JOHN, BRYNMOR THOMAS (1934-1988), gwleidydd Llafur

Enw: Brynmor Thomas John
Dyddiad geni: 1934
Dyddiad marw: 1988
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd Llafur
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd ef ar 18 Ebrill 1934, yn fab i William Henry John, paentiwr ac addurnwr, a Sarah Jane John. Addysgwyd ef yn ysgol elfennol Wood Road, Trefforest, Ysgol Ramadeg y Bechgyn Pontypridd a Choleg y Brifysgol, Llundain. Graddiodd yn Ll.B. (gradd anrhydedd) ym 1954. Roedd yn glerc yn gwneud ei erthyglau rhwng 1954 a 1957. Daeth yn gyfreithiwr ym 1957. Roedd ar wasanaeth cenedlaethol, 1958-60, gan wasanaethu fel swyddog o fewn cangen addysg yr Awyrlu Brenhinol, ac roedd yn bartner gyda chwmni o gyfreithwyr rhwng 1960 a 1970. Ac yntau'n bartner o fewn cwmni Morgan, Bruce a Nicholas, Pontypridd, arbenigedd Brynmor John oedd achosion yn ymwneud â damweiniau diwydiannol.

Ymunodd â'r Blaid Lafur pan oedd yn ddeunaw oed ac roedd yn ysgrifennydd cangen y Blaid Lafur yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain. Etholwyd ef yn AS dros etholaeth Pontypridd yn etholiad cyffredinol 1970 yn olynydd i Arthur Pearson a pharhaodd i gynrychioli'r etholaeth yn y Senedd hyd at ei farw. Daeth i amlygrwydd yn wreiddiol am ymosod ar y tîm hoci Cymreig am fynd i Dde Affrica a bu'n driw ei gefnogaeth i ddatganoli. Brynmor John oedd yr is-ysgrifennydd gwladol dros amddiffyn yn yr Awyrlu Brenhinol, o dan Harold Wilson, Mawrth 1974-Ebrill 1976, ac yna'n weinidog gwladol yn y Swyddfa Gartref yn ystod llywodraeth Callaghan rhwng Ebrill 1976 a mis Mai 1979. Ystyrrid ef yn bâr diogel o ddwylo a fyddai fel arfer yn osgoi pynciau llosg a dadleuol. Gwasanaethodd fel cadeirydd y Grŵp Llafur Cymreig, 1983-84. Bu hefyd yn llefarydd yr wrthblaid ar Ogledd Iwerddon, 1979-80, ar amddiffyn, 1980-81, ar wasanaethau cymdeithasol, 1981-83, ac ar amaethyddiaeth, 1984-87.

Roedd yn hallt ei elyniaeth i ddiarfogi unochrog a rhuthrodd allan mewn tymer o gynhadledd y Blaid Lafur yn Brighton ym 1981 pan wrthododd y cadeirydd Alex Kitson alw arno i annerch y gynhadledd. Yn fuan iawn ar ôl hynny penodwyd John Silkin i gymryd lle Brynmor John o fewn cabinet yr wrthblaid. Ar ôl hynny ni fu Brynmor John yn flaenllaw yng nghylchoedd mewnol y Blaid Lafur. Enwyd ef yn un a fyddai'n debygol o fynd drosodd i'r Democratiaid Cymdeithasol ym 1981, ond roedd yntau'n ddig iawn o glywed y fath ensyniadau. Dywedodd wrth fyfyrwyr ym Mholitecnig Cymru y byddai gweithgareddau'r SDP yn siŵr o sicrhau llwyddiant y de caled. Roedd hefyd yn wrthwynebwr chwerw i aelodau Militant a ymdreiddiai i mewn i'r Blaid Lafur. Cefnogodd Roy Hattersley fel ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur ym 1983 ac yna cafodd ei ddiswyddo o gabinet yr wrthblaid gan Neil Kinnock. Yn ystod ei flynyddoedd olaf taflodd ei hun i mewn i waith etholaethol gydag egni newydd. Roedd yn ffigwr gwallt wedi britho, yn gwisgo sbectol, heb lawer o garisma, ond roedd yn hawdd iawn gwneud yn fach o'i alluoedd ef ac roedd ganddo ryw ddoniolwch arbennig mewn dadleuon.

Priododd ar 6 Awst 1960 Anne Pryce, merch David L. Hughes, Church Village ger Pontypridd. Ei hobi oedd gwylio rygbi. Bu farw ar 13 Rhagfyr 1988 yn ysbyty Sant Thomas, Llundain ar ôl dioddef trawiad ar y galon. Amlosgwyd ei weddillion yn amlosgfa Glyntaf. Olynwyd ef fel AS Llafur Pontypridd gan Kim Howells.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2009-07-27

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.