo morwrol, roedd gan yr Arglwydd Geraint gynhesrwydd personol enfawr ac adweinid ef yn yr etholaeth ac yng Nghymru ben baladr yn syml fel ' Geraint '. Ar yr un pryd roedd yn wleidydd craff a siaradai yn anfynych yn y senedd ac ar bynciau a oedd o fewn ei arbenigedd. Pan ymunodd â dirprwyaeth o'i gydseneddwyr ar daith ffeithiau i Ynysoedd y Falkland yn fuan ar ôl y rhyfel gyda'r Ariannin, ymwelodd â fferm ddefaid anghysbell, a syfrdanodd yr ynyswyr gyda'i wybodaeth arbenigol am sychu mawn a ffermio defaid. Dioddefodd â phroblemau'r galon cyn etholiad cyffredinol 1992 a rai blynyddoedd yn ddiweddarach cafodd driniaeth lawfeddygol fawr ar ei galon. Priododd Mary Olwen Hughes Griffiths ym 1957; cawsant ddwy o ferched, Gaenor a Mari. Cartref yr Arglwydd Geraint oedd Glennydd, Ponterwyd; bu farw ar 17 Ebrill 2004 a chynhaliwyd ei angladd ar 24 Ebrill yng nghapel Methodistiaid Calfinaidd Ponterwyd, lle y gwasanaethodd yn flaenor; yr oedd tyrfa o alarwyr o Sir Aberteifi, o'r bywyd cyhoeddus Cymreig, a'r Blaid Ryddfrydol Ddemocrataidd yn bresennol. Gadawodd ystâd o £937,757 net.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-10-16

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.