JONES, THOMAS WILLIAM ('TOM') BARWN MAELOR O'R RHOS, (1898-1984), gwleidydd Llafur

Enw: Thomas William Jones
Dyddiad geni: 1898
Dyddiad marw: 1984
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd Llafur
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd ef ym Mhonciau ar 10 Chwefror 1898, yn fab i James Jones ac Elizabeth Bowyer. Roedd yn frawd i James Idwal Jones AS (1900-1982). Addysgwyd ef yn Ysgol y Bechgyn, Ponciau a dechreuodd waith fel glöwr ym mhwll glo Bersham pan nad oedd ond yn bedwar-ar-ddeg oed, ac yntau'n ennill deuddeg swllt yr wythnos yn unig ar y pryd. Dilynodd felly yn ôl traed ei dad. Y cefndir hwn oedd yn gyfrifol am ei wneud yn Sosialydd mor danbaid ac yn arwr y glowyr. Fel canlyniad i gryn berswâd gan ei hen brifathro, daeth T. W. Jones yn ddisgybl-athro yn Awst 1914, wedyn ymunodd â'r corfflu anymladdol fel gwrthwynebwr cydwybodol ym 1917. Fel canlyniad i'w fethiant i ddilyn gorchymyn, bu o flaen cwrt-marsial yn Rhagfyr yr un flwyddyn a chafodd ei garcharu tan fis Mai 1919. Bu rhaid iddo wynebu chwe mis o lafur caled. Daeth Jones yn fyfyriwr yn y Coleg Normal, Bangor, 1920-22, lle daeth yn athro trwyddedig, yna bu'n athro ysgol o 1922 tan 1940, a gwasanaethodd fel swyddog lles gyda'r Weinyddiaeth Lafur, 1940-46. Ym 1946 penodwyd ef yn swyddog lles, addysg a pherthnasoedd cyhoeddus gyda Chwmni Pŵer a Thrydan Gogledd Cymru, corff a ddaeth yn ddiweddarach yn MANWEB ym 1951, ac yn sgil hyn Jones oedd yn gyfrifol am les yr holl weithwyr a drosglwyddwyd o'r dinasoedd i ffatrïoedd gogledd Cymru. Daeth y gwaith hwn ef ag ef i gysylltiad rheolaidd â phroblemau'r dosbarth gweithiol a chynorthwyodd i ffurfio ei syniadau fel gwleidydd Llafur. Daeth Jones yn Ynad Heddwch dros Sir Ddinbych ym 1937 ac yntau ond yn 39 mlwydd oed (y gŵr ieuengaf erioed o'r dosbarth gweithiol i gael ei ddewis yn Ynad Heddwch yn yr hen sir Ddinbych), ac yna gwasanaethodd fel cadeirydd ar fainc Ruabon am ugain mlynedd.

Ymunodd Jones â'r Blaid Lafur Annibynnol ym 1919 a gwasanaethodd fel cadeirydd Cyngor Llafur Wrecsam a Ffederasiwn Llafur Gogledd Cymru. Cyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer bod yn ymgeisydd seneddol yn Sir Fôn ym 1931, ond tynnodd ei enw yn ôl er mwyn cefnogi Megan Lloyd George, yr ymgeisydd Rhyddfrydol Annibynnol a'r AS dros y sir ers mis Mai 1929. Safodd yn aflwyddiannus dros y Blaid Lafur yn sir Feirionnydd yn etholiad cyffredinol 1935 yn erbyn Henry Haydn Jones, yr AS Rhyddfrydol yno. Cipiodd T. W. Jones yr etholaeth hon ym 1951, gan wasanaethu yno fel AS nes iddo ymddeol ym 1966. Credai Jones yn bendant mai un o'i gampau pennaf fel gwleidydd oedd ei lwyddiant yn perswadio'r llywodraeth i ddod â llyn y Bala o dan berchnogaeth gyhoeddus. Chwaraeodd hefyd ran ganolog yn perswadio'r Bwrdd Trydan Canolog i sefydlu gorsaf ynni niwclear yn Nhrawsfynydd ac yn sicrhau mai ym Mlaenau Ffestiniog y sefydlwyd y cynllun storio pympiau. Roedd diweithdra yn arbennig o uchel o fewn yr ardaloedd hyn ar y pryd. Gwasanaethodd fel cadeirydd y grŵp Cymreig o Aelodau Seneddol Llafur a hefyd Ffederasiwn Llafur Gogledd Cymru.

Aeth wedyn i Dŷ'r Arglwyddi fel Barwn Maelor o Rhos (iarllaeth am oes), gan barhau'n weithgar o fewn Tŷ'r Arglwyddi hyd nes i'w iechyd ddirywio ym 1981. Parhaodd i gefnogi achosion a fyddai o fudd a mantais i bobl Cymru. Un o'i brif ymgyrchoedd oedd ymladd i gadw'r 'Sul Cymreig' pan gyflwynodd gwelliant i gadw Cymru allan o ddarpariaethau'r Mesur Adloniant ar y Sul a noddwyd yn Nhŷ'r Arglwyddi gan yr Arglwydd Willis. Yn ystod seremoni Arwisgo Tywysog Cymru yng nghastell Caernarfon yng Ngorffennaf 1969, yr Arglwydd Maelor oedd yn gyfrifol am gludo un o'r clustogau y bu'r goron a'r fodrwy frenhinol yn gorwedd arno, symbolau a roddwyd i'r Frenhines yn ystod y seremoni. Ym 1981 cafodd ei gyfarch fel 'y Barwn oedd yn canu' gan mai ef oedd y person cyntaf erioed i ganu yn Nhŷ'r Arglwyddi wrth adrodd stori'n ymdrin â chan. Ystyrid ef yn bersonoliaeth gref yn Nhŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi fel ei gilydd. Roedd yn Sosialydd tanbaid ac yn ymgyrchwr brwd dros achosion yn ymwneud â lles y glowyr. Cyhoeddodd gyfrol o atgofion Fel Hyn y bu ym 1970. Priododd ar 1 Ionawr 1928 Flossy, merch Jonathon Thomas, Penbedw. Bu hi farw o'i flaen. Bu un mab a merch fyw ar ei ôl. Roedd y teulu yn byw yng Nger-y-Llyn, Ponciau, Wrecsam ac ym Mro Hedd, Stryd Clarke, Ponciau, Wrecsam. Bu Arglwydd Maelor farw mewn tân yn ei gartref yn Wrecsam ar 18 Tachwedd 1984 pan ddarganfuwyd ei fod wedi marw ar ôl iddo gyrraedd Ysbyty Wrecsam. Amlosgwyd ei weddillion yn Amlosgfa Pentrebychan.

Ystyrid T.W. Jones fel Aelod Seneddol y glowyr yn fwy na dim. Canolbwyntiodd ei weithgareddau seneddol ar faterion diwydiannol Cymreig ac roedd bob amser yn gefnogol i achosion y glowyr. Drwy gydol ei fywyd ystyrid ef yn gymeriad lliwgar a dadleuol yn aml. Tu allan i San Steffan roedd galw mawr amdano fel siaradwr nerthol yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd, a daeth yn amlwg yng ngweithgareddau'r Eisteddfod Genedlaethol a'r Eisteddfod Ryngwladol fel ei gilydd. Cafodd fynediad i Orsedd Beirdd Ynys Prydain ym 1962 ac ychydig ar ôl hynny dewiswyd ef yn llywydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. Ysgrifennai farddoniaeth a chyhoeddodd nifer o gyfrolau, gan gynnwys astudiaeth, Y Senedd (1969), a chofiant i Thomas Jefferson, Arlywydd Unol Daleithiau America (1980). Bu'n ffigwr amlwg ym mywyd diwylliannol, cymdeithasol a gwleidyddol Cymru am nifer fawr o flynyddoedd. Roedd hefyd yn bregethwr lleyg ac yn gymeriad llawn doniolwch a hoffai ymffrostio iddo wasanaethu o fewn dau o garchardai caletaf Prydain - Wormwood Scrubs a Dartmoor.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2009-07-27

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.