JONES, DANIEL (1908-1985), gwleidydd Llafur

Enw: Daniel Jones
Dyddiad geni: 1908
Dyddiad marw: 1985
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd Llafur
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd ef yn Danos Jones yn y Porth yng nghwm Rhondda ar 26 Medi 1908, yn fab i Daniel Jones, glöwr (Mae un ffynhonnell yn dweud mai yn Ystradgynlais y ganwyd ef). Addysgwyd ef yn ysgol elfennol Ynyshir a Chyngor Cenedlaethol y Colegau Llafur. Gweithiodd fel glöwr, 1920-32, dioddefodd gyfnod o ddiweithdra, 1932-36, ac bu'n beiriannydd o fewn y diwydiant awyrennau ar ôl 1936. Dyfarnwyd y BEM iddo ym 1946 i gydnabod ei wasanaeth yn y diwydiant awyrenau yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan enillodd gymeradwyaeth gan Lysgenhadaeth Rwsia. Roedd yn ddarlithydd yng Nghyngor Cenedlaethol y Colegau Llafur, 1948-59, ac yn drefnydd ar ran Undeb Unedig y Peirianwyr (AEU), 1954-59. Roedd yn swyddog i'r undeb hon, ac yn ddiweddarach i'r AUEW, am ugain mlynedd lawn. Safodd yn ymgeisydd Llafur yn etholaeth y Barri yn erbyn Raymond Gower yn etholiad cyffredinol 1955 a denodd gynifer â 19,722 o bleidleisiau, cyfanswm cymeradwy iawn. Daniel Jones oedd yr AS Llafur dros etholaeth Burnley, 1959-83. Roedd yn aelod o Bwyllgor yr Amcangyfrifon, 1964-66, ac yn ysgrifennydd preifat seneddol, 1964-67, i'r Gwir Anrhydeddus Douglas Jay, Llywydd y Bwrdd Masnach dan Harold Wilson. Roedd yn Gymro Cymraeg, a chefnogodd yn frwd weithgareddau CND. Priododd ym 1932 Phyllis, merch John Williams, Maesteg, a bu iddynt ddau fab ac un ferch. Eu cartref oedd 124 Marsden Road, Burnley. Cerddoriaeth a cherdded oedd ei ddiddordebau. Bu farw Daniel Jones ar 19 Chwefror 1985.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-07-31

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.